Skip to content

Gweithio gyda’r cyfryngau

Rydym wedi darparu arweiniad ac adnoddau er mwyn i chi fedru cynhyrchu'r cyhoeddusrwydd gorau posib ar gyfer eich prosiect

Cael cyhoeddusrwydd

Mae cyhoeddusrwydd yn bwysig. Mae'n galluogi eich prosiect i ddweud wrth bobl pwy ydych, beth rydych yn ei wneud a sut bydd eu cymuned yn elwa.

Mae hefyd yn rhoi gwybod i bobl ble mae eu harian yn y Loteri Genedlaethol yn cael ei wario

Mae arweiniad llawn ar gael yn ein dogfen arweiniad cyhoeddusrwydd How to create effective publicity - 584KB ond dyma rai syniadau syml:

1. Byddwch yn glir ynghylch eich amcanion

  • Pam rydych chi'n mynd i'w wneud?
  • Beth rydych am ei gyflawni?
  • Beth yw'r negeseuon allweddol?
  • Ai nawr yw'r amser iawn?
  • Oes gennych ddigon o bobl i'w wneud?
  • Pwy yw'r gynulleidfa darged?

2. Cynlluniwch yr hyn rydych eisiau ei wneud

  • Gwybod y dyddiau a'r amserau y mae papurau newydd yn cael eu cyhoeddi ynghyd â therfynau amser y golygyddion.
  • Byddwch yn ymwybodol o faint o amser ac ymdrech y mae eu hangen i lunio datganiad i'r wasg ac enwebu llefarydd
  • Sicrhewch nad yw eich cyhoeddiad yn cael ei wneud cyn dyddiad embargo'r Gronfa Loteri Fawr.

3. Cynnwys pobl

  • Rhannu syniadau ar gyfer cyhoeddusrwydd gydag aelodau o'ch grŵp ac anogwch fewnbwn ganddynt
  • Cytunwch ar beth fydd y negeseuon allweddol.
  • Gofynnwch i rywun wirio eich datganiad i'r wasg cyn i chi ei anfon
  • Gofynnwch i aelodau o'ch grŵp a ydynt am gymryd rhan drwy dynnu llun ohonynt neu gyfweliadau.

Lawrlwytho'r canllawiau cyhoeddusrwydd cyflawn How to create effective publicity - 584KB

Cael gwybod sut i hyrwyddo eich prosiect 
- 842KB

Gallwn gyflenwi eitemau megis crysau-t a balwnau ar gyfer digwyddiadau lansio ac agor prosiectau.

Lawrlwytho ffurflen farchnata Merchandise Order Form for project openings only - 70KB neu cysylltwch â marketing@biglotteryfund.org.uk.

Lawrlwytho'r ffurflen caniatâd tynnu lluniau Photography Consent Form - 134KB

Download the press release template in one of 3 colours: