Rydym am i chi fanteisio i’r eithaf ar eich grant. Dilynwch y camau cywir i sicrhau eich bod yn cyflawni’ch potensial
Rydym am i chi gael y gorau o'ch grant. Defnyddiwch restr wirio 'Syniadau gwych' a dilynwch y camau cywir i wneud yn siwr eich bod yn cyflawni eich potensial.
Gweld y darlun mawr
A ydych wedi darllen y llyfryn grantiau Mawr yn wych?
Ceisiwch gael effaith mawr
A ydych wedi rhoi gwybod i'r rheolwr brandiau yn y Gronfa Loteri Fawr os ydych yn bwriadu cydnabod dyfarniad grant dros £500,000?
Eich amser i ddisgleirio
A ydych wedi cynllunio sut y byddwch yn cydnabod eich grant? Gallwch archebu rhai eitemau trwy ddefnyddio'r ffurflen archebu yn eich pecyn camau mawr nesaf. Os ydych wedi derbyn arian ar gyfer prosiect adeiladu ag arian cyfalaf a ydych wedi trafod cydnabod y grant gyda'ch pensaer?
Camu ar y llwyfan
A ydych wedi rhoi gwybod i'n tîm marchnata ynghylch unrhyw ddigwyddiadau neu agoriadau yr ydych yn eu cynnal? Cysylltwch â nhw yn marketing@biglotteryfund.org.uk. Fe allan nhw gynnig help a chyngor, a rhoi peth cynnyrch i chi am ddim. Mae hyn yn arbennig o bwysig oes pobl uchel eu proffil neu'r wasg yn bresennol.
Llonni ein dydd
A ydych wedi taro golwg ar yr adran hon o'r wefan? Mae yno syniadau a chyngor defnyddiol ar gyfer eich prosiect. Os ydych yn gwneud rhywbeth gwreiddiol neu anarferol pam na wnewch chi anfon astudiaeth achos byr neu lun i'w gynnwys ar ein gwefan neu gylchgrawn? Gallwch anfon y rhain at: publications@biglotteryfund.org.uk
Gwneud gwahaniaeth mawr
A ydych wedi cyfeirio at y Gronfa Loteri Fawr yn eich datganiadau i'r wasg a'ch cyhoeddusrwydd y - ac wedi cynnwys ein logo? Gwelwch y llyfryn ‘Mawr yn wych.
Eich cyfle mawr
A ydych wedi cyfeirio at ein dogfen canllawiau cyhoeddusrwydd ('Eich cyfle mawr') er mwyn cael cymorth gyda chynllunio digwyddiadau a llunio datganiadau i'r wasg?