Skip to content

Beth os ydyn nhw'n teimlo bod yna wir rwystrau i gymryd rhan?

Dyma rai pethau y gallwch eu hystyried i oresgyn y rhwystr hwn:

  • Ydy eich lleoliad yn agos i gludiant cyhoeddus, mewn ardal sydd wedi'i goleuo'n dda ac yn rhywle y mae eich grwpiau targed yn teimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel?
  • All pobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn neu gadeiriau gwthio, neu'r rhai sy'n cael grisiau neu drysau trwm yn anodd, ddefnyddio eich lleoliad?
  • All eich grwpiau targed fforddio i ddefnyddio eich gwasanaethau?
  • Oes gan eich grwpiau targed anghenion cyfathrebu penodol, megis iaith gymunedol, iaith arwyddion neu ddolen glywed?
  • Oes angen i chi gynllunio eich gwasanaethau o gwmpas gwyliau ysgol, gwyliau crefyddol neu gynnig rhai gweithgareddau y tu allan i oriau ysgol?
  • Oes angen cefnogaeth ar bobl gyda chyfrifoldebau gofalu, ar gyfer plant neu aelodau anabl o'r teulu?
  • Oes angen i chi ystyried anghenion deietegol oherwydd rhesymau crefyddol, diwylliannol neu iechyd, neu oherwydd bod pobl yn llysieuwyr?
  • A fyddai pobl o'ch grwpiau targed sy'n dod i mewn i'ch adeilad neu i'ch digwyddiadau'n teimlo'n gyfforddus a'u bod yn cael eu croesawu yno?
  • Oes angen i chi ddod o hyd i ffyrdd o roi mwy o gyfle i'ch grwpiau targed ddweud eu dweud ynglŷn â sut mae eich mudiad yn cael ei redeg?

Enghraifft

Roedd cylch chwarae cyn-ysgol yn awyddus i sicrhau ei fod yn denu ac yn darparu ar gyfer plant ag anableddau. Roedd eisiau darparu cyfleoedd chwarae sy'n annog yr holl blant i gymysgu'n dda.

Trwy drafodaethau gyda mudiad anableddau lleol a rhieni i blant anabl, roedd yn gallu datblygu rhaglen weithgareddau a ddarparodd ar gyfer plant anabl ac abl eu cyrff.

Ystyriodd y rhaglen hoff bethau a chas bethau pob plentyn a'u hanghenion cefnogi penodol. Un o bwyntiau dysgu allweddol y grŵp oedd bod angen iddo fabwysiadu ymagwedd lai strwythuredig a meddu ar ddigon o staff, llawer o weithgareddau bach a chyfarpar chwarae a sefydlwyd eisoes ynghyd â hyblygrwydd o ran yr hyn yr oedd yn ei wneud.