Skip to content

Mwy am gasglu data'n rheolaidd

Mae adolygu'r data rydych eisoes yn ei gasglu'n rheolaidd yn man cychwyn da, gan y gallwch ddefnyddio ffurflenni monitro wedyn i lenwi unrhyw fylchau yn eich tystiolaeth.

Trwy gasglu data'n rheolaidd, golygwn wybodaeth rydych yn gofyn amdani gan bobl oherwydd ei fod yn berthnasol i gyflwyno eich prosiect. Yn gyffredinol byddwch yn gofyn am y data hwn pan fydd unigolion yn ymgeisio i gymryd rhan yng ngweithgareddau neu wasanaethau eich prosiect. Er enghraifft, i benderfynu a yw gweithgaredd yn addas i rywun gall fod angen i chi ofyn eu hoedran.

Un o fanteision casglu data'n rheolaidd yw eich bod yn ei wneud eisoes felly nid oes angen i chi sefydlu systemau newydd. Yr anfantais yw ei fod yn debygol na fydd gennych ddata ar gyfer ein holl gategorïau cydraddoldeb

Hefyd, oherwydd bod y data'n gysylltiedig ag unigolyn mae'n mynd yn ddata personol ac yn destun gofynion y Ddeddf Diogelu Data. Felly, os nad ydych eisoes yn ei wneud, bydd angen i chi hysbysu defnyddwyr eich prosiect eich bod yn bwriadu defnyddio'r wybodaeth hon at ddibenion monitro.