Skip to content

Brîff Mawr Cymru

Blwyddyn Newydd - Cadeirydd Newydd

Mae 2012 eisoes yn profi i fod yn flwyddyn brysur i'r Gronfa Loteri Fawr. Ar 1 Ionawr eleni roedd gennyf y fraint o ddechrau ar fy mhenodiad fel Cadeirydd Pwyllgor Cymru'r Gronfa Loteri Fawr ac aelod o Fwrdd y DU.

Gan gadw llygad ar y dyfodol, byddaf yn arwain Pwyllgor Cymru wrth bennu'r cyfeiriad strategol a'r fframwaith polisi ar gyfer rhaglenni ariannu a fydd  yn gwneud cyfraniad unigryw at genhadaeth y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru. Bydd hyn yn arbennig o bwysig dros y flwyddyn nesaf o ystyried lefel uchel y gwerthiannau tocynnau Loteri ar hyn o bryd.  Mae hyn yn cyfateb i ariannu ychwanegol posib i'r Gronfa Loteri Fawr ei ddosbarthu i gymunedau anghenus ledled Cymru.  Byddwn yn ymgynghori'n weithredol â budd-ddeiliaid ynglyn â'r ariannu hwn yn ddiweddarach eleni, a gobeithiwn gynnwys llawer ohonoch chi yn y trafodaethau hyn.

Yn 2012 mae gennym gronfeydd newydd a chyfredol i fudiadau ymgeisio iddynt. Ym mis Ionawr lansiwyd rownd 2 ein rhaglen Awydd am Arloesi ar draws Cymru. Mae'r rhaglen yn anelu at ariannu ymagwedd arloesol at fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol datblygol a'r rhai sydd wedi bodoli ers tro yng Nghymru. Mae £5 miliwn ar gael i gefnogi syniadau neu ymagweddau newydd sbon na roddwyd cyfle arnynt unrhyw le arall yn y DU.

Parhawn yn ymrwymedig hefyd i'n rhaglenni poblogaidd, Pawb a'i Le ac Arian i Bawb sydd, rhyngddynt, yn buddsoddi dros £20 miliwn y flwyddyn mewn prosiectau ledled Cymru i gefnogi gweithgareddau ac adfywio cymunedol.

Dymuniadau gorau

Syr Adrian Webb

Cadeirydd, Pwyllgor Cymru

Rhaglenni ariannu sy'n agored i'ch etholwyr

Gallwch ddefnyddio ein Canfyddwr arian i chwilio am raglenni ariannu sydd ar gael i’ch etholwyr, ac mae ein chwiliwr grantiau yn eich galluogi chi i ddod o hyd i brosiectau sydd wedi derbyn arian yn eich etholaeth.

Gweld rhestr o raglenni ariannu sydd ar agor i’ch etholwyr deuaidd wedi ei fewnforio yn awtomatig

Chwa o awyr iach i lyndon ar ôl blynyddoedd o gamddefnyddio alcohol

Cafodd ei fwlio'n ddifrifol yn yr ysgol, collodd mwy o swyddi nag y gall eu cofio ar ôl i'w gaethineb i alcohol fynd mor wael y dechreuodd ddioddef o byliau o epilepsi.

Heddiw mae Lyndon James, sy'n 45 oed ac yn hanu o Landudno, yn hynod o ddiolchgar ei fod yn dal yn fyw ar ôl carcharu ei hun drwy alcoholiaeth ar hyd y rhan fwyaf o'i fywyd. Dim ond pan fu farw ei gyfaill o 20 mlynedd yn sgil camddefnyddio alcohol eleni yn 48 oed y dechreuodd agor ei lygaid i'r gwirionedd, penderfynu wynebu ei sefyllfa a goresgyn ei broblem gydag alcohol unwaith ac am byth cyn iddo fe ddioddef yr un dynged.

Mae Lyndon bellach wedi bod yn sobr ers dros bedwar mis ac yn teimlo bod ganddo awydd newydd am fywyd diolch i'r gefnogaeth a gafodd gan brosiect sydd wedi derbyn dyfarniad gan y Gronfa Loteri Fawr yng Nghonwy. Heddiw mae'n annog mwy o bobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl i geisio cymorth gan brosiect Conwy Refrain a redir ar y cyd gan Aberconwy Mind a CAIS. Tair blynedd yn ôl dyfarnwyd dros hanner miliwn o bunnoedd (£596,756) i'r prosiect o dan raglen Iechyd Meddwl £15 miliwn y Gronfa Loteri Fawr, a'r nod yw hyrwyddo ailsefydlu ac annibyniaeth pobl sy'n cwympo i mewn i'r bylchau mewn gwasanaethau Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau.

Mae'r prosiect yn darparu gwasanaeth cwnsela therapiwtig am ddim i unigolion bob wythnos naill ai yng Nghanolfan Mind Aberconwy neu yng Nghanolfan DAWN ym Mae Colwyn.

"Dw i'n dod yma bob wythnos, ac rydym yn eistedd i lawr ac yn siarad am fy mhroblemau. Mae wedi bod yn rhyfeddol. Duw a wyr ble byddwn hebddo. A bod yn gwbl onest dw i'n credu y byddwn yn farw. Maen nhw'n fy helpu i chwilio am gyfleoedd gwaith a hyd yn oed peth gwaith gwirfoddol. Ni alla i ddweud digon am y prosiect yma a pha mor dda y mae. Ble y byddwn hebddo dw i ddim yn gwybod. Dylai fod prosiectau fel hwn ym mhob cymuned.

Dyfarniad o £1.7 miliwn i wella cyfleoedd bywyd plant yng nghymru

Mae dau brosiect yng Nghymru'n rhannu mwy na £15.2 miliwn a ddyfarnwyd gan y Gronfa Loteri Fawr i brosiectau blaengar ar draws y DU sy'n cefnogi plant ifanc y maent yn tyfu i fyny mewn amgylchiadau anodd iawn ac sy'n helpu i drawsnewid eu cyfleoedd bywyd.

Mae Barnardos Cymru a Chymdeithas Plant a Phobl Ifanc Sir Gâr ymysg y 17 o brosiectau yn y DU y dyfarnwyd grantiau iddynt o dan rownd gyntaf rhaglen Dyfodol Gwell y Gronfa Loteri Fawr, a fydd yn darparu hyd at £26 miliwn ar gyfer cefnogaeth fwy cydlynol a chynharach i deuluoedd â phroblemau lluosog a chymhleth.

Bydd cefnogaeth gan y Gronfa Loteri Fawr yn gweld teuluoedd yn derbyn cefnogaeth unigol wedi'i theilwra gan fudiadau sector gwirfoddol lleol sy'n gweithio mewn partneriaethau gyda gwasanaethau cyhoeddus. Bydd pob partneriaeth yn derbyn hyd at £900,000 dros dair i bum mlynedd i weithio gyda theuluoedd y mae eu plant hynaf rhwng pum a deng mlwydd oed. Bydd tua 8,000 o deuluoedd yn elwa o'r rownd hon o ddyfarniadau.

Bydd y rhaglen yn gweld rhai o'r elusennau mwyaf yn cydweithio â rhai o'r mudiadau cymunedol lleiaf a gwasanaethau cyhoeddus lleol i dreialu ystod o ymyraethau teuluol. Bydd rhai prosiectau'n ymwneud â chyflwyno rhaglenni magu plant seiliedig ar dystiolaeth, ailddylunio gwasanaethau ar draws ardaloedd cyfan neu estyn allan mewn ffyrdd newydd i'r teuluoedd hynny sydd wedi'u hymyleiddio fwyaf neu anoddaf eu cyrraedd.

Gyda'u grant o £867,114, bydd Barnardos Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag Action for Children a Chyngor Dinas Caerdydd i gefnogi 500 o deuluoedd yng Nghaerdydd dros dair blynedd. Bydd prosiect Eleri project (a enwyd ar ôl merch fach aelod o dîm y prosiect a anwyd ychydig cyn cyflwyno'r cais) yn cefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd gyda'r anghenion mwyaf cymhleth y maent yn aml mewn perygl o gael eu cylchdroi o gwmpas y system ddarpariaeth. Bydd y gefnogaeth yn grymuso'r teuluoedd i gymryd rheolaeth a newid eu bywydau, a helpu i drawsnewid bywydau.

Forces in Mind

Roedd y Gronfa Loteri Fawr wrth ei bodd â chyhoeddi lansiad ffurfiol Ymddiriedolaeth Forces in Mind gwerth £35 miliwn y Gronfa Loteri Fawr - partneriaeth o elusennau'r lluoedd arfog a mudiadau iechyd meddwl a fydd yn darparu cefnogaeth hollbwysig dros yr 20 mlynedd nesaf i filoedd o gyn-filwyr y DU a'u teuluoedd gyda'r nod o'u helpu i ailintegreiddio i fywyd fel sifiliaid.

Ein dyheadau ar gyfer yr Ymddiriedolaeth, sy'n cael ei chyflwyno gan bartneriaeth o'r Conffederasiwn o Elusennau'r Gwasanaethau (COBSEO), yw gwella'n sylfaenol y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu datblygu a'u cyflwyno i gefnogi cyn-filwyr a'u teuluoedd. Bydd yr Ymddiriedolaeth yn cyflwyno gwell gwaith partneriaeth rhwng mudiadau milwyr, mudiadau cyn-filwyr a mudiadau perthnasol eraill i ddarparu cefnogaeth fwy integredig a hyblyg. Dyma ymagwedd y mae sector y cyn-filwyr yn ei chefnogi'n gyfan gwbl.

Bydd yr Ymddiriedolaeth yn canolbwyntio ar ymdrin â'r problemau iechyd meddwl y gall cyn-filwyr eu profi wrth ddychwelyd i fywyd fel sifiliaid y gallant, ar eu heithaf, gynnwys ystod o


Beth sydd wedi cael ei ariannu yn fy ardal i?

Gallwch chwilio am brosiectau a ariannwyd gan y Gronfa Loteri Fawr yn eich ardal yma: http://www.biglotteryfundgrants.org.uk:8080/grant-search/gs_001.xsql

Neu ar gyfer ariannu gan holl Ddosbarthwyr y Loteri Genedlaethol yma: http://www.lottery.culture.gov.uk/AdvancedSearch.aspx

Y Gronfa Loteri Fawr yn eich etholaeth

s hoffech dderbyn mwy o wybodaeth, cael gwybod mwy am effaith ein hariannu neu drefnu ymweliad â phrosiect rydym wedi'i ariannu yn eich etholaeth, cysylltwch â Fflur Lawton, Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus, drwy ffonio 029 2067 8237 neu e-bostio: fflur.lawton@biglotteryfund.org.uk

Mae taflenni gwybodaeth ar gael ar ein gwe-dudalen 'Y Gronfa Loteri Fawr yn eich etholaeth' y gallwch eu defnyddio i ymdrin ag ymholiadau am ariannu yn eich etholaeth. Mae briffiau hefyd am effaith ein hariannu a dysgu fesul maes portffolio. Mae'r rhain ar gael yn http://www.biglotteryfund.org.uk/constituency