Skip to content

Sut i gasglu tystiolaeth trwy gydol eich prosiect: Enghreifftiau

Example 1:

Cytunodd y Gronfa Loteri Fawr y byddai'n amhosib i wasanaeth llinell gymorth dienw gasglu unrhyw wybodaeth gydraddoldeb gan y rhai sy'n ffonio i mewn ac felly ni fyddai angen iddo gasglu'r wybodaeth hon.

Enghraifft 2:

Teimlodd prosiect sy'n rhedeg gwasanaeth cefnogi i bobl hŷn â dementia na fyddai'n briodol i gasglu gwybodaeth am eu tueddfryd rhywiol gan y byddent yn dibynnu i raddau helaeth ar deulu yr unigolyn i ddarparu'r wybodaeth sensitif iawn yma. Cytunodd y Gronfa Loteri Fawr na fyddai angen i'r Gronfa Loteri Fawr gasglu gwybodaeth am dueddfryd rhywiol.

Enghraifft 3:

Penderfynodd prosiect sy'n rhedeg gweithgareddau seileidig ar sgiliau i helpu plant i ymdopi â'r straen o ganlyniad i aelod o'u teulu'n camddefnyddio alcohol y byddai'n anfon ffuflen monitro cydraddoldeb i'r holl gyfranogwyr er mwyn casglu gwybodaeth gydraddoldeb. Ceisiodd y prosiect ganiatâd rhiei neu warcheidwaid y plant cyn gwneud hyn.