Skip to content

Beth i'w gynnwys yn eich cynlluniau hunanwerthuso

Pan fyddwch yn ymgeisio i raglenni penodol gofynnir i chi ddarparu manylion eich cynlluniau hunanwerthuso. Er enghraifft, mae’n bosib y bydd rhaglenni gyda phroses ymgeisio dau gam yn gofyn am amlinelliad bras yng ngham un a chynigion manylach yng ngham dau.

Pan fyddwn yn edrych ar eich cynlluniau hunanwerthuso, ein diddordeb pennaf yw’r atebion i’r cwestiynau canlynol:

Ar gyfer cynlluniau gwerthuso amlinellol

  • Oes gan y gwerthusiad nod clir?
  • Pa gwestiynau fydd y gwerthusiad yn eu hateb?
  • Ydy’r cwestiynau hyn yn gysylltiedig â chanlyniadau’r prosiect?
  • Ydy raddfa’r gwerthusiad yn gymesur â maint y prosiect?
  • Pwy fydd yn ymwneud â rheoli a chyflawni’r gwerthusiad?
  • Sut bydd canfyddiadau’r gwerthusiad yn cael eu defnyddio?

Ar gyfer cynlluniau gwerthuso manwl

  • Os yw’r gwaith i gael ei gomisiynu, oes briff gwerthuso a sut caiff y gwaith ei gomisiynu?
  • Os bydd staff y prosiect yn cyflawni’r gwaith, a oes ganddynt y sgiliau angenrheidiol, ac a ddarperir unrhyw gefnogaeth na hyfforddiant?
  • A fydd data gwaelodlin yn cael ei gasglu ar ddechrau’r prosiect ac os felly, beth fydd hyn yn ei gynnwys?
  • Sut caiff y dystiolaeth ei gasglu? Mewn geiriau eraill, beth fydd y dulliau ymchwil?
  • Sut bydd budd-ddeiliaid lleol a phobl sy’n defnyddio’r prosiect yn cael eu cynnwys?
  • A fydd y gwerthusiad yn adeiladu ar ymchwil arall neu gysylltu â hi?
  • Beth yw costau’r hunanwerthusiad? Sut cawsant eu cyfrifo?
  • Sut caiff y gwerthusiad ei ddefnyddio? Pa gynlluniau sydd ar waith i fwydo gwersi sy’n dod i’r amlwg yn ôl i waith a chyfeiriad y prosiect?
  • Pa allbynnau fydd y gwerthusiad yn eu cyflwyno? Sut caiff adroddiadau neu ganlyniadau eraill y gwerthusiad eu cyfathrebu a’u rhoi ar waith?