Mae’r canllaw hefyd ar gael mewn fformat Word.
Beth mae hunanwerthuso yn ei olygu a’r hyn rydym yn ei ddisgwyl gan brosiectau sy’n cyflawni hunanwerthusiad

Mae gan hunanwerthuso sawl mantais ar eich cyfer chi a’ch prosiect. Mae’n amlygu eich cyflawniadau ynghyd â meysydd i’w datblygu, ac yn eich helpu i symud tuag at ganlyniadau eich prosiect. Mae’n darparu gwybodaeth ddefnyddiol i chi ei hadrodd i arianwyr cyfredol neu ddarpar arianwyr ac yn eich helpu i wella’r ffordd rydych yn rhedeg eich gwasanaeth.
Bydd llawer o sefydliadau a grwpiau sy’n derbyn grantiau gan y Gronfa Loteri Fawr yn cynllunio ac yn cyflawni rhyw ffurf ar werthusiad o’u prosiect. Byddem yn eich annog i hunanwerthuso a neilltuo rhan o’r gyllideb ar gyfer y gweithgaredd hwn.
Ar gyfer rhai rhaglenni ariannu, rydym yn mynnu bod prosiectau’n hunanwerthuso fel amod o’n grant.
Mae’r canllaw hefyd ar gael mewn fformat Word.