Skip to content

Diwrnod Menter Gymdeithasol

Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn gefnogwr brwd sector Menter Gymdeithasol y DU

Mae menter gymdeithasol yn fusnes sydd ag amcanion cymdeithasol yn bennaf y mae ei wargedion yn cael eu hailfuddsoddi’n bennaf yn y busnes neu’r gymuned, yn hytrach na chael ei symbylu gan yr angen am fwyafu elw i gyfranddalwyr a pherchnogion.

Bydd y blynyddoedd nesaf yn gyfnod cyffrous i'r Gronfa Loteri Fawr ac felly, y sector Menter Gymdeithasol hefyd. Mae'r Gronfa Loteri Fawr bellach ar ddechrau cyfnod ariannu newydd. Yn ddiweddar gwnaethom gyhoeddi ein Fframwaith Strategol hyd at 2015

Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn ystyried bod Mentrau Cymdeithasol yn rhan o'r sector Gwirfoddol a Chymunedol ehangach, sef ein prif bartner cyflwyno. Yn ein Fframwaith Strategol newydd rydym wedi gosod targed ar gyfer ein hunain, sef bod y sector yn derbyn o leiaf 80 y cant o'n hariannu rhwng nawr a 2015. Dyma rywbeth yr ystyriwn ei fod yn gam cadarnhaol ar gyfer Mentrau Cymdeithasol a'r sector Gwirfoddol a Chymunedol ehangach.

Yn y gorffennol mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi darparu gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd i amrywiaeth o fentrau cymdeithasol, gan ariannu amrywiaeth o fentrau, o glybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol i gynlluniau cludiant cymunedol.

Mae First Step Trust yn Fenter Gymdeithasol a gefnogir gan y Gronfa Loteri Fawr sy'n rhoi profiad gwaith i bobl â phroblemau iechyd meddwl ac anfanteision eraill.

Gwylio'r fideo First Step Trust