Canllaw arfer da ar gyfer mudiadau bach a chanolig y sector gwirfoddol neu gymunedol
Adran 1: Sefyllfa’r Gronfa Loteri Fawr – ein hymagwedd at gydraddoldeb
Adran 2: Ymgeisio i’r Gronfa Loteri Fawr: meddwl am gydraddoldeb o’r cychwyn cyntaf
Adran 3: Nawr eich bod wedi ennill y grant: cydraddoldeb ar waith
Mae cydraddoldeb yn bwysig i’r Gronfa Loteri Fawr. Rydym eisiau defnyddio arian y loteri er mwyn cyflwyno newidiadau i gymunedau trwy ariannu pobl, prosiectau a rhaglenni gyda phwyslais penodol ar anghenion cymunedol.
Mae’r arweiniad hwn yn rhan o’n hymgyrch i hyrwyddo cydraddoldeb a mwyafu cyfleoedd er mwyn i bobl gymryd rhan yn y prosiectau yr ydym yn eu hariannu.
Trwy roi cydraddoldeb wrth wraidd cynllunio a gweithredu prosiect, mae mudiadau yn fwy tebygol o gyflawni gwell canlyniadau.
Mae’r arweiniad hwn wedi’i gynllunio i’ch helpu chi i ddisgrifio a meddwl am eich arferar gydraddoldeb.o ddydd i ddydd Mae wedi’i anelu’n benodol at fudiadau bach a chanolig y sector gwirfoddol a chymunedol.
Bydd yn eich helpu i adnabod yr hyn yr ydych chi eisoes yn ei wneud yn dda o ran eich ymagwedd at gydraddoldeb a sut y gallech chi wella ar hynny hefyd. Mae’n rhoi cyngor ar sut i gynnwys cydraddoldeb wrth gynllunio prosiectau newydd ac mae’n esbonio ein hegwyddorion cydraddoldeb a pham mae'n bwysig rhoi sylw iddynt os ydych chi’n ymgeisio am grant oddi wrthym ni. Disgwyliwn i chi ddangos ymrwymiad i gydraddoldeb sy’n gymesur â natur a maint eich prosiect a'ch mudiad.
Yn olaf, mae’r arweiniad yn esbonio sut y disgwyliwn i’ch mudiad roi egwyddorion cydraddoldeb ar waith ar ôl i chi dderbyn grant. Ceir ymarferion a chynghorion ymarferol, ynghyd â chamgymeriadau cyffredin y mae ymgeiswyr grantiau yn eu gwneud, ac enghreifftiau o arfer da o geisiadau blaenorol.
Rydym wedi paratoi ffurflen adborth cryno er mwyn ein helpu i wella ein canllaw Materion Cydraddoldeb a byddem yn gwerthfawrogi eich barn arno. Bydd eich adborth yn ddienw.
Canllaw arfer da ar gyfer mudiadau bach a chanolig y sector gwirfoddol a chymunedol.
Cyflwyniad
Mae cydraddoldeb o bwys i’r Gronfa Loteri Fawr. Rydym eisiau defnyddio arian y Loteri er mwyn cyflwyno newidiadau i gymunedau drwy ariannu pobl, prosiectau a rhaglenni, gyda phwyslais penodol ar fynd i’r afael ag angen. Mae’r arweiniad hwn yn rhan o’n hymgyrch i hyrwyddo cydraddoldeb a mwyafu cyfleoedd er mwyn i bobl gymryd rhan mewn prosiectau yr ydym yn eu hariannu.
Wrth roi cydraddoldeb wrth wraidd cynllunio prosiect a'i roi ar waith, mae mudiadau’n fwy tebygol o gyflawni canlyniadau gwell.
Canllaw ymarferol yw hwn. Fe’i gynlluniwyd i’ch helpu i feddwl am eich arfer ar gydraddoldeb o ddydd i ddydd a’i ddisgrifio. Mae wedi’i anelu’n benodol at fudiadau bach neu ganolig y sector gwirfoddol neu gymunedol, p'un a ydynt yn gwneud cais i’r Gronfa Loteri Fawr am arian ai beidio.
Nod y canllaw hwn yw eich helpu i adnabod yr hyn yr ydych eisoes yn ei wneud yn dda yn eich ymagwedd at faterion cydraddoldeb, a’ch helpu i adnabod sut y gallwch wella ar hynny. Serch hynny, yn y pen draw, chi sy'n dewis i ba raddau yr ydych chi eisiau ystyried materion cydraddoldeb.
Ar hyd y ffordd, byddwn yn darparu ymarferion ac awgrymiadau ymarferol. Byddwn hefyd yn edrych ar rai o’r camgymeriadau cyffredin y mae ymgeiswyr grant yn eu gwneud, a byddwn yn darparu enghreifftiau o arfer da o geisiadau blaenorol i’r Gronfa Loteri Fawr.