Termau a ddefnyddir

Filter this website by UK country or region

Defnyddio ein gwefan

Gallwch ddefnyddio gwefan y Cronfa Loteri Fawr yn ddibynnol ar y Telerau a'r Amodau a welir ar y dudalen hon. Mae mynd at y wefan hon a'i defnyddio yn golygu eich bod yn derbyn y Telerau a'r Amodau sydd mewn lle ar amser ei defnyddio.

Eiddo Deallusol / Hawlfraint

Hawlfraint y Cronfa Loteri Fawr neu ei thrwyddedwyr yw'r Deunydd (gan gynnwys testun, delweddau, sain, fideo ac animeiddio) ar y Wefan hon. Ni chewch ailgyhoeddi, aildrosglwyddo, ailddosbarthu neu fel arall ei roi ar gael i unrhyw un arall neu mewn unrhyw gyfrwng arall heb gael caniatâd ysgrifenedig addas ac ymlaen llaw.

Mae'r enwau, delweddau a logos yn adnabod y Cronfa Loteri Fawr yn nodau perchnogol y Cronfa Loteri Fawr ac ni ellir eu hatgynhyrchu heb gael awdurdodiad ysgrifenedig ymlaen llaw gan y Cronfa Loteri Fawr.

Dylid cyfeirio ceisiadau am ganiatâd o'r fath at:

Cronfa Loteri Fawr
1 Plough Place,
London, EC4A 1DE

Tel: 0207 211 1800
Fax: 0207 211 1750
Email: webmaster@biglotteryfund.org.uk

Rhowch fanylion y defnydd y bwriadwch ei wneud o'r deunydd perthnasol a chynnwys manylion cysylltu â chi:- enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs ac ebost.

Polisi Cysylltu

Nid oes yn rhaid ichi ofyn caniatâd i gysylltu yn uniongyrchol gyda'r tudalennau a welir ar y wefan hon. Er hynny, nid ydym yn caniatáu i'n tudalennau gael eu llwytho i mewn i fframiau ar ein gwefan. Rhaid i'n tudalennau lwytho i mewn i ffenestr gyfan y defnyddiwr.

Mae gennym gysylltiadau gyda'n derbynwyr grantiau, partneriaid a gwefannau sy'n rhoi gwybodaeth ddefnyddiol sy'n ychwanegu at ein gwasanaethau gwybodaeth ein hunain.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys, cywirdeb, barn na chysylltiadau o'r gwefannau hyn.

Rhybudd brys! - e-bost twyllodrus

Mae nifer o negeseuon e-bost yn cael eu cylchredeg ar hyn o bryd gan ddefnyddio enw’r Gronfa Loetri Fawr i ddweud wrth bobl eu bod wedi ennill arian. Mae fersiwn arall yn defnyddio enw Loteri'r Gemau Olympaidd. Negeseuon twyllodrus yw'r e-byst yma a dylid eu hanwybyddu. Y peth gorau i chi ei wneud yw eu dileu a dweud wrth eich ffrindiau a'ch cydweithwyr i wneud yr un fath.

Nid yw’r Gronfa Loteri Fawr yn rhoi arian fel gwobrau: rydym yn dosbarthu arian a godir gan Loteri genedlaethol y DU i achosion da yn y DU a thramor. Rydym yn rhoi grantiau yn unig i bobl a sefydliadu sydd wedi anfon cais atom ac rydym yn eu hysbysu a ydynt wedi bod yn llwyddiannus trwy lythyr, nid e-bost.

Mae Camelot yn delio gyda gwerthiant tocynnau Loteri a thocynnau llwyddiannus. Eu rhif ffôn yw: 0845 910 0000. Rydym wedi cysylltu â'r Heddlu Metropolitan ynglŷn â'r negeseuon e-bost yma.

Ymwadiad
  1. Rydych yn cydnabod eich bod yn defnyddio'r Wefan yn llwyr ar eich cyfrifoldeb eich hun ac ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled (boed hynny'n niwed uniongyrchol, anuniongyrchol, damweiniol neu ganlyniadol) sy'n deillio o'ch defnydd o'r Wefan a'r Deunydd.
  2. Darperir yr holl Ddeunydd ar sail "FEL AG Y MAE" yn unig. Ni allwn warantu y bydd y Wefan neu unrhyw Ddeunydd a ddarperir yn cwrdd â'ch anghenion nag y bydd yn gyflawn, heb wallau, ac yn gywir nag y bydd ar gael heb ymyriadau, ddiffyg neu wall. Felly, yn unol ac i'r graddau uchaf a ganiateir yn ôl y gyfraith berthnasol, rydym drwy hyn yn gwadu pob gwarant ac amodau, boed hwy'n benodol, ymhlyg neu'n statudol parthed y Wefan a'r Deunydd, gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, unrhyw warantiad o safon dderbyniol neu ffitrwydd ar gyfer pwrpas penodol a chan beidio torri ar hawliau trydydd parti.
  3. Byddwn yn anelu at gywiro unrhyw wallau neu hepgoriadau cyn gynted â phosibl ar ôl cael ein hysbysu ohonynt.
  4. Rydych yn cytuno y byddwch yn cydymffurfio â'r holl gyfreithiau perthnasol (gan gynnwys torri unrhyw Hawliau Eiddo Deallusol).