Preifatrwydd
Mae’r datganiad yma yn ymdrin â’r gwasanaethau a’u darperir gan y Gronfa Loteri Fawr yn:
Y Rheolwr Data ar gyfer y gwefannau yma yw’r Gronfa Loteri Fawr. Nid yw’r Gronfa Loteri Fawr yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol ac nid yw’r datganiad yma yn cynnwys cysylltiadau sydd o fewn y safle yma i wefannau eraill.
Pwrpas y datganiad yma yw hysbysu defnyddiwr gwefannau y Gronfa Loteri Fawr am ba wybodaeth sy’n cael ei gasglu amdanynt pan fyddant yn ymweld â’r safle yma, sut mae’r wybodaeth yna yn cael ei ddefnyddio, os yw’n cael ei ddatgelu a’r ffyrdd yr ydym yn diogelu preifatrwydd defnyddwyr.
Cyfrinachedd a diogelwch
Bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei ddarparu yn cael ei ddal yn ddiogel yn unol gyda’r Ddeddf Diogelu Data 1998. Ni fydd eich manylion personol yn cael eu datgelu i drydydd partïon heb eich caniatâd oni bai ei bod yn angenrheidiol i ni wneud hynny o dan y gyfraith.
Mae hawl gennych i gael mynediad at y wybodaeth bersonol yr ydym yn ei ddal amdanoch ar unrhyw amser
Gwybodaeth a gasglwn gan ymwelwyr
Dylai adborth a sylwadau ar y gwefannau a restrir uchod gael eu hanfon at webmaster@biglotteryfund.org.uk
Dim ond i ddatblygu a gwella'r safle neu i ymateb i chi pan yn angenrheidiol y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth yma.
Cwynion, ceisiadau am wybodaeth ac ymholiadau cyffredinol
Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweinyddu eich cwyn, cais am wybodaeth neu ymholiad cyffredinol. Efallai y byddwn yn pasio eich manylion ymlaen neu yn eich cyfeirio at ddosbarthydd Loteri arall, adran o fewn y Llywodraeth neu sefydliad perthnasol arall pan yn angenrheidiol.
Negeseuon e-bost a newyddlenni
Os byddwch yn cofrestru i dderbyn negeseuon e-bost byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a roddwch i ni i ddarparu’r gwasanaeth(au) yr ydych wedi gofyn amdanynt. Mae’n bosibl y byddwn ar brydiau yn cysylltu â’r rhai sydd wedi cofrestru ar gyfer negeseuon e-bost i’n helpu i werthuso a gwella'r gwasanaethau a gynigiwn.
Os byddwch yn ein hysbysu eich bod am ganslo cofrestriad byddwn yn tynnu eich enw oddi ar ein rhestr e-bost a bydd eich manylion yn cael eu dileu o’n cofnodion.
Gwybodaeth defnyddio safle
Cookies a ffeiliau Log
Cookies yw’r data sy’n cael ei greu pan fyddwch yn ymweld â safle, ac maent yn cynnwys rhif unigryw anhysbys. Maent yn cael eu storio yn y cyfeiriadur cookie ar eich gyrrwr caled, ac nid yw’n dod i ben ar ddiwedd eich sesiwn. Nid yw cookies yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch ac ni ellir eu defnyddio i adnabod defnyddiwr unigol. Os dewiswch i beidio â derbyn y cookie, ni fydd hwn yn effeithio eich mynediad i’r mwyafrif o gyfleusterau sydd ar gael ar ein gwefannau.
Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn defnyddio cookies ar gyfer casglu gwybodaeth defnyddiwr nad sy’n wybodaeth bersonol o’r safleoedd, nid yw’r safleoedd yn casglu unrhyw wybodaeth amdanoch chi oni bai am y wybodaeth honno sydd ei angen ar gyfer gweinyddiad system y gwefannau.
Mae ffeiliau log yn cofnodi defnydd defnyddwyr o’r gwefannau. Mae Tîm Cyfryngau Newydd y Gronfa Loteri Fawr yn casglu gwybodaeth ffeil log gan ein holl ymwelwyr, a fydd yn cael eu defnyddio i wneud gwelliannau i safleoedd ac i’r wybodaeth sydd arnynt. Yn yr un modd â Cookies, nid yw ffeiliau log yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol.
Os byddwch yn derbyn y fersiwn wedi’i fformatio gyda HTML o newyddlen, byddwn yn gwybod pan fyddwch yn agor yr e-bost newyddlen a bydd y wybodaeth yna yn cael ei arbed. Byddwn hefyd yn cofnodi pan fyddwch yn clicio ar linciau o fewn y newyddlen. Mae’r rhain a’r ystadegau agored yn cael eu defnyddio mewn ffurf gronnus i roi syniad i ni o ba mor boblogaidd yw’r cynnwys ac i’n helpu i wneud penderfyniadau am gynnwys a fformatio i’r dyfodol.
Newidiadau i’r polisi preifatrwydd yma
Os bydd y polisi preifatrwydd yma yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn gosod y fersiwn ddiweddaraf ar y dudalen yma.
Diweddarwyd diwethaf ym Mai 2008