‘Arweiniad i’n gwefan newydd
Ar ôl misoedd o ymchwil, profi, ailgynllunio a datblygu, rydym wedi gwneud rhai newidiadau mawr i wefan y Gronfa Loteri Fawr. Mae’r safle wedi’i ailgynllunio a bellach mae'n haws ei ddefnyddio ac mae’n fwy hygyrch.
Rydym wedi defnyddio cwmni annibynnol i adolygu ac asesu cynnwys y safle. Mae’r wybodaeth wedi’i hailysgrifennu, gan ei gwneud yn haws i chi gael gafael ar y ffeithiau y mae eu hangen arnoch yn gynt.
Mae’r arweiniad hwn wedi’i greu i dynnu sylw at y prif newidiadau i'r safle hwn. Mae rhaglenni ychwanegol wedi’u datblygu er mwyn hwyluso’r broses ymgeisio a gwneud ein gwasanaeth i gwsmeriaid yn fwy effeithiol.