Filter this website by UK country or region

Yn y rhifyn hwn o newyddmawr

BRW YDR BIGOG: Mae gwenynwyr yn Sir Benfro yn arloesi prosiect hanfodol i atal difodiant gwenyn mêl a helpu yn y frwydr yn erbyn firws dirgel y mae rhai gwyddonwyr arweiniol ar draws y byd yn honni sy’n “drychineb byd-eang” ar fin digwydd.

Mae dyfarniad o £4,957 gan raglen Arian i Bawb Cymru yn galluogi Cymdeithas Gwenynwyr Sir Benfro i redeg y prosiect ‘Atal Difodiant y Gwenyn Mêl ’, sy’n anelu at roi stop ar ddifodiant y Wenynen Fêl Gymreig yn gyfan gwbl.

GW YRDD MEWN FFASIWN: Yn ddiweddar bu gwragedd ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot yn brasgamu i lawr y catwalk er mwyn dangos i bawb yn eu cymuned sut y gallant edrych yn dda a gwella eu bywydau eu hunain, ac ar yr un pryd dysgu sgiliau newydd ac achub yr amgylchedd.

Mae Kathryn yn un o blith nifer o wragedd ifanc o Gwmafan sy’n elwa o’r gwasanaethau, y cyngor a’r gefnogaeth sy’n cael eu cynnig yn ei YWCA lleol. Y sefydliad yw’r elusen arweiniol sy’n gweithio gyda’r merched a’r gwragedd ifanc mwyaf difreintiedig yng Nghymru a Lloegr.

Yn lwcus i fod yma: NID yw Neville Weeks wedi cael bywyd hawdd. Yn 1984, cafodd ddamwain ddifrifol ar y beic modur. Fe wnaeth dorri pum fertebra, malu ei benglog, colli aren a dueg ac roedd yn dioddef â chyfergyd am 28 diwrnod. Arweiniodd yr anaf pen difrifol at golli ei gof ar ôl hynny ac iselder.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, fe fethodd ei aren arall, ac roedd trawsblaniad yn hanfodol. Yna yn 2002, cafod ddamwain ffordd ddifrifol arall, a arweiniodd at ddiwedd ei yrfa.

Helo blodyn!: Mae’r prosiect Flower Pots yn cwrdd yng Ngweithdy DOVE unwaith yr wythnos ac mae’n cynnwys gr wˆ p o wyth o bobl ifanc sydd yno i ddysgu am blanhigion a’r tymhorau. Mae merched Banwen, Lauren Pittard a Dione0Harris, y ddwy yn 12 oed, wedi bod yn mynychu Flower Pots am dair blynedd. Dyma ran o’r prosiect a dderbyniodd £247,877 gan raglen grant Pawb a’i Le y Gronfa Loteri Fawr ym mis Tachwedd 2006.

Yn ôl i'r brig