|
Dyma wefan y Gronfa Loteri Fawr. Rydym yn gyfrifol am ddosbarthu hanner yr arian i achosion da sy'n cael ei godi gan y Loteri Genedlaethol. Y Gronfa Loteri Fawr yw enw gweithredol newydd y Gronfa Gymunedol a'r Gronfa Cyfleoedd Newydd.
Defnyddio'r wefan yma yn ôl ardal
Mae gan bob rhan o'r DU ei hadran ei hun o'r wefan:
- DU
- Lleogr
- East Midlands
- Eastern
- London
- North East
- North West
- South East
- South West
- West Midlands
- Yorkshire and Humber
- Gogledd Iwerddon
- Yr Alban
- Cymru
Os dewiswch ardal bydd yn arddangos yr holl wybodaeth berthnasol i'r ardal honno. Felly er enghraifft, pe baech yn dewis DU, bydd yr holl wybodaeth sydd ar gael ar gyfer pob ardal yn cael ei arddangos, a phe baech yn dewis London, dangosir yr holl wybodaeth ar gyfer y DU, Lloegr a Llundain - ond ni ddangosir gwybodaeth sy'n benodol i'r gwledydd a'r rhanbarthau eraill.
Gallwch newid yr ardal yr ydych am edrych arni drwy ddefnyddio'r cysylltau enw ardal ar ochr dde pob tudalen. Bydd hyn yn mynd â chi i dudalen gartref yr ardal berthnasol.
Defnyddio adrannau'r wefan
Mae gan y wefan naw brif adran. Rhestrir cysylltau i'r adrannau yn y bar llywio ar ochr chwith pob tudalen.
| | |
| Gwneud cais | Mae'r adran hon yn egluro sut i gael arian loteri ar gyfer achosion da. |
| Eich grant | Os ydych wedi derbyn arian, bydd yr adran hon yn dweud wrthych sut i roi cyhoeddusrwydd i'ch prosiect a'r cymorth y gallwn ni ei roi. |
| Rydym wedi ariannu | Yma rhoddir manylion y cynlluniau yr ydym wedi rhoi arian tuag atynt a'n rhaglenni ariannu na ellir gwneud cais iddynt bellach. |
| Ynglŷn â’r Gronfa Loteri Fawr | Gwybodaeth amdanom ni yn cynnwys ein staff a chysylltu â'n swyddfeydd. |
| Newyddion | Datganiadau i'r wasg am ein gwaith. |
| Digwyddiadau | Manylion digwyddiadau yn y dyfodol yr ydym yn gysylltiedig â hwynt. |
| Cyhoeddiadau | Copïau o'n holl adroddiadau, cylchgronau a newyddlenni. |
| Arfarnu ac ymchwil | Copïau adroddiadau am ein hariannu |
| Oriel luniau | Lluniau o brosiectau a phobl sy'n cael eu hariannu gan y loteri. |
Mae'r nodweddion canlynol hefyd ar gael:
Cornel chwith uchaf pob tudalen:
| | |
| Cysylltu â ni | Sut i gysylltu â ni. |
| Map o'r wefan | Rhestr o gysylltau i holl dudalennau'r wefan hon. |
| Help | Cyngor ar ddefnyddio'r wefan. |
| Mynediad | Sut ydym wedi ceisio gwneud y wefan hon yn hwylus i'w defnyddio i bobl ag anableddau. |
| Cyferbynnedd uchel | Newid arddull y wefan i destun mwy gyda lliwiau du, gwyn a melyn er mwyn ei gwneud yn haws i bobl â nam ar y golwg i'w gweld. |
Gwaelod pob tudalen:
| | |
| Telerau defnydd | Gwybodaeth ar ddefnyddio'r wefan. |
| Preifatrwydd | Gwybodaeth ynghylch sut yr ydym yn defnyddio manylion defnyddwyr y wefan. |
| Rhyddid gwybodaeth | Sut ydym yn cyflawni'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. |
| Swyddi | Cyfleoedd cyflogaeth gyda ni. |
Mynd i dudalennau cartref eich ardal
Gallwch fynd i dudalen gartref yr ardal gyfredol trwy ddefnyddio'r cysylltau ar y nodweddion canlynol ar bob tudalen:
- enw'r ardal o dan y logo
- yr enw ardal mewn llythrennau bras ar y rhestr ardaloedd ar ochr dde pob tudalen
- “CARTREF BIG” ar yr ochr chwith uwchben yr adran llywio
- “Cartref” ar lwybr briwsion lleoliad y wefan o dan y tab Defnyddio ac uwchben teitl y dudalen.
I fynd i'r brif dudalen gartref defnyddiwch y cyswllt DU yn y rhestr ardaloedd ar ochr dde pob tudalen.
Gwybod lle yn union ydych o fewn y wefan
Dangosir yr ardal gyfredol ar ben uchaf ochr dde uchaf pob tudalen yn union o dan logo Y Gronfa Loteri Fawr.
- Dangosir teitl y dudalen gyfredol:
- ym mar teitl eich porwr uwchben y bar dewislen
- ger brig pob tudalen o dan enw'r Gronfa Loteri Fawr, y prif dabiau a llwybr briwsion lleoliad y wefan
- mewn llythrennau bras yn llwybr briwsion lleoliad y wefan
- mewn llythrennau bras yn y llywiwr ar ochr chwith pob tudalen.
- Dangosir eich lleoliad chi ar y wefan gan y llwybr briwsion lleoliad y wefan ger brig pob tudalen a chan y bar llywio ar ochr chwith pob tudalen.
Argraffu
Dyluniwyd y wefan i fod yn hwylus i'w hargraffu. I argraffu copi o dudalen ar y we dewiswch File > Print yn eich porwr. Dim ond gwybodaeth y man canol gwyn fydd yn cael ei argraffu. Ni fydd y llywiwr a'r cefndir lliw yn cael eu hargraffu er mwyn arbed inc eich argraffydd.
Defnyddio ffeiliau y gellir eu lawrlwytho
Mae rhywfaint o'r wybodaeth ar y wefan ar gael yn unig mewn ffeiliau i'w lawrlwytho. Mae crynodeb ar dudalen gwe o'r rhain i gyd i'ch helpu chi i benderfynu a ydych am lawrlwytho'r ffeil neu beidio.
Dogfennau PDF
Mae'r rhan fwyaf o'r ffeiliau ar ffurf PDF. I ddarllen ac argraffu'r ffeiliau hyn bydd angen meddalwedd am ddim arnoch o'r enw Adobe® Acrobat Reader®. Gallwch lawrlwytho Adobe® Acrobat Reader® i'r rhan fwyaf o gyfrifiaduron.
Rydym hefyd wedi cymryd camau ychwanegol i sicrhau bod ein ffeiliau PDF ar gael yn hwylus.
Dogfennau RTF
Mae rhai ffeiliau ar ffurf RTF. I ddarllen ac argraffu'r ffeiliau hyn bydd angen prosesydd geiriau fel Microsoft Word arnoch. Mae ffeiliau RTF yn debyg i ffeiliau Word a gellir eu hagor trwy ddefnyddio meddalwedd prosesu geiriau ar y rhan fwyaf o gyfrifiaduron.
Gellir lawrlwytho fersiwn am ddim o 'ddarllenydd' Word ar gyfer cyfrifiaduron PC o wefan Microsoft.
Taenlenni CSV ac XLS
Mae rhai ffeiliau ar ffurf CSV. I ddarllen ac argraffu'r ffeiliau hyn bydd angen meddalwedd taenlen arnoch fel Microsoft Excel. Mae ffeiliau CSV fel ffeiliau Excel XLS ond gellir eu hagor trwy ddefnyddio meddalwedd taenlen ar y rhan fwyaf o gyfrifiaduron.
Gellir lawrlwytho fersiwn am ddim o 'ddarllenydd' Excel ar gyfer cyfrifiaduron PC o wefan Microsoft.
Os yw'r daenlen yn gymhleth efallai mai dim ond ar ffurf XLS y gallwn ei gynnig. Efallai y gallwch agor ffeiliau XLS mewn meddalwedd ar wahân i Excel.
Cyflwyniad PPT
Efallai hefyd y byddwn yn darparu ffeiliau PPT. Mae ffeiliau PPT ar gael i'w defnyddio gyda Microsoft PowerPoint ond efallai y gallwch agor y ffeiliau mewn meddalwedd arall hefyd. Gellir lawrlwytho fersiwn am ddim o 'ddarllenydd' PowerPoint ar gyfer cyfrifiaduron PC o wefan Microsoft.
Ar gyfer mathau eraill o ffeiliau, dylech ddilyn y cyngor ar y dudalen gwe ynghylch sut i gael mynediad at feddalwedd sydd ei hangen i'w hagor.
Cymraeg
Mae adran Cymru o'r wefan hefyd ar gael yn Gymraeg. Mae gwybodaeth ar gyfer y DU i gyd wedi'i chynnwys yn adran Cymru ac mae wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg lle bynnag y mae hynny'n bosib.
Gellir cael mynediad at fersiwn Cymraeg adran Cymru trwy wneud y canlynol:
- defnyddio'r cysylltau Cymraeg ar waelod y rhestr ardaloedd, ar ochr dde tudalen gartref y DU.
- defnyddio'r cysylltau Cymraeg o dan ddynodwr ardal Cymru, o dan logo'r Gronfa Loteri Fawr ar ochr dde uchaf pob tudalen yn fersiwn Cymru o'r wefan.
- teipio www.cronfaloterifawr.org.uk yn eich porwr gwe.
Pan fyddwch yn fersiwn Saesneg adran Cymru galwch ddefnyddio’r cysylltau Cymru yn yr un mannau i fynd i'r fersiwn Gymraeg.
Os ydych yn defnyddio'r fersiwn Cymraeg yn adran Cymru ac yn ymweld ag adran ardal arall bydd yr iaith yn troi yn ôl i Saesneg.
|