Eich cyfle mawr
Mae cyhoeddusrwydd yn galluogi i’ch prosiect ddweud wrth bobl pwy ydych chi, beth ydych yn ei wneud a sut fydd eu cymuned yn elwa
I gael cyhoeddusrwydd cadarnhaol fe ddylech wybod y canlynol:
1. Byddwch yn glir ynglŷn â'ch amcanion
Cyn cychwyn, meddyliwch am eich amcanion, a gofynnwch y cwestiynau hyn:
- Pam ydych yn ei wneud?
- Beth ydych am ei gyflawni?
- Beth yw'r negeseuon allweddol?
- Ai nawr yw'r amser iawn?
- A oes gennych ddigon o bobl i'w gyflawni?
- Pwy yw'r gynulleidfa darged?
2. Cynlluniwch beth yr ydych am ei wneud
- Mae amseru yn hollbwysig. Efallai y byddwch am gael cyhoeddusrwydd mewn papurau newydd wythnosol, dyddiol neu nosweithiol, felly byddwch yn ymwybodol o'r dyddiau a’r amseroedd cyhoeddi a'u dyddiadau cau ar gyfer deunydd golygyddol.
- Byddwch yn ymwybodol o'r amser a'r ymdrech sydd ei angen i ysgrifennu datganiad i'r wasg ac enwebwch lefarydd. Gwnewch yn siŵr bod rhywun yn eich grŵp ar gael i siarad gyda'r wasg a gwneud cyfweliadau radio a theledu.
- Gwnewch yn siŵr nad yw eich cyhoeddiad cyn dyddiad embargo y Gronfa Loteri Fawr. Mae embargo yn golygu na ellir gwneud gwybodaeth yn gyhoeddus cyn amser penodedig a nodir ar y datganiad i'r wasg. Mae defnyddio embargo o gymorth oherwydd mae'n golygu bod y cyfryngau yn cael y wybodaeth ymlaen llaw, gan eu galluogi i gynllunio.
3. Dylech gynnwys pobl
- Rhannwch syniadau am gyhoeddusrwydd gydag aelodau eich grŵp a cheisiwch eu hannog i gyfrannu.
- Cytunwch ar y negeseuon allweddol.
- Cyn i chi anfon datganiad newyddion i'r wasg, gofynnwch i rywun ei wirio am gamgymeriadau sillafu a chywirdeb ffeithiol. Dylech wirio yn arbennig bod yr amser, dyddiad a lleoliad wedi eu cynnwys.
Lawr lwytho'r dempled datganiad i'r wasg mewn un o 3 lliw: