Skip to content
Cronfa Loteri Fawr / Big Lottery Fund

Search form

  

Chwiliad uwch

Llinell Gynghori Fawr:
01686 611 700

 

Atebion i'ch Cwestiynau

Pam fod rhaid i ni ddefnyddio’r logo yma?

Yr ydym wedi creu’r logo yma i dderbynwyr grant ei ddefnyddio er mwyn i’r cyhoedd weld sut mae arian y Loteri yn cael ei wario yn eu cymunedau. Er mwyn galluogi hyn i ddigwydd mae’n rhaid i bawb sydd wedi derbyn grant gennym chwarae eu rhan.

Ym mhle dylwn ei ddefnyddio?

Dylai pob derbynnydd grant gydnabod cefnogaeth y Gronfa Loteri Fawr wrth gynhyrchu unrhyw fath o ddeunyddiau hyrwyddo neu gyhoeddusrwydd yn cynnwys datganiadau i’r wasg, taflenni, posteri, pamffledi, adroddiadau blynyddol ac offer swyddfa megis papur pennawd.

Os oes gan eich prosiect wefan, mae’n rhaid i’n logo gael ei weld ar y dudalen gartref. Wrth hysbysebu swydd a ariannwyd ganddom ni, dylai ein logo gael ei gynnwys yn yr hysbyseb. Os gwelwch yn dda peidiwch â defnyddio’n logo yn llai na’r maint lleiaf ar gyfer hysbysebion papurau newydd gan y bydd yn annarllenadwy.

Oes rhaid i mi ei ddefnyddio?

Oes. Drwy dderbyn eich grant rydych wedi gwneud ymrwymiad i ddefnyddio ein logo i gydnabod eich grant yn gyhoeddus. Mae hwn yn un o ofynion y cytundeb grant.

Pam fod cymaint o reolau y mae’n rhaid i ni ei dilyn?

Perchnogaeth Comisiwn y Loteri Genedlaethol (NLC) yw’r marc. Y mae gennym drwydded i’w ddefnyddio ac i’ch caniatáu chi i’w ddefnyddio fel amod o dderbyn grant ganddom.

Mae angen i ni ddilyn y rheolau mae’r NLC wedi ei gosod ar gyfer ei ddefnyddio a sicrhau y byddwch chithau yn gwneud hynny hefyd.

Beth os wyf eisoes wedi cydnabod fy ngrant?

Nid ydym yn disgwyl i chi newid eich deunyddiau cyhoeddusrwydd nag offer swyddfa cyfredol. Does dim angen i chi newid unrhyw frandio sefydlog mewn adeiladau neu ar gerbydau sydd gennych eisoes. Er hynny, os byddwch yn diweddaru eich gwefan neu yn ail argraffu unrhyw ddeunyddiau, dylech ddefnyddio’r logo newydd.

Pa logo ddylwn ei ddefnyddio?

Daw’r logo buddiolwyr mewn dau fformat: y fersiwn safonol a’r un safon uwch. Dylai’r logo safonol gael ei ddefnyddio lle bynnag bosibl megis ar eich dogfennau. Os nad yw’r logo safonol yn ymarferol oherwydd gwaharddiadau lle neu eich bod angen mwy o effaith (ar arwydd er enghraifft), defnyddiwch y fersiwn safon uwch.

Mae gan y Gronfa Loteri Fawr dri lliw: oes rhaid i mi ddefnyddio un yn benodol?

Daw ein logo mewn dau opsiwn lliw llawn: pinc a glas. Efallai y byddwch yn penderfynu defnyddio un yn unig, neu fe allwch ddefnyddio’r ddau (er nid ar yr un pryd). Nid yw’r trydydd lliw a ddefnyddiwn, porffor, ar gael fel logo buddiolwyr, gan fod diffyg yn yr effaith pan y’u defnyddir ochr yn ochr â logo’r Loteri Genedlaethol.

Os na allwch ddefnyddio’r rhain gallwch ddefnyddio’r logo mewn du.

Alla i newid lliw'r logo i un o’n lliwiau ni?

Na. Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r logo mewn un o’n lliwiau ni neu mewn du. Gallwch hefyd ddefnyddio ein fersiwn logo gwyn-o-chwith.

Pa fformat ffeil ddylwn i ei ddefnyddio?

Gellir lawr lwytho'r logo o’n gwefan neu oddi ar CD mewn amrediad o fformatau a fydd yn addas ar gyfer amrywiaeth o gymwysiadau. Gwnewch yn siwr eich bod yn defnyddio’r fersiwn iawn ar gyfer y pwrpas os gwelwch yn dda.

  • Arwyddion EPS
  • Nwyddau (megis balwns neu grysau-t) EPS/JPG
  • Offer swyddfa wedi’i argraffu EPS
  • Ar-lein GIF
  • PowerPoint JPG
  • Templedi electronig JPG

Os ydych yn defnyddio’r logo ar raddfa fawr, defnyddiwch y fformat EPS.

Mae lleiafswm maint ar gyfer argraffu, ond beth os yw’r logo’n rhy fawr i’w roi ar fy nghardiau busnes neu bapur pennawd?

A hawdd ei ddarllen. Os ydych yn defnyddio’r logo safonol, gwnewch yn siwr fod y symbol bysedd croes yn o leiaf 12mm o uchder. Os ydych yn defnyddio’r fformat safon uwch, gwnewch yn siwr fod y symbol yn o leiaf 14mm o uchder. Os yw’r meintiau yma yn parhau i fod yn rhy fawr ar gyfer eich pwrpas, cysylltwch â’r tîm brandio am gymorth os gwelwch yn dda ar 020 7211 1791 / 1728.

Alla i gael mwy o becynnau Eich Camau Mawr Nesaf?

Gallwch, i archebu pecyn arall galwch ein llinell gynghori ar 0845 4 10 20 30. Er hynny, er mwyn arbed arian a’r amgylchedd byddai’n well gennym pe teach yn defnyddio ein gwefan.

Faint o ddeunydd am ddim y Gronfa gallaf ei archebu?

Oherwydd y gost o gynhyrchu’r eitemau yma a’r nifer o brosiectau fydd ei hangen, mae’n rhaid i ni gyfyngu ar nifer yr eitemau.

Hoffem i chi archebu faint bynnag a fyddwch angen ond nid gormod fel y bydd yn mynd yn wastraff. Gallwch dderbyn un plac wal ar gyfer pob safle ac mae’r cyfyngiadau ar gyfer sticeri i’w gweld ar y ffurflen archebu. Os gwelwch yn dda cofiwch fod y sticeri wedi ei dylunio ar gyfer ei rhoi ar offer a'i bod yn costio gormod i’w rhoi ar ddeunydd swyddfa a phethau tebyg.

I dderbyn plac calchfaen neu ddur di-staen di-sglein, mae’r ffurflen gais yn nodi fod angen i brosiect fod wedi derbyn £250,000 neu fwy. Oes unrhyw hyblygrwydd gyda hyn?

nodi fod angen i brosiect fod wedi derbyn £250,000 neu fwy. Oes unrhyw hyblygrwydd gyda hyn?

Mae’r mwyafrif o brosiectau adeilad cyfalaf yn gymwys i gael y placiau yma. Os teimlwch mai plac calchfaen neu ddur di-staen di-sglein fydd orau ar gyfer brandio eich prosiect ond nad ydych wedi derbyn £250,000 neu fwy, cysylltwch â’r tîm brandio os gwelwch yn dda. Byddwn hefyd yn cymryd i ystyriaeth faint o aelodau o’r cyhoedd fydd yn defnyddio eich cyfleusterau a’u hyd oes.

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn cydnabod fy ngrant?

Mae methu a chydnabod eich grant yn dor-cytundeb. Byddwn yn monitro hyn yn agos ac yn cysylltu â phob prosiect fydd yn methu a chydymffurfio.

Ni allaf agor y fersiwn EPS o’r logo?

Er mwyn ei agor mae angen i chi fod â’r rhaglenni PhotoShop neu Illustrator wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur.

Mae’r rhain yn becynnau safonol ar gyfer dylunio, argraffu a chynhyrchu. Os byddwch yn cael dylunydd i gynhyrchu unrhyw beth ar eich cyfer bydd modd iddyn nhw agor y fformat yma. Gallwch e-bostio’r fformatau yma hyd yn oed os na allwch eu hagor. Os byddwch yn dylunio’r eitem eich hun ac angen y fformat yma (yn enwedig os byddwch yn gwneud unrhyw beth mawr) gall eich argraffydd ei agor drosoch os nodwch chi’r lleoliad yn y gwaith ble bydd y logo’n cael ei osod.

Beth yw ystyr CMYK?

Mae’r rhain yn lliwiau prosesu print. Golyga hyn eu bod wedi ei gwneud o’r un inc a ddefnyddir gan bob argraffydd ar gyfer argraffu lliw ac nad ydynt yn lliw arbennig fydd yn codi’r gost. Maent hefyd yn lliwiau a geir mewn argraffydd lliw swyddfa safonol. Os hoffech gynhyrchu ein logo yn y lliwiau fflwroleuol cryf dylech ddefnyddio’r gwaith arlunio pantone sydd ar gael ar CD neu ar y wefan yma. Gelwir y rhain yn ôl eu rhifau cyfeirio pantone (P801,812 and 2747).

Oes nwyddau ar gael ar gyfer eu defnyddio mewn digwyddiadau?

Os ydych yn trefnu digwyddiad ac hoffech dderbyn nwyddau megis crysau-t neu falwns cysylltwch â’r tîm brandio os gwelwch yn dda. Rydym hefyd yn benthyca baneri ar gyfer digwyddiadau. Gallwch ddod o hyd i ffurflen gais ar y rhan yma o’r wefan.

Sut allaf wneud yn siwr fy mod wedi defnyddio eich logo yn y ffordd gywir?

Os ydych yn ansicr ynglyn â defnyddio ein logo ar eich deunyddiau, gallwch gysylltu â ni neu yrru’r proflenni a byddwn yn barod iawn i roi cymorth i chi.

Yn ôl i'r brig

Geographical region navigation

Cronfa Loteri Fawr yn:

Cymru

English