Filter this website by UK country or region

Llongyfarchiadau ar dderbyn grant gan y Gronfa Loteri Fawr. Un o amodau grant y Gronfa Loteri Fawr yw eich bod yn cydnabod eich dyfarniad yn gyhoeddus. Rydym wedi creu'r llyfryn yma i'ch helpu chi i wneud hynny, drwy roi canllawiau i chi ar sut i ddefnyddio ein logo buddiolwyr ar amrediad eang o ddeunyddiau, offer ac mewn digwyddiadau.   

Drwy dderbyn eich dyfarniad yr ydych wedi gwneud ymrwymiad i ddefnyddio ein logo. Gall hyn ymddangos i fod yn lawer o waith ond dim ond defnyddio ein logo buddiolwyr ble bynnag a bo modd sydd angen i chi ei wneud. Trwy ddefnyddio ein logo gobeithiwn annog sefydliadau eraill i ymgeisio am arian ac i ddangos i'r cyhoedd ymhle a sut mae arian y Loteri Genedlaethol yn cael ei wario yn eu cymuned.

Dim ond prosiectau sydd wedi derbyn grant gennym a all ddefnyddio ein logo.  Does dim ots faint o arian yr ydych wedi ei dderbyn nag ychwaith natur y prosiect.  Gobeithiwn y byddwch yn ei ddefnyddio yn eang ac yn cyfeirio ato fel cydnabyddiaeth weledol o'ch llwyddiant.  

Mae'r ddogfen yma yn egluro'r gwahanol ffyrdd y gallwch ddefnyddio ein logo. Yn ychwanegol, mae gan yr adran derbynwyr grant ar ein gwefan gyngor a syniadau i'ch helpu chi. Wrth greu'r canllawiau yma, ein nod oedd iddynt fod yn ddigon hyblyg i siwtio'r amrediad eang o brosiectau a fydd yn derbyn arian gennym. Os teimlwch nad yw unrhyw rai o'r deunyddiau sydd ar gael yn addas ar gyfer eich prosiect, cysylltwch â'n tîm marchnata yn marketing@biglotteryfund.org.uk. os gwelwch yn dda .

Lawr lwytho canllawiau logo llawn PDF One of the Big Lottery Fund conditions of the grant is to acknowledge your award publicly. We have put together this booklet to help you do that. - 5,044KB

Yn ôl i'r brig