Acknowledgement ddefnyddiau

Filter this website by UK country or region

Mae'ch cytundeb yn nodi fod yn rhaid i chi gydnabod eich grant gan y Loteri Genedlaethol. Efallai i chi dderbyn eich grant drwy'r Gronfa Gymunedol neu'r Gronfa Cyfleoedd Newydd. O hyn allan, Cronfa Loteri Fawr yw'r ariannwr sy'n rhaid i chi ei gydnabod. I wneud pethau'n rhwyddach i chi gydnabod eich grant byddwn yn eich darparu a deunyddiau newydd am ddim.

Mae ein logo a'n deunyddiau cydnabod ar gael mewn dau liw - pinc a glas.  Gallwch ddefnyddio pa un bynnag sydd well gennych, neu gallwch ddefnyddio'r ddau. Cofiwch nodi ba liw fyddai orau gennych neu byddwch yn derbyn eitemau ar sail yr hyn sydd gennym yn ein warws.  Mae ein holl eitemau i dderbynwyr grant yng Nghymru yn ddwyieithog.

Mae'r holl eitemau yma'r un fath. O ganlyniad i'r swm uchel o brosiectau a ariwnwn, nid yw'n bosibl i ni gynhyrchu eitemau unigol.  Fodd bynnag, os teimlwch na fydd unrhyw rai o'r eitemau yma o ddefnydd i chi, cysylltwch â'r tîm brandio yn marketing@biglotteryfund.org.uk a fydd yn barod i'ch helpu.

Os ydych wedi derbyn grant o dros £500,000, dylech gysylltu â'r rheolwr brand yn  marketing@biglotteryfund.org.uk i drafod sut i gydnabod eich grant; yn arbennig os ydych wedi derbyn arian o ffynonellau eraill.

Nodwch os gwelwch yn dda fod yn rhaid i bob prosiect yng Nghymru ddefnyddio ein deunyddiau cydnabod dwyieithog.

Lawr lwytho ffurflen gais lawn Your contract states that you must acknowledge your grant from the National Lottery. To make it easier for you we will provide you with materials free of charge using this ord...
- 1,076KB

Yn ôl i'r brig