Ariannu yn y dyfodol
Mae arian gan y Gronfa Loteri Fawr am gyfnod penodol yn unig, felly ym mhen hir a hwyr bydd angen i chi chwilio am ffynonellau ariannu eraill
Mae noddi corfforaethol yn dod yn fwy poblogaidd i lawer o sefydliadau wrth i gwmnïau edrych yn ffafriol ar brosiectau sy’n gymdeithasol gyfrifol. Y peth gorau am hyn yw bod gan brosiectau sydd wedi ei seilio yn y gymuned fwy o siawns nag erioed o gael eu hystyried, ond y peth gwaethaf yw y byddwch yn wynebu cystadleuaeth gref. Gan fod cael noddi corfforaethol, fel mae cael arian o unrhyw ffynhonnell arall, yn cymryd cryn gymaint o amser nid yw hi byth yn rhy fuan i ddechrau meddwl amdano.
Mae’r llyfryn yma i’ch helpu chi i ddeall beth mae cwmnïau yn edrych amdano pan fyddant yn noddi sefydliad. Ei fwriad yw eich helpu chi i gyflwyno eich prosiect yn y ffordd orau bosibl. Mae pob noddwr, a phob prosiect noddi yn wahanol felly bydd rhaid i chi feddwl yn galed am beth sy’n addas ar gyfer eich sefydliad chi. Dylech hefyd sicrhau eich bod yn dewis ac yn targedu noddwyr potensial mewn ffordd sydd mor effeithiol â phosibl.