Skip to content

Beth os nad ydyn nhw'n gwybod bod y prosiect yn bodoli?

I oresgyn y rhwystr hwn bydd angen i chi ystyried y ffyrdd gwahanol y byddai'r bobl rydych am eu cyrraedd yn cael gwybod am eich prosiect, er enghraifft, pa bapurau newydd ydyn nhw'n eu darllen, pa orsafoedd radio ydyn nhw'n gwrando arnynt a ble ydyn nhw'n mynd eisoes i gwrdd, siopa, gweddïo neu ddefnyddio gwasanaethau?

Efallai y byddwch am ystyried amrywiaeth o ddulliau o hyrwyddo eich prosiect, megis y wasg, cylchlythyron, cyfarfodydd personol, taflenni, radio cymunedol, y we, negeseuon testun, neu ddigwyddiadau cynyddu ymwybyddiaeth.

Dylech ystyried fformat unrhyw ddeunyddiau cyhoeddusrwydd a ddefnyddiwch hefyd. Defnyddiwch iaith syml heb unrhyw jargon a sicrhewch ei bod yn hawdd i'w deall. Weithiau mae lluniau a symbolau'n ddefnyddiol i bobl ag anableddau dysgu hefyd. Nid yw cyfieithu eich holl ddeunyddiau i'r holl ieithoedd yn gost-effeithiol nac yn ddefnyddiol, ond efallai y bydd angen i chi ystyried ymhellach beth y gallwch ei wneud i gyrraedd pobl nad y Gymraeg neu'r Saesneg yw eu hiaith gyntaf.

Enghreifftiau

Sefydlwyd prosiect lles i ddarparu therapïau amgen a dosbarthiadau megis myfyrio a T'ai chi ar gyfer pobl sy'n delio gyda straen. Rhan o'r ffordd trwy'r prosiect, sylweddolodd y grŵp nad oedd yn cyrraedd llawer o ofalwyr, er iddynt wybod bod straen yn broblem allweddol ar eu cyfer.

Trwy drafodaethau gyda'u hymddiriedolaeth iechyd leol, sylweddolodd y prosiect mai'r ffordd fwyaf effeithiol o gynyddu ymwybyddiaeth o'u prosiect oedd trwy'r gweithwyr proffesiynol sy'n dod i gyswllt yn rheolaidd gyda gofalwyr yn eu cartrefi eu hunain. Felly, cynhaliwyd cyfres o sesiynau briffio gyda'r asiantaethau perthnasol i helpu wrth gynyddu ymwybyddiaeth o'u prosiect ymysg gofalwyr.

 

Roedd prosiect a sefydlwyd i ddarparu gwasanaethau cwnsela i mewnfudwyr sy'n byw yn Llundain yn ystyried sut i hysbysebu argaeleddd ei wasanaethau. Roedd y prosiect am gyrraedd aelodau'r gymuned Somali a'r cynllun cychwynnol oedd datblygu rhai taflenni hyrwyddo (wedi'u cyfieithu i Somalieg) i'w dosbarthu o gwmpas meddygfeydd.

Yn dilyn cyngor gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, sylweddolodd y prosiect na fyddai'r ymagwedd hon yn effeithiol oherwydd lefelau llythrennedd isel ymysg llawer o aelodau'r gymuned hon. Yn hytrach, gweithiodd y prosiect gyda'r adran Gwasanaethau Cymdeithasol a'r coleg lleol i gynhyrchu fideo byr yn Somalieg y gellir ei chwarae ar sgriniau gwybodaeth mewn ystafelloedd aros meddygfeydd. Penderfynodd y prosiect hefyd i fonitro effeithiolrwydd y fideo trwy ofyn i ddefnyddwyr sut y cawsant wybod am y gwasanaeth cwnsela.