Mae'n syniad da i ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y grwpiau o bobl nad ydhynt yn elwa o'ch prosiect, megis ble maent yn cwrdd, beth sy'n gyffredin rhyngddynt, sut i gysylltu â nhw, pwy arall sy'n gweithio gyda nhw a beth sy'n eu hatal rhag cymryd rhan ar hyn o bryd.
Efallai y byddwch yn penderfynu cynnal cyfweliadau, grwpiau ffocws a digwyddiadau ymgynghori gyda'r grwpiau eu hunain, gan fod y rhain yn ffyrdd defnyddiol o ymchwilio i anghenion pobl a'u profiadau o ddefnyddio gweithgaredd neu wasanaeth. neu, efallai y byddwch yn gofyn am gymorth gan y rhai sydd eisoes â gwell perthynas gyda'r grŵp yr hoffech ei gyrraedd, megis arweinwyr cymunedol lleol.
Gallai fod fforymau, grwpiau cymunedol a busnesau lleol y gallech gysylltu â nhw. Mae llawer o awdurdodau lleol a chynghorau gwasanaeth gwirfoddol yn cadw gwybodaeth am grwpiau lleol. Neu, efallai y bydd modd i chi gael mwy o wybodaeth trwy gyfeirio at strategaethau lleol, papurau newydd ac ymweld â'r llyfrgell leol a chodi taflenni.
Trwy ddysgu mwy am y grwpiau o bobl nad ydynt yn elwa o'ch prosiect ond a allai fod yn cymryd rhan, bydd gennych syniad gwell o sut i hyrwyddo eich prosiect iddynt a goresgyn unrhyw rwystrau. Yn ein profiad ni, y rhwystrau mwyaf cyffredin yw nad yw pobl yn gwybod bod y prosiect yn bodoli, neu maen nhw'n teimlo bod yna wir rwystrau i gymryd rhan, neu maen nhw wedi cael profiadau gwael yn y gorffennol.
Ar ôl darganfod nad oedd eu prosiect yn denu unrhyw aelodau o'r gymuned Sikhaidd leol, penderfynodd cadeirydd y clwb ieienctid i ymweld â'r ysgol leol i geisio creu cysylltiadau. Yn dilyn y cyswllt cychwynnol hwn, cynigiodd rhiant ar y gymdeithas rhieni ac athrawon o'r gymuned Sikhaidd i ymweld â'r clwb ieuenctid a thrafod sut i wneud ei leoliad a'i weithgareddau'n fwy atyniadol i aelodau o'u cymuned. Dysgodd y prosiect y byddai llawer o rieni Sikhaidd yn caniatáu i'w plant fynychu gweithgareddau rhyw cymysg y clwb ieuenctid cyhyd â bod arweinyddiaeth briodol ar gael. Felly, penderfynwyd i geisio denu oedolion o'r gymuned Sikhaidd i ymuno fel helpwyr. |