Bydd y tudalennau canlynol yn esbonio pa wybodaeth gydraddoldeb y byddwn yn gofyn amdani ar ddechrau eich prosiect, yna bob blwyddyn ac ar ôl i chi ei orffen.
Ar y dechrau
Bydd angen i chi anfon ffurflen Dechrau eich grant atom cyn i ni fedru dechrau talu'r grant i chi. Mae'r ffurflen hon yn cynnwys adran gwybodaeth gydraddoldeb lle byddwn yn gofyn i chi:
- ein hysbysu am unrhyw newidiadau ers i chi anfon eich cais atom (er enghraifft, os ydych wedi meddwl am ffyrdd newydd o gynnwys mwy o bobl, adnabod buddiolwyr newydd y mae angen ymagwedd newydd i ymdrin â nhw, neu os ydych wedi gweld bod yna rhai pobl nad oes angen eich cefnogaeth arnynt bellach)
- amcangyfrif y ganran o bobl a fydd yn elwa o'ch prosiect o dan ein categorïau cydraddoldeb
- dweud wrthym ar ba dystiolaeth rydych wedi seilio eich amcangyfrifon
- dweud wrthym sut byddwch yn casglu tystiolaeth trwy gydol eich prosiect i ddangos y ganran o bobl sydd wedi elwa o dan ein categorïau cydraddoldeb.
Os bydd angen mwy o amser arnoch i lenwi'r rhan hon o'r ffurflen Dechrau eich grant, gallwch ddychwelyd gweddill y ffurflen pan fyddwch yn barod i ddechrau ar eich prosiect, ac anfon yr adran gydraddoldeb yn nes ymlaen. Ond mae'n rhaid i ni dderbyn yr adran gydraddoldeb o fewn chwe mis o'r dyddiad y llofnodwyd eich cytundeb grant, neu o fewn deuddeg mis os ydym yn ariannu prosiect adeiladu.
Bob blwyddyn
Bydd angen i chi anfon ffurflen Diwedd blwyddyn atom. Mae hon yn cynnwys adran gwybodaeth gydraddoldeb lle byddwn yn gofyn i chi:
- ddweud wrthym am yr hyn y gwnaethoch i sicrhau bod pawb a allai elwa o'ch prosiect yn gwybod amdano ac yn gallu ei ddefnyddio neu gymryd rhan ynddo
- rhoi canran y bobl a elwodd o'ch prosiect o dan y categorïau cydraddoldeb a nodir yn y ffurflen, gan ddarparu tystiolaeth i gefnogi hyn
- dweud wrthym pa mor effeithiol yr oeddech yn eich barn chi wrth sicrhau bod pawb a allai elwa o'ch prosiect yn gwybod amdano ac yn gallu ei ddefnyddio neu gymryd rhan ynddo ac, os oes angen, yr hyn y byddwch yn ei wneud yn wahanol yn ystod y flwyddyn i ddod.
Ar ôl i chi orffen
Bydd angen i chi anfon ffurflen Diwedd grant atom. Mae hon yn cynnwys adran gwybodaeth gydraddoldeb sy'n debyg i'r ffurflen Diwedd blwyddyn, ond yn lle gofyn i chi beth y byddwch yn ei wneud yn wahanol y flwyddyn nesaf, byddwn yn gofyn i chi beth rydych wedi'i ddysgu dros gyfnod cyfan eich prosiect.
Cael gwybod sut i gasglu eich tystiolaeth >>>