Skip to content

Categorïau cydraddoldeb

Defnyddiwn nifer o gategorïau cydraddoldeb yn ein ffurflenni a'n harweiniad, ac weithiau gofynnir i ni beth mae ein categorïau cydraddoldeb yn ei olygu. Dyma esboniad o'r prif rai y gofynnir i ni amdanynt.

Gallwch hefyd Lawrlwytho'r rhestr lawn 
- 128KB
yma.

Anabledd

Defnyddiwn y diffiniad yn Neddf Cydraddoldeb 2010, sy'n diffinio person anabl fel rhywun gyda nam meddyliol neu gorfforol sydd ag effaith sylweddol a hir dymor ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd

Cefndir ethnig

Mae rhestr y cefndiroedd ethnig a ddefnyddiwn yn seiliedig ar Gyfrifiad 2011. Cofiwch fod gan bawb gefndir ethnig.

Gwyn Cymru/Lloegr/Yr Alban/Gogledd Iwerddon/DU

Mae hyn yn cyfeirio at bobl sy'n cael eu diffinio'n Wyn ac wedi'u geni yn y DU neu o dras y DU. Rhagwelwn y bydd llawer iawn o brosiectau o fudd pennaf i bobl o'r cefndir ethnig hwn.

Iwerddon

Mae hyn yn golygu pobl o Iwerddon sy'n byw ym Mhrydain Fawr.

Cefndir Sipsi neu Deithwyr Gwyddelig

Mae Sipsiwn a Theithwyr Gwyddelig yn cael eu hadnabod fel grwpiau ethnig penodol yn y DU. Mae hyn yn gwahaniaethu rhyngddynt a Theithwyr eraill (er enghraifft Teithwyr Newydd).

Unrhyw gefndir Gwyn arall

Mae hyn yn cyfeirio at bobl sy'n cael eu diffinio'n Wyn ac sydd o dras o'r tu allan i'r DU, er enghraifft, Ewrop, Awstralia, De Affrica neu America.

Cefndir ethnig cymysg

Mae hyn yn cyfeirio at bobl y mae eu rhieni o gefndir ethnig gwahanol i'w gilydd.

Unrhyw gefndir Asiaidd arall

Mae hyn yn cynnwys pobl o dras Asiaidd y mae eu teuluoedd wedi ymagrtrefu yn Affrica neu'r Caribî, yn ogystal â phobl o Sri Lanka, Nepal ac Afghanistan.

Unrhyw gefndir Du/Affricanaidd/Caribîaidd arall

Mae hyn yn cynnwys pobl o dras Du sydd wedi'u geni yn y DU, Ewrop, Asia, De neu Ogledd America, Affrica, y Caribî ac Ynysoedd y Caribî.

Arabaidd

Mae hyn yn cyfeirio ar bobl mai'r Arabeg yw eu hiaith nhw, y maent o dras y 'Byd Arabaidd' - gwledydd sy'n siarad Arabeg ar draws Gorllewin Asia a Gogledd Affrica.

Unrhyw grŵp ethnig arall

Mae hyn yn cynnwys pobl sy'n dod yn wreiddiol o Japan, Ynysoedd y Philipinau, Gwlad Thai, Vietnam, y Dwyrain Canol.

Crefydd neu gred

Cymerir rhestr y crefyddau neu gredoau o Gyfrifiad 2011.

Dim crefydd

Mae hyn yn cynnwys pobl heb unrhyw gred grefyddol.

Iaith Gymraeg

Ar gyfer prosiectau yng Nghymru, p'un a yw pobl yn siarad Cymraeg ai beidio.

Cefndir ethnig

Ar gyfer prosiectau yng Ngogledd Iwerddon, p'un a yw pobl yn rhan o'r gymuned Brotestannaidd neu Gatholig, neu heb fod yn aelod o'r naill na'r llall.

Cyfrifoldeb gofalu

Gofynnwn weithiau p'un a oes gan bobl gyfrifoldebau gofalu am rywun arall, er enghraifft aelod arall o'r teulu.