Yn eich ffurflen Diwedd blwyddyn a Diwedd grant byddwn yn gofyn i chi ein hysbysu am y ganran o bobl sydd wedi elwa o'ch prosiect o dan ein categorïau cydraddoldeb a darparu tystiolaeth i gefnogi hyn. Felly bydd angen i chi roi gweithdrefnau ar waith i gasglu hyn.
Beth i'w ystyried

- Fe'ch anogir i gywain gwybodaeth am ein holl gategorïau cydraddoldeb ond sylweddolwn nad yw hyn bob amser yn bosib nac yn briodol, er enghraifft os byddai dod o hyd i'r wybodaeth hon yn atal pobl rhag cymryd rhan yn eich prosiect neu effeithio ar sut y byddant yn elwa ohono. Os credwch y gallai hyn fod yn berthnasol, cysylltwch â'ch Swyddog Grantiau i'w drafod.
- Wrth gywain gwybodaeth gydraddoldeb mae'n bwysig dweud wrth bobl bod y cwestiynau'n ddewisol. Mae rhai categorïau cydraddoldeb yn arbennig o sensitif (fel arfer mewn perthynas â thueddfryd rhywiol, crefydd neu gred, anabledd, cefndir ethnig neu gefndir cymunedol), felly gallech gynnwys opsiwn ‘gwell gennyf beidio â dweud’ (er y gallai hyn ostwng eich cyfradd ymateb).
- Yn gyffredinol, ni ddylid casglu gwybodaeth am dueddfryd rhywiol gan bobl o dan 16 oed, er y gallai fod yn briodol yn achlysurol mewn prosiectau sy'n gweithio gyda phobl ifanc 12 oed a throsodd.
- Mae llawer o brosiectau'n cynnwys buddiolwyr uniongyrchol (y bobl sy'n defnyddio'r prosiect) a buddiolwyr anuniongyrchol (er enghraifft, eu teulu). Dim ond ar eich buddiolwyr uniongyrchol y mae angen i chi gasglu data, oni bai bod buddiolwyr anuniongyrchol yn bwysig o ran cyflawni canlyniadau eich prosiect.
- Bydd eich dull o gasglu tystiolaeth yn dibynnu ar y math o brosiect a'i raddfa, faint rydych yn ei wybod am y bobl a fydd yn elwa a'r amser sydd ar gael i'ch staff a buddiolwyr. Gall gadw hyn i gyd mewn cof mae angen i chi fedru dangos bod gennych ymagwedd gytbwys.
- Nid ydym yn disgwyl i chi gasglu gwybodaeth gan bawb ond bydd angen i chi fod â digon o wybodaeth i ddarparu ffigurau dibynadwy o ran lledaeniad y bobl sy'n elwa o'ch prosiect.
- Dylai eich dulliau casglu gwybodaeth leiafu'r risg o gasglu gwybodaeth am yr un person yn fwy nag unwaith mewn unrhyw flwyddyn.
Cofiwch y gall casglu data cydraddoldeb yn effeithiol eich helpu i adnabod pwy sydd, a phwy sy ddim, yn elwa o weithgareddau a gwasanaethau eich prosiect. Yna gallwch ddefnyddio'r ddysg hon i wneud newidiadau er mwyn sicrhau bod eich prosiect yn cyrraedd pawb a allai elwa ohono.
Gweld enghreifftiau o sut i gasglu tystiolaeth trwy gydol eich prosiect
Dysgu mwy am yr offer y gallwch ei ddefnyddio >>>