Nid oedd prosiect calonnau iach sy'n paratoi i gynnal dosbarthiadau coginio i bawb yn gallu dod o hyd i ddata ar dueddfryd rhywiol y bobl sy'n byw yn eu hardal leol. Yn hytrach, penderfynwyd i ddefnyddio data o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol am bobl sy'n byw yn y DU (y byddwch yn dod o hyd iddo yn yr adroddiad a ganlyn).
Roedd neuadd bentref sy'n cynnal gweithgareddau addysgol a hamdden yn gwybod bod proffil ethnig yr ardal wedi newid dros y flwyddyn ddiwethaf o ganlyniad i rai teuluoedd gyrraedd o Wlad Pwyl.
I gael gwybod pa mor fawr oedd y gymuned newydd hon ac i sicrhau bod y gweithgareddau a ddarperir yn ymateb i'w hanghenion a'u diddordebau nhw, gofynnodd pwyllgor neuadd y pentref i'r awdurdod lleol am ystadegau ar gyfer eu pentref. Gan i adran ymchwil yr awdurdod lleol gyflawni ei harchwiliad ei hun yn ddiweddar, roedd yn gallu darparu gwybodaeth ddiweddar yn dangos bod 0.5 y cant o'r buddiolwyr yn debygol o fod o 'Unrhyw gefndir Gwyn arall' (roedd hyn yn cynnwys y newydd-ddyfodiaid o Wlad Pwyl).
Cydnabu prosiect sydd â'r nod o ddarparu cyfleoedd dysgu gydol oes i bobl hŷn sy'n byw mewn ardal wledig eang nad oedd yn gwybod pa ganran o'i fuddiolwyr oedd yn wrywaidd neu'n fenywaidd. O brofiad blaenorol roedd yn gwybod bod gan ddefnyddwyr gwrywaidd a benywaidd ddiddordebau gwahanol fel arfer gan olygu, felly, nad oedd yn gwybod sut i ddylunio ei raglen. Cysylltodd gweithiwr y prosiect ag adran addysg barhaus y brifysgol leol a oedd yn gallu darparu ystadegau rhyw ar gyfer pobl hŷn o'i chronfa ddata ei hun (60 y cant benywaidd a 40 y cant gwrywaidd).