Skip to content

Mwy am ffurflenni monitro cydraddoldeb

Ffurflenni sydd wedi'u dylunio'n benodol i gasglu gwybodaeth am nodweddion cydraddoldeb unigolion yw'r rhain. Yn aml byddwch yn gofyn i bobl lenwi ffurflen monitro cydraddoldeb ar ddechrau eich prosiect, er y gellir ei chwblhau hanner y ffordd drwodd neu ar y diwedd.

Trwy ddyrannu rhif cyfeirnod unigryw i bob unigolyn (a'i ffurflen monitro cydraddoldeb) gallwch gadw cofnod o'i berthynas â'ch prosiect (a'ch mudiad) dros amser, heb orfod casglu eu gwybodaeth gydraddoldeb yn fwy nag unwaith. Gallwch hefyd storio'r wybodaeth gydraddoldeb a gasglwch yn fwy cyfrinachol gan y gallwch ei chadw ar wahân i unrhyw ddata a fyddai'n adnabod unigolion (megis eu henwau). Cofiwch fod data'n mynd yn ddata personol wrth iddo gael ei gysylltu ag unigolyn, ac felly yn destun y Ddeddf Diogelu Data.

Yn ddelfrydol dylid cwblhau ffurflenni monitro'n breifat. Fodd bynnag, mae hyn yn tybio y gall yr unigolyn ddarllen ac ysgrifennu, ac ni fydd hyn bob amser yn wir gydag, er enghraifft, pobl ag anableddau dysgu. Dewis arall yw darparu rhywfaint o gymorth wrth lenwi'r ffurflen, er enghraifft gan aelod o'ch mudiad. Mae hyn yn arwain at gyfradd ymateb uchel ond ni ddylech gynnwys y cwestiynau mwyaf sensitif, megis y rhai am dueddfryd rhywiol.