Skip to content

Barod am sgwrs

Trwy godi’r ffon neu alw heibio cartref person hyn. Gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w bywyd

Mae rhaglen Llawn BYWYD £20 miliwn y Gronfa Loteri Fawr yn anelu at wella ansawdd bywydau pobl dros 50 oed yng Nghymru. Ar yr un pryd, rydym wedi lansio ymgyrch bod yn gyfaill i annog pobl i wirfoddoli i wneud ffrindiau gyda pherson hŷn.

Os gallech chi wirfoddoli i dreulio ychydig o amser yn chwerthin ac yn sgwrsio gyda pherson hŷn, agorwch y pecyn cardiau post ar y dudalen yma a chofrestrwch eich diddordeb drwy lenwi eich manylion isod.

Y ffeithiau

  • Mae gan Gymru'r ganran uchaf o bobl hŷn yn y DU
  • Mae mwy o bensiynwyr na phlant dan 16 oed am y tro cyntaf erioed erbyn hŷn
  • Mae cwrdd yn gymdeithasol yn lleihau unigrwydd ac yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles
  • Ar ôl ymuno â sesiwn bod yn gyfaill ar y cyd, teimlodd 82% o bobl hŷn fod ganddynt rywbeth i edrych ymlaen ato
  • Rydym yn byw mewn cymdeithas lle mae 1 o bob 7 o bobl yn bensiynwyr sy'n byw ar eu pennau eu hunain.
  • Mae bod yn gyfaill yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at fywydau pobl.

Os hoffech wneud gwahaniaeth i fywyd person hŷn anfonwch e-bost at ben.payne@biglotteryfund.org.uk a chofiwch gynnwys y manylion canlynol:

If you would like to make a difference to an older person’s life please email  and please include the following details: (Will translate this on the webpage)

  • Enw:
  • Cyfeiriad:
  • Rhif ffôn:
  • Cyfeiriad e-bost:

Ticiwch y blwch i nodi pa fudiad y byddai gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli ar ei gyfer:

Gallwch gael gwybodaeth hefyd am wasanaethau bod yn gyfaill eraill ledled Cymru drwy gysylltu â Chynghrair Henoed Cymru ar 029 2043 1574 neu Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar 0800 288 8329.

Pecyn cardiau post Barod am sgwrs

Cael gwybod mwy am sut y gallwch wneud gwahaniaeth MAWR i fywyd person hyn:

age CYMRU
WRVS