Diweddariadau rhaglen
Cronfa Loteri Fawr - Gwybodaeth bwysig
Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dechrau cyhoeddi nifer o raglenni newydd a fydd yn cael eu lansio rhwng Hydref 2005 a Hydref 2006. Mae prif themâu'r rhaglenni wedi eu hamlinellu yn y llyfryn isod. Bydd gwybodaeth bellach am bob rhaglen yn ymddangos yn yr adran Rhaglenni Ariannu fel y byddant yn cael eu cyhoeddi.
Nodwch os gwelwch yn dda na fydd rhaglen Arian i Bawb Cymru yn cael ei effeithio gan y cyhoeddiad yma ac fod y Gronfa hefyd yn rhedeg rhaglen o'r enw Cronfa Pobl Ifanc sy'n targedu pobl ifanc rhwng 10 ac 19 oed.
Mae'r Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru yn awr wedi cau ei raglenni grantiau Mawr a Chanolig y Sector Gwirfoddol a Chymunedol (Rhaglenni grantiau Mawr a Chanolig y Gronfa Gymunedol ynghynt). Gwnaethpwyd y cyhoeddiadau dyfarnu olaf o dan y rhaglen yma yn Rhagfyr 2005.
Am wybodaeth bellach am unrhyw un o'r uchod chwiliwch y wefan yma ymhellach neu mae croeso i chi ffonio 01686 611 700.