Rydym yn un o wyth dosbarthwr arian y Loteri yng Nghymru sy'n cefnogi achosion da yn y celfyddydau, treftadaeth, ffilm, iechyd, addysg, yr amgylchedd, chwaraeon a'r sectorau cymunedol ac elusennol yng Nghymru. Isod mae dolenni i ddosbarthwyr eraill ynghyd â gwybodaeth ddefnyddiol.
Drwy fynd i wefan Ariannu'r Loteri Genedlaethol bydd moddi i chi chwilio am yr holl raglenni ariannu sydd ar gael gan holl gyrff dosbarthu arian y Loteri www.lotteryfunding.org.uk
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) yn gyfrifol am ariannu a datblygu’r celfyddydau yng Nghymru.
Arian i Bawb yw rhaglen grantiau’r Loteri ar gyfer cymunedau lleol. Dyfarnwn grantiau rhwng £500 a £5,000 mewn ffordd syml a diffwdan.
Mae Arian y Loteri’n wefan ar y cyd a redir gan holl arianwyr Loteri’r DU.
NESTA yw’r Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg a’r Celfyddydau. Ni yw’r gwaddol sengl mwyaf y mae ei unig nod yw cefnogi doniau, arloesedd a chreadigrwydd yn y DU. Ein cenhadaeth yw trawsnewid gallu y DU o ran arloesedd. Rydym yn buddsoddi mewn cwmnïau newydd, yn cyfeirio polisïau arloesedd ac yn annog diwylliant sy’n helpu arloesedd i ffynnu. Mae NESTA yn defnyddio’i adnoddau i adeiladu a phrofi modelau arloesedd newydd, gan weithio’n aml mewn partneriaeth â sefydliadau eraill.
Cyngor Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a hamdden. Mae Cyngor Chwaraeon Cymru hefyd yn gyfrifol am ddosbarthu arian y Loteri i chwaraeon yng Nghymru.
Mae Cyngor Ffilm y DU yn anelu at symbylu diwydiant a diwylliant ffilm cystadleuol, llwyddiannus a bywiog yn y DU, a hyrwyddo mwynhad a dealltwriaeth mor eang â phosib o sinema ledled cenhedloedd a rhanbarthau’r DU.
Mae Chwaraeon DU yn gweithio mewn partneriaeth â chynghorau chwaraeon y gwledydd cartref ac asiantaethau eraill i arwain chwaraeon yn y DU at lwyddiant byd-eang.