Yn y Gronfa Loteri Fawr rydym yn diffinio hunanwerthuso fel a ganlyn:
Gwerthusiad o brosiect sy’n cael ei gyflawni neu ei gomisiynu gan y rhai sy’n rhedeg y prosiect. Mae’n golygu y byddant yn casglu ac yn defnyddio data i ateb eu cwestiynau eu hunain o ran ansawdd, gwerth a chyfeiriad eu gwaith, ac i reoli eu perfformiad.
Pam mae hunanwerthuso’n bwysig ar gyfer prosiectau
Mae hunanwerthuso’n cymryd amser ac ymdrech, ond yn eich galluogi i:
- ymchwilio i’r rhesymau pam mae pethau’n gweithio’n dda (neu pam nad ydynt yn gweithio’n dda) a gwneud newidiadau er mwyn i chi gyflawni eich canlyniadau’n well.
- casglu gwybodaeth a fydd yn eich helpu chi i adrodd i arianwyr ac eraill.
- nodi arfer da a helpu prosiectau eraill i wella’r ffordd y maent yn gweithio drwy gyhoeddi canfyddiadau eich gwerthusiad.
- creu diwylliant o fyfyrdod a dadansoddi o fewn eich sefydliad sy’n helpu pobl i wella ansawdd eu gwaith.