Hunanwerthuso: Canllawiau Cyffredinol a Gwasanaethau Cefnogi
Yma rydym wedi rhestru nifer o sefydliadau sy’n arbenigo mewn cynnig cyngor, gwybodaeth, hyfforddiant ac ymgynghori ar hunanwerthuso. Tra bod nifer o sefydliadau’n canolbwyntio ar un o wledydd y DU, mae eu deunyddiau yn aml yr un mor berthnasol i brosiectau sy’n gweithredu mewn rhannau eraill o’r DU neu’n rhyngwladol.
Os ydych am ddod o hyd i adnoddau gwerthuso sy’n berthnasol i thema neu fath o weithgaredd penodol (er enghraifft, iechyd a lles, yr amgylchedd, dysgu a sgiliau, chwaraeon, datblygu cynaliadwy), gall fod yn ddefnyddiol fynd i wefannau dosbarthwyr eraill y Loteri ac adrannau perthnasol y Llywodraeth (cenedlaethol a rhanbarthol) - a dod o hyd i’w tudalennau ar y we sy’n ymwneud ag ymchwil, dadansoddi, gwerthuso neu berfformiad. Gall y rhain fod yn ddefnyddiol hefyd os ydych am roi gwerthusiad eich prosiect yng nghyd-destun ehangach polisïau a thueddiadau cenedlaethol.
Ymysg ffynonellau gwybodaeth posib eraill ar gyfer eich gwerthusiad, ceir y canlynol: canolfannau ymchwil prifysgolion sy’n arbenigo mewn meysydd penodol; sefydliadau ymchwil neu ymgynghori preifat sy’n cyhoeddi eu hoffer neu ddeunyddiau cefnogi; sefydliadau sector gwirfoddol cenedlaethol neu ranbarthol; adrannau ymchwil awdurdodau lleol; a grwpiau gwirfoddol a chymunedol sydd wedi cynhyrchu a chyhoeddi adroddiadau gwerthuso ar brosiectau sy’n debyg i’ch un chi.