Chi sy’n penderfynu a ydych am gomisiynu gwerthuswr allanol neu gyflawni hunanwerthusiad eich hun gan ddefnyddio eich tîm prosiect a’ch adnoddau eich hun.
Neu efallai y byddai’n well gennych ddefnyddio cymysgedd o’r ddwy ymagwedd. Mae manteision pob ymagwedd fel a ganlyn:
Manteision gwneud eich hunanwerthusiad eich hun:
- Mae gennych chi a’ch staff wybodaeth fanwl am sut mae eich sefydliad yn gweithio Rydych yn sensitif i anghenion eich prosiect a’i ddefnyddwyr
- Mae’n galluogi eich staff i ddysgu sgiliau newydd
- Mae’n annog myfyrio a dysgu gweithredol gan y rhai sy’n cymryd rhan, sy’n fwy tebygol o arwain at newid yn eich sefydliad
- Byddwch yn arbed ar gostau’r prosiect.
Manteision comisiynu asiantaeth allanol i wneud yr hunanwerthuso:
- Bydd y gwerthusiad yn cymryd llai o amser staff
- Gall cyfweleion siarad yn fwy agored
- Mae’n bosib y bydd gwerthuswyr allanol yn ei chael hi’n haws nodi gwendidau
- Mae’n osgoi gwrthdaro buddiannau gan fod y gwerthuswyr yn annibynnol
- Bydd gan arbenigwyr sgiliau gwerthuso
- Mae’n bosib y bydd pobl eraill yn ystyried bod y canlyniad terfynol yn fwy gwrthrychol/credadwy.