Ynglŷn ag ymchwil
- ·ein helpu ni ac eraill i ddeall y cyd-destun polisi ehangach, neu'r amgylchiadau y mae gwasanaethau yn cael eu cyflenwi ynddynt, yn aml iawn er mwyn cefnogi datblygiad rhaglenni newydd
- ·adolygu ein perfformiad fel sefydliad ariannu, er enghraifft trwy adolygu prosesau gwneud cais a sut y derbynnir ceisiadau o'r fath
- ·ymateb i faterion neu gwestiynau ymchwil sy'n deillio o feysydd ein gwaith, neu o agendâu gwleidyddol sy'n datblygu
Y prif gynulleidfaoedd ar gyfer ein gwaith ymchwil yw:
1. Pobl sy'n cynnal prosiectau neu sy'n darparu gwasanaethau tebyg
Rydym am gefnogi ein deiliaid grantiau presennol neu arfaethedig yn eu gwaith. Rydym wedi cynnal; ymchwil sy'n canolbwyntio ar feysydd penodol a chyffredinol a allai fod o ddiddordeb i brosiectau. Mae hyn yn cynnwys ymchwil ar:
- ·Cynnwys pobl ifanc mewn gwerthuso ac ymgynghori
- ·
Hunan-werthuso: canllaw defnyddiol i ffynonellau A guide to some of the most useful resources on monitoring and evaluation. - 960KB - ·Holiaduron ar gyfer monitro a dilyn hynt pobl ifanc
- ·Gweithio mewn partneriaeth: llyfryn ffynonellau
2. Pobl sy'n datblygu polisi a/neu rhaglenni ariannu
rydym wedi cynnal sawl math o ymchwil i'n gwneud yn sefydliad ariannu gwell, trwy ddeall y cyd-destun polisi ehangach a thrwy adolygu profiadau a chanfyddiadau'r grwpiau sy'n cael eu hariannu gennym. Ymysg yr adroddiadau a allai fod o ddiddordeb i bobl sy'n datblygu polisi a/neu rhaglenni ariannu y mae:
- ·Gweithio mewn partneriaeth: llyfryn ffynonellau
- ·Datblygu rhaglenni gweithgareddau pobl ifanc: materion i'w hystyried
- ·Cyfranogiad cymunedol mewn cyflenwi gwasanaeth
- ·Rhoi grantiau mawr i grwpiau bach
- ·Archwiliad cydraddoldeb o arferion rhoi grantiau'r Gronfa
Dylid nodi fod y Gronfa Loteri Fawr hefyd yn ariannu mathau gwahanol o ymchwil trwy raglen grantiau ymchwil ar wahân.