1. Cynllunio eich prosiect: deall yr angen

Filter this website by UK country or region

Yn ôl pob tebyg bydd gennych syniad da pam eich bod chi eisiau arian. Mae’n bosibl y byddwch yn ymwybodol o broblemau neu anghenion heb eu diwallu o’ch profiad eich hunan, trwy ymchwil neu trwy gyswllt â sefydliad neu grwp. Y cam cyntaf wrth gymryd ymdriniaeth canlyniadau yw ysgrifennu crynodeb byr o'r prif angen (neu broblem neu fater) y mae eich prosiect yn dymuno mynd i'r afael ag ef. Beth sydd angen ei newid?

Byddwch mor realistig a phenodol â phosibl. Mae’n bosibl y bydd nifer o anghenion, felly cadwch at y brif un y dymunwch weithio arno. Mae’n bosibl na fyddwch yn gwbl sicr neu glir yn ystod y cam hwn, ond bydd gweithio trwy’r arweiniad hwn yn eich helpu i gael syniad cliriach, a gallwch bob amser ddiwygio eich crynodeb wrth symud ymlaen. Ar y llaw arall, mae’n bosibl eich bod yn bendant iawn beth yw'r angen. Er hynny, mae’n bwysig iawn cael datganiad clir ynghylch hyn. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod pobl eraill sy’n gysylltiedig â’ch prosiect yn rhannu’r un ddealltwriaeth, ond hefyd er mwyn i gyllidwyr ddeall yr hyn yr ydych chi’n ceisio ei wneud.

Enghreifftiau o angen cyffredinol

Mynegir yr isod yn nhermau'r hyn sydd angen newid:

  • teuluoedd gyda phlant awtistig ar eu pennau eu hunain ac yn ymdrechu i ymdopi
  • llawer o ysbwriel o amgylch yr ystâd
  • llawer o bobl ifanc lleol yn gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • diffyg aelodau pwyllgor medrus o fewn sefydliadau cymunedol bach.

1.1 Tystiolaeth o angen

Sut ydych chi’n gwybod bod yr angen yn bodoli? Bydd yn rhaid i chi ddarparu peth tystiolaeth. Gall y dystiolaeth ddod o gyfuniad o ffynonellau, megis:

  • gofyn i bobl sydd â phrofiad o’r angen
  • eich profiad eich hun, neu'r hyn yr ydych chi wedi’i weld
  • ymchwil i raddfa’r angen
  • ystadegau lleol ynghylch poblogaeth yr ardal neu lefelau amddifadedd (megis o’r cyfrifiad neu arolygon mwy diweddar) neu ystadegau eraill.

Mae ymron yn bendant y byddwch chi wedi treulio peth amser yn ymchwilio i'r angen. Yn gyffredinol, bydd yr amser y byddwch chi’n ei dreulio yn cyfateb i faint eich prosiect. Yn yr arweiniad hwn byddwn yn canolbwyntio ar brosiectau bach, cymunedol. Ar gyfer sefydliadau a phrosiectau mwy, mae'n debyg y byddwn angen gwybod mwy ynghylch strategaethau lleol, rhanbarthol neu genedlaethol a sut mae eich prosiect yn ffitio o’u mewn a’r dystiolaeth maent wedi’i gasglu. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch ffynonellau ar gael yn y ddalen ffeithiau Ymchwilio ac ysgrifennu ynghylch angen sydd ar y wefan ac yn yr arweiniad i'r rhaglen.

Enghraifft: Tystiolaeth o’r anghenion y mae teuluoedd gyda phlant awtistig yn eu profi

Mae 48 o deuluoedd gyda phlant awtistig wedi’u cofnodi yn yr ardal y mae’ch prosiect yn ymdrin â hi. Rydych wedi dewis wyth o’r rhieni ar hap ac wedi gofyn iddynt am eu profiadau. O blith yr wyth, mae chwech (75 y cant) wedi dweud eu bod yn ymdrechu i ymdopi ac yn teimlo ar eu pennau eich hunain. Mae hyn yn awgrymu bod gan tua 36 o deuluoedd yn yr ardal yr anghenion hynny. Dywedodd y rhieni hefyd mai’r prif resymau oedd diffyg cyswllt gyda theuluoedd eraill gyda phlant awtistig a diffyg mannau i fynd gyda’u plant.

Nodyn ar ymgynghoriad:

Mae’n bosibl nad yw’r bobl sy’n cynnig eu barnau yn gynrychioliadol o’r mwyafrif. Os byddwch yn gwahodd pobl i fynychu digwyddiad ymgynghori, dosbarthu holiadur a gofyn i bobl ei ddychwelyd, neu ofyn i bobl yr ydych chi’n eu hadnabod am eu safbwyntiau, mae siawns cryf y gall hyn ddigwydd. Mae’n bosibl y bydd gan bobl eraill safbwyntiau perthnasol ond nad ydynt wedi cael cyfle i ymateb. Felly dylech sicrhau eich bod yn clywed gan bobl a all gynrychioli'r ystod lawn o fuddiolwyr. Gallwch wneud hyn trwy amryw ffyrdd: Bydd dalen ffeithiau Defnyddio holiaduron ac arolygon ar ein gwefan yn rhoi mwy o syniadau a ffynonellau i chi.

1.2 Deall y rhesymau dros yr angen

Mae’n bosibl fod nifer o achosion posibl dros yr angen y bwriadwch fynd i'r afael ag ef. Eto, mae’n bwysig nodi pa anghenion y byddwch yn mynd i'r afael â hwy a pha rai na fyddwch. Mae’n werth cael rhesymau clir dros hynny.

Mae’r tabl isod yn rhoi rhai enghreifftiau o broblemau, rhesymau a datrysiadau posibl.

   
Problem gyffredinolDealltwriaeth o’r rheswm dros y broblemDatrysiad posibl (prosiect)
Gormod o ysbwriel ar yr ystâdDim digon o finiau ysbwriel a'r rhai sydd ar gael yn rhy fachAngen mwy o finiau a biniau mwy
 Pobl yn taflu gormod o ysbwrielProsiect ailgylchu o fewn y gymuned
Pobl ifanc yn gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasolNid oes ganddynt unlle i fynd a dim byd i'w wneudSefydlu clwb ieuenctid a chynnal gweithgareddau
 Eu rhieni methu ymdopi gyda hwyProsiect cefnogi rhieni
Diffyg aelodau pwyllgor medrus o fewn sefydliadau cymunedol bachNid yw sefydliadau cymunedol yn gwybod pa sgiliau y mae eu hangen a sut y gallai mwy o sgiliau fod o fudd iddyntArchwiliad sgiliau
 Nid oes gan aelodau pwyllgorau rheoli cyfredol y sgiliau yn y meysydd gofynnolHyfforddiant ar gyfer aelodau pwyllgorau rheoli
 Anhawster wrth recriwtio aelodau pwyllgorau rheoli medrusGyriant recriwtio

Ymarfer:

Trefnwch gyfarfod gyda phobl eraill sy'n gysylltiedig â'ch prosiect. Ysgrifennwch yr angen yr ydych chi wedi’i adnabod, a gofynnwch i bawb gynnig atebion posibl i'r cwestiwn a ganlyn:

  • Beth yw’r angen? Beth yw’r dystiolaeth drosto? Beth sydd yn ei achosi?

Yna penderfynwch fel grwp beth yw’r prif reswm/rhesymau. Mae hyn yn debygol o fod yr angen y mae’ch prosiect yn bwriadu mynd i'r afael ag ef.

Yn awr edrychwch ar y rhesymau eraill. Pam nad ydynt yn berthnasol neu mor bwysig? A oes rhesymau eraill pam nad ydych chi’n bwriadu mynd i'r afael â hwy? Hwyrach bod rhywun arall yn ymdrin â hwy, ac y bydd eich prosiect yn ategu at yr hyn maent hwy yn ei wneud.

Dylai hyn eich helpu chi ac eraill i gael syniad cliriach ynghylch diben eich prosiect a'r hyn y bydd yn ei wneud a'r hyn na fydd yn ei wneud.

Canfyddwch a oes unrhyw brosiectau neu wasanaethau eraill yn mynd i'r afael ag anghenion tebyg neu'n gweithio gyda'r un buddiolwyr yn eich ardal. Byddwch angen y wybodaeth hon os bydd cyllidwyr neu eraill yn gofyn sut y bydd eich prosiect yn llanw bylchau neu’n ychwanegu gwerth at brosiectau cyfredol. Gallai meddwl am brosiectau eraill neu siarad â hwy eich helpu i ddod o hyd i dystiolaeth ynghylch yr hyn sydd ei angen a pha ymdriniaethau sy'n debygol o weithio. Yn benodol, gallai prosiectau tebyg i’ch un chi sydd eisoes yn gweithio mewn man arall roi llawer o gyngor da i chi.

Enghreifftiau:

  • Fe wnaethom ystyried rhesymau posibl dros y broblem ysbwriel (rhestrwch resymau) a phenderfynu sefydlu prosiect ailgylchu cymunedol ar sail mai’r prif resymau oedd bod pobl yn taflu gormod o ysbwriel.
  • Mae nifer o resymau dros ymddygiad gwrthgymdeithasol pobl ifanc. (Rhestrwch y rhesymau.) Mae prosiect lleol ar gael yn barod sy'n gweithio gyda rhieni, felly rydym wedi dewis sefydlu clwb ieuenctid.

Gallai enghreifftiau o dystiolaeth o sut yr ydych chi’n gwybod bod eich ymdriniaeth yn angenrheidiol ac y bydd yn cael ei ddefnyddio gan eich buddiolwyr gynnwys:

  • profiad o brosiectau tebyg eraill
  • canfyddiadau'r ymchwil
  • canfyddiadau o ymarfer ymgynghori sy'n gofyn i'r bobl â'r angen beth fyddai'n helpu yn eu barn hwy.

Bydd y Gronfa Loteri Fawr yn gofyn i chi yn eich ffurflen gais am:

  • yr angen y mae’ch prosiect yn ceisio ei fodloni, a’r dystiolaeth sydd gennych ynghylch yr angen
  • y mathau o bobl a fyddai’n elwa o’ch prosiect a thystiolaeth sydd gennych am eu hangen, ynghyd â lefel yr angen hwnnw mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi ddangos eich bod yn targedu’r bobl sydd fwyaf mewn angen
  • pam y credwch chi mai eich prosiect yw’r ymdriniaeth orau i fodloni’r angen.

Ar ôl i chi ddeall yr angen y dymunwch fynd i'r afael ag ef, gallwch weithio ar fod yn glir ynghylch y gwahaniaeth y dymunwch ei wneud, ac yna sut y bwriadwch wneud hynny.

  
1. Cynllunio eich prosiect: deall yr angen2. Bod yn glir ynghylch eich nodau a’ch canlyniadau
3. Mesur cynnydd4. Dysgu o'ch canlyniadau

Yn ôl i'r brig