Ynglŷn â gwerthuso
Caiff ein gwaith gwerthuso ei gontractio i gyrff allanol. Mae hyn yn sicrhau eu bod yn wrthrychol ac yn cael eu cyflawni gan bobl sydd â sgiliau a gwybodaeth arbenigol.
Rydym yn cymryd dulliau gweithredu gwahanol i werthuso effaith ein hariannu. Mae hyn yn cynnwys:
- ·gwerthuso cynnydd yn erbyn themâu a chanlyniadau lefel uchel y Gronfa Loteri fawr
- ·gwerthuso rhaglenni yn erbyn eu hamcanion
- ·archwilio themâu cyffredin neu batrymau ar draws nifer o raglenni
- ·gwerthuso ein prosesau ariannu ein hunain
- ·cefnogi prosiectau hunanwerthuso
Ein nod yw dosbarthu ein casgliadau gwerthuso o fewn ein sefydliad a chyda chynulleidfaoedd allanol. Dwy o'n prif gynulleidfaoedd yw pobl sy'n cynnal prosiectau neu sy'n darparu gwasanaethau tebyg a phobl sy'n datblygu polisi a/neu rhaglenni ariannu.
1. Pobl sy'n cynnal prosiectau neu sy'n darparu gwasanaethau tebyg
Rydym am gefnogi ein deiliaid grantiau presennol neu arfaethedig yn eu gwaith. Os ydych yn cymryd rhan mewn rhaglenni yr ydym eisoes yn eu rhedeg, efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y gwerthusiad perthnasol. Mae ein gwerthusiadau yn aml yn adnabod materion sydd o bryder i brosiectau a ariennir ac yn amlygu enghreifftiau o arfer da.
2. Pobl sy'n datblygu polisi a/neu rhaglenni ariannu
rydym wedi cynnal gwerthusiadau sy'n ein helpu i ddeall y cyd-destun polisi ehangach a phrofiadau a chanfyddiadau y grwpiau sy'n cael eu hariannu gennym. Mae ein gwerthusiadau yn aml yn adnabod goblygiadau polisi a datblygiad rhaglen.