|
Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn comisiynu nifer fawr o brosiectau gwerthuso ac ymchwil. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn cael arbenigedd a gwrthrychedd yn ein gwerthusiadau. Mae gennym gyfres safonol o weithdrefnau ac rydym yn cydymffurfio â Chyfarwyddiadau Caffael yr Undeb Ewropeaidd lle mae hynny'n briodol.
Ein nod yw hysbysebu contractau’n eang, gan ddefnyddio'r wasg, y Rhyngrwyd a Chyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd lle mae hynny'n briodol. Mewn rhai amgylchiadau, rydym hefyd yn gofyn am dendrau gan sefydliadau dethol.
Gofynnir am fynegiant o ddiddordeb i gychwyn ac maent yn rhag-amod ar gyfer gwahoddiad i dendro. Rydym yn defnyddio mynegiadau o ddiddordeb i'n helpu i asesu a oes gan y contractiwr arfaethedig y sgiliau a'r profiad addas i ymgymryd â'r gwaith. Lle cawn ein bodloni bod ein gofynion wedi eu cyflawni, cyhoeddir gwahoddiad i dendro.
Disgwylir i'r rhai a wahoddir i dendro gyflwyno eu bidiau erbyn dyddiad cau penodedig. Fe allwn drefnu sesiynau briffio ar gyfer y rhai sy'n tendro er mwyn rhoi trosolwg o gynnwys y rhaglen a gofynion y gwerthusiad. Caiff y rhai sy'n tendro eu hasesu yn fewnol a gellir rhoi unrhyw nifer o ymgeiswyr ar y rhestr fer ac yn dilyn hynny eu gwahodd am gyfweliad. Yn ddibynnol ar ganlyniad y cyfweliad, penodir contractwr.
|