Mae’n bosibl y bydd gwahanol gyllidwyr yn gofyn i chi ddisgrifio’r rhain mewn gwahanol ffyrdd. Pan fyddwch yn ymgeisio i'r Gronfa Loteri Fawr, gelwir y gwahanol lefelau neu dargedau y byddwch yn eu gosod yn “gerrig milltir”, a dylent oll fod yn CAMPUS. Byddwn yn gofyn i chi adrodd amdanynt yn rheolaidd.
Byddwch yn mesur cynnydd eich prosiect mewn dwy ffordd:
- trwy fesur cynnydd eich gweithgareddau
- trwy fesur eich cynnydd tuag at gyflawni eich canlyniadau arfaethedig.
3.1 Cynnydd eich gweithgareddau
Mae fel arfer yn haws meddwl am hyn, oherwydd bod llawer ohono yn ymwneud â phenderfynu a chofnodi'r prif dasgau y byddwch yn ymgymryd â hwy, a phryd y bydd y rhain yn cael eu cwblhau.
Mae rhai tasgau neu wasanaethau y byddwch yn eu cynnig trwy gydol eich prosiect, ac mae'n ddefnyddiol cael syniad o faint y byddwch wedi'u cynnig erbyn pa gyfnod.
Byddwn yn galw'r cyfnodau neu'r lefelau targed hyn yn "gerrig milltir", neu yn fwy penodol, "cerrig milltir gweithgaredd". Gall cerrig milltir helpu i gysylltu prif ddigwyddiadau eich prosiect ag amserlen ehangach.
Oherwydd bod cerrig milltir yn caniatáu i chi fesur eich cynnydd yn erbyn eich cynlluniau, mae’n hanfodol eich bod yn sicrhau eu bod yn CAMPUS.
Gallai cerrig milltir CAMPUS ar gyfer cyflawni tasgau gynnwys yr isod:
- cydlynydd prosiect yn ei le erbyn (31 Ionawr)
- cyhoeddusrwydd wedi’i gynhyrchu a’i ddosbarthu (15 Mai)
- yr eiddo yn barod (31 Mai)
- dechrau ar y gwaith gyda buddiolwyr (10 Mehefin).
Gallai cerrig milltir CAMPUS ar gyfer lefel y gwasanaethau y byddwch wedi’u cynnig gynnwys yr isod:
- 250 o bobl ifanc yn Dungannon wedi mynychu cyfarfodydd trafod (diwedd y flwyddyn gyntaf).
- 16 o ddigwyddiadau ailgylchu cymunedol wedi’u cynnal erbyn 30 Medi.
- 30 o bobl ifanc yn mynychu clwb ieuenctid yr ystâd (diwedd yr ail flwyddyn).
Bydd y Gronfa Loteri Fawr yn gofyn i chi osod cerrig milltir ar gyfer pob un o’ch canlyniadau arfaethedig fel rhan o’ch cais. Byddwn yn gofyn i chi adrodd yn rheolaidd ar eich cynnydd wrth fodloni’r rhain.
Sylwer y mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi osod rhai cerrig milltir sy'n perthyn yn fwy uniongyrchol i gynnydd tuag at ganlyniadau. Gweler adran 3.2 a’r ddalen ffeithiau Enghreifftiau Penodol ar ein gwefan am fwy o fanylion.
Yn gyffredinol bydd y cerrig milltir y byddwch yn eu gosod yn dechrau gyda rhai o’r math cyntaf uchod ac yna’n symud i gymysgedd o’r ail fath ac unrhyw rai sy'n perthyn i ddangosyddion canlyniadau.
3.2 Cynnydd tuag at eich canlyniadau
Mae’r mathau o gerrig milltir a drafodwyd yn yr adran ddiwethaf yn ymwneud yn uniongyrchol â chyflawni tasgau penodol a chyflwyno lefelau gwasanaeth.
Ond mae ariannu canlyniadau yn creu cyswllt rhwng hyn a gwneud gwahaniaeth ar gyfer buddiolwyr neu'r amgylchedd ehangach. Felly mae’n bwysig iawn meddwl ynghylch sut y byddwch yn gwybod eich bod yn gwneud y newidiadau hynny. Gelwir y mesurau yr ydych chi’n eu defnyddio i wneud hyn yn ddangosyddion canlyniadau, oherwydd eu bod yn helpu i fesur pa mor bell yr ydych chi'n symud tuag at gyflawni'r canlyniad cyffredinol, hwyrach trwy gofnodi faint o bobl sydd wedi cyrraedd y canlyniad hyd yma, neu faint sydd wedi cyrraedd y cyfnodau blaenorol.
Ymhlith y cwestiynau y dylech chi feddwl amdanynt i helpu i ddatblygu eich mesuriadau y mae’r isod:
- Sut fyddech chi’n gwybod fod y newid hwn wedi digwydd?
- Sut fyddech chi’n gwybod fod cynnydd tuag at eich canlyniad?
Trwy osod cerrig milltir a lefelau ar gyfer pob un o’ch canlyniadau, mae’n debyg y byddwch wedi ystyried hyn. Ond ar gyfer sawl agwedd o’r canlyniad, bydd yn rhaid i chi fesur newidiadau ar gyfer eich buddiolwyr neu'r amgylchedd. Nid yw hyn yn ymwneud ag adrodd ar eich gweithgareddau yn unig, ond yn ymwneud â phethau megis newidiadau mewn agwedd neu ymddygiad neu, er enghraifft, gostyngiad mesuradwy yn swm yr ysbwriel neu gynnydd yn nifer ac ystod y planhigion ac anifeiliaid mewn gwarchodfa natur newydd. Weithiau gallwch ofyn i bobl ynghylch y newidiadau, ac weithiau y mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi ddibynnu ar arsylwadau.
But outcomes funding links doing that to making a change for beneficiaries or the wider environment. So it is very important to think about how you will know that you are making those changes. The measures that you use to do this are called outcome indicators, because they help to measure how far you are moving towards achieving the overall outcome, perhaps by recording how many people have reached the outcome so far, or how many have reached earlier stages.
The questions that you should think about to help develop your measurements include the following:
- How would you know this change had happened?
- How would you know there was progress towards your outcome?
By setting milestones and levels for each of your outcomes, you are likely to have considered some of this. But for many aspects of the outcome, you will have to measure changes for your beneficiaries or the environment. This is not simply about reporting on your activities, but about things like changes in attitude or behaviour or, for instance, a measurable reduction in the amount of litter or an increase in the number and range of plants and animals in a new nature reserve. Sometimes you can ask people about the changes, and sometimes you may need to rely on observations.
Ymarfer: Rhestru eich dangosyddion canlyniadau
Os yn bosibl, gweithiwch gyda staff, gwirfoddolwyr a buddiolwyr. Rhestrwch bob un o’ch canlyniadau. Gofynnwch i bawb ystyried a thrafod atebion i'r cwestiynau uchod. A ydych chi’n cytuno ar eich atebion? Sut allwch chi fesur y dangosyddion? Cofiwch y gallai peth o’r dystiolaeth o angen a gasglwyd gennych yn flaenorol gynnig ffyrdd hefyd o wneud pethau.
Un ffordd o feddwl am newidiadau ar gyfer pobl yw dychmygu un o'ch buddiolwyr yn cerdded trwy'r drws am y tro cyntaf ac yna'n cerdded allan eto wythnos, mis neu flwyddyn yn ddiweddarach:
- Beth fyddant yn ei wneud wrth ymweld am y tro cyntaf? Beth allent hwy fod yn ei ddweud? Sut maent yn cysylltu (neu beidio) â’r prosiect? Sut ydych chi’n gwybod fod ganddynt anghenion?
- Sut fyddech chi’n ateb y cwestiynau hynny ar ddiwedd eu cysylltiad â’ch prosiect? Beth fydd yn wahanol ar eu cyfer erbyn y diwedd, yn nhermau eu sgiliau, eu hagwedd neu eu gwybodaeth?
Mae’n bosibl y bydd y buddiolwyr yn mynd trwy nifer o gamau neu ar hyd siwrnai tra’u bod gyda’ch prosiect. Os yw hynny’n wir, gallwch ddefnyddio’r ymdriniaeth uchod i adnabod a llanw’r camau ar y siwrnai, gan ddisgrifio sut yr ydych chi'n gwybod bod buddiolwyr wedi symud trwy gyfnod.
Ymarfer: O’r angen cychwynnol i'r canlyniad arfaethedig
Er enghraifft: Ysgrifennwch y sefyllfa gyfredol ar ochr chwith darn mawr o bapur a’r canlyniad y dymunwch ei gyflawni ar yr ochr dde. Gweithiwch gydag eraill i lanw’r siwrnai.

Fe allech chi osod cerrig milltir er mwyn esbonio faint o bobl ifanc y disgwyliwch chi y bydd wedi cyrraedd cam penodol erbyn pa bwynt yn oes eich prosiect. Er enghraifft:
- Mae 75 o bobl ifanc wedi trafod eu hanawsterau gyda’r prosiect (chwe mis).
- Mae 60 o bobl ifanc wedi adrodd eu bod yn ymddiried yn y gweithwyr prosiect (naw mis).
- Mae 30 o bobl ifanc yn cymryd cyfrifoldeb dros redeg y prosiect (blwyddyn).
Mwy o enghreifftiau o ddangosyddion canlyniadau:
| Canlyniad | Dangosyddion Canlyniadau |
| Aelodau’r pwyllgor yn datblygu sgiliau yn y meysydd gofynnol | - rheolwyr sefydliadau cymunedol bach yn adrodd ar nifer aelodau’r pwyllgor sydd wedi ymgymryd â hyfforddiant
- cofnodion cyrsiau hyfforddi yn dangos presenoldeb gan aelodau’r pwyllgor
- sefydliadau partner a chyllido yn adrodd ar lefel yr hyder a’r sgiliau o fewn meysydd perthnasol gan y rheini sydd wedi derbyn hyfforddiant.
|
| Teuluoedd gyda phlant awtistig yn teimlo eu bod yn derbyn cefnogaeth ac yn gallu ymdopi | |
| Mwy o gartrefi’n ailgylchu | |
| Pobl ifanc yn gysylltiedig â’r gymuned mewn ffordd bositif | |
Fel arfer ni fydd y Gronfa Loteri Fawr yn gofyn i chi adnabod dangosyddion canlyniadau ar wahân, dim ond fel rhan o’r cerrig milltir yr ydych chi wedi’u cynnwys ar gyfer eich canlyniadau prosiect. Cofiwch yn yr un modd â’r holl gerrig milltir, maent yn helpu i fesur cynnydd tuag at gyflawni eich canlyniadau prosiect ac felly yn aml fe fydd hi’n ddefnyddiol cynnwys peth o’r math hwn o gerrig milltir.
Ceisiwch gasglu gwybodaeth ar ganlyniadau o fwy nac un ffynhonnell, megis:
- yr hyn mae buddiolwyr y prosiect yn ei ddweud
- yr hyn maent bellach yn ei wneud yn wahanol a
- yr hyn mae staff a gwirfoddolwyr yn arsylwi arno.
Mae hyn yn helpu i wneud eich gwybodaeth yn fwy dibynadwy oherwydd ei fod yn cydbwyso gwahanol safbwyntiau.
3.3 Defnyddio holiaduron i fesur newid
Er mwyn mesur newid mewn modd cyson, fel arfer bydd yn rhaid i chi ddefnyddio ffurflen safonol gyda chwestiynau sy’n perthyn i’ch canlyniadau. Gallai hyn fod yn holiadur neu fath arall o ffurflen fonitro.
Os ydych chi’n gweithio gydag unigolion mewn prosiect bach, yn gyffredinol byddwch yn casglu gwybodaeth pan fyddwch yn dechrau gweithio gyda phob buddiolwr, unwaith eto'n rheolaidd (megis pob tri i chwe mis), a phan fyddant yn gadael y prosiect. Dylech hefyd ystyried pa mor aml ac i ba raddau y bydd eich cyllidwr eisiau i chi adrodd ar eich cynnydd. Er enghraifft, os bydd yn rhaid i chi adrodd bob dydd, mae'n debyg y byddwch eisiau casglu gwybodaeth yn fuan cyn y bydd yn rhaid i chi gasglu'r wybodaeth ar gyfer eich cyllidwr.
Pa bynnag ddull y byddwch chi’n ei ddewis, bydd cymharu’r wybodaeth o’r ffurflenni cyntaf a mwyaf diweddar yn rhoi gwybodaeth i chi ynghylch graddau newid y canlyniad. Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch gwneud hyn yn adran 4.
Mae cynllunio a dadansoddi holiaduron a ffurflenni monitro a gofyn i bobl eu llanw yn aml yn anos na’r hyn mae’n ymddangos. Dim ond peth gwybodaeth gyffredinol y gallwn ei rhoi i chi yn yr arweiniad hwn. Mae rhagor o fanylion a gwybodaeth ynghylch ffynonellau help eraill ar gael yn y ddalen ffeithiau Defnyddio holiaduron ac arolygon ar ein gwefan.
Dyma rhai pethau cyffredinol i'w hystyried wrth gynllunio ffurflenni o’r math hwn:
- Dechreuwch trwy benderfynu pa wybodaeth sy’n rhaid i chi ei chasglu. Osgowch y temtasiwn i gasglu pethau eraill na fyddwch yn eu defnyddio’n bendant. Y mwyaf y byddwch yn ei gynnwys, y lleiaf tebygol y bydd pobl o lanw’r holiadur.
- Meddyliwch sut y bwriadwch ddadansoddi’r wybodaeth. Gallai hyn eich arwain at ofyn cwestiynau mewn modd gwahanol. Er enghraifft, hwyrach na fydd cwestiynau ie/na yn dweud wrthych pam fod rhywbeth wedi digwydd, ond maent yn llawer haws eu hadio ac adrodd amdanynt na darllen sylwadau unigol. Gall defnyddio taenlenni ar gyfrifiadur arbed llawer o ymdrech a’ch caniatáu i ddadansoddi’r wybodaeth mewn gwahanol ffyrdd.
- Mae cwestiynau ie/na yn ddefnyddiol, ond gall cynnig graddfa i bobl (megis 1 i 5) gynnig gwybodaeth fanylach. Gallai hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol pan fydd newidiadau yn digwydd dros amser neu trwy gamau.
- Mae amryw ffyrdd o ofyn cwestiynau mwy sensitif. Er enghraifft, yn hytrach na gofyn Pa mor aml na allwch chi ymdopi? fe allech chi ddweud Mae llawer o bobl yn y sefyllfa hon yn dweud na allant ymdopi yn aml. Pa mor aml yr ydych chi'n teimlo fel hyn? ac yna cynigiwch "Gan amlaf/yn aml/weithiau/byth". Gall wneud newidiadau bach fel hyn annog mwy o bobl i ateb yn fwy onest.
- Bydd llawer o brosiectau yn dod o hyd i ffurflenni defnyddiol ar y rhyngrwyd neu trwy gyswllt gyda phrosiectau tebyg eraill. Oni bai eich bod yn cynnal prosiect gyda'r un canlyniadau neu fathau o darged, bydd yn rhaid i chi addasu'r rhain i fodloni eich anghenion.
- Ar ôl i chi gynllunio holiadur, profwch ef gyda phobl a fydd yn ei ddefnyddio. Bydd hyn yn eich helpu i adnabod a gwella cwestiynau nad ydynt yn eglur. Fe welwch hefyd a yw’r holiadur yn rhy hir. Cofiwch y gallai newid yr holiadur hanner ffordd trwy’ch prosiect ei gwneud hi’n amhosibl cymharu’r wybodaeth a gasglwyd ar wahanol amserau.
- Os ydych chi’n gweithio gyda grwpiau mawr o fuddiolwyr, mae’n bosibl y byddwch eisiau ystyried casglu'r wybodaeth o blith sampl yn hytrach na gan bawb. Ond ceisiwch sicrhau bod y sampl yn cynrychioli ystod gyfan o fuddiolwyr.
Cofiwch barchu cyfrinachedd pobl ac i beidio â chwestiynu eu hymatebion.
3.4 Rhai ffyrdd eraill o fesur newid
Roedd yr adran flaenorol yn amlinellu un o’r ymdriniaeth amlycaf o fesur newid – defnyddio holiadur i ofyn i fuddiolwyr ynghylch eu profiadau eu hunain. Ond gyda llawer o brosiectau, ac yn benodol y rheini sydd o fudd i'r amgylchedd, bydd yn rhaid i chi ystyried ffyrdd eraill o gasglu gwybodaeth, yn syml oherwydd nad oedd buddiolwyr uniongyrchol.
Yn aml gallwch ddefnyddio holiaduron gyda staff a gwirfoddolwyr i gasglu eu barnau ynghylch yr hyn yr ydych chi'n ei fesur. Neu gallwch ofyn i aelodau’r cyhoedd ynghylch eu hargraffiadau o’r sefyllfa ar y dechrau a’r hyn sydd wedi newid. Gallai un enghraifft ofyn i breswylwyr lleol faint o ysbwriel yr oeddynt hwy yn meddwl oedd yn yr ardal - fe allech chi ofyn hyn ar y dechrau, ac fe allech chi ei ofyn eto ar ôl cynnal eich prosiect a cheisio mynd i'r afael â'r broblem. Ynghyd â phreswylwyr, fe allech chi feddwl am eraill a allai fod â barn – mae’n debyg y byddai gan ofalwyr ac ysgubwyr ffordd rhywbeth i'w ddweud.
Ond gallwch hefyd ofyn i staff a gwirfoddolwyr gasglu gwybodaeth fwy cyffredinol yn ystod eu gwaith, a gwneud hynny ar wahanol bwyntiau yn ystod y prosiect. Gweler isod rhai enghreifftiau o beth a sut y gallech chi gasglu hyn.
Enghraifft: Ailgylchu cymunedol
Enghraifft: Pobl ifanc
- digwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu wrthdaro yn y clwb ieuenctid
- i ba raddau y mae pobl ifanc yn cysylltu â gweithwyr
- a yw pobl ifanc yn cymryd mwy o gyfrifoldeb yn weithredol ac i ba raddau.
Mae’n bosibl y byddwch eisiau defnyddio gwybodaeth arall y byddwch yn ei chofnodi wrth gynnal eich prosiect, megis cofrestrau pobl sy’n mynychu’r hyfforddiant neu ddigwyddiadau. Cofiwch, serch hynny, nad yw peth gwybodaeth, megis niferoedd yn mynychu digwyddiadau, yn dystiolaeth uniongyrchol eich bod yn cyrraedd eich canlyniad. Ond fe all helpu i adrodd ar gerrig milltir a chynnydd tuag at eich canlyniad.
Mewn rhai achosion fe allai fod yn anodd penderfynu sut i fesur canlyniadau o gwbl. Os felly, ystyriwch i ba raddau y gall eich canlyniadau arfaethedig gael eu cyflawni yn ystod oes eich prosiect. Gyda rhai prosiectau, megis helpu pobl i fwyta’n iachach, mae’n bosibl mai dim ond mewn ychydig o flynyddoedd neu ddegawdau i ddod y bydd buddion gwirioneddol yn ymddangos – megis gostyngiad yn nifer sy’n dioddef o glefyd y galon a mathau eraill o salwch. Yn yr achos hwn, bydd hi’n fwy realistig ac ymarferol mesur newidiadau mewn pethau megis gwybodaeth, agweddau ac ymddygiad - camau ar hyd y ffordd. Am ragor o wybodaeth ynghylch gosod canlyniadau a mesurau mewn safleoedd fel hyn, gweler y daflen ffeithiau “Enghreifftiau penodol” ar ein gwefan.
Oni bai ein bod yn dweud fel arall yn ein harweiniad rhaglen, bydd y Gronfa Loteri Fawr yn gofyn i chi osod canlyniadau a cherrig milltir rhaglen y gallwch eu cyflawni ac adrodd amdanynt erbyn diwedd ein cyfnod ariannu. Golyga hyn mai dim ond canlyniadau dros dro y byddwch yn gallu dweud wrthym amdanynt mewn achosion fel gwelliannau hirdymor i iechyd. Gyda rhai rhaglenni, mae’n bosibl mai dim ond rhan gyntaf eich prosiect y byddwn yn ei hariannu, ac y byddwn yn gofyn i chi adrodd ynghylch canlyniadau ar ôl i'n hariannu ddod i ben. Mae’n bosibl y bydd hyn yn berthnasol, er enghraifft, os yw’ch rhaglen yn bwriadu ariannu gwaith adeiladu, ond bydd darparu’r adeilad yn galluogi i chi gynnal ystod o weithgareddau cymunedol ar ôl hynny.
Yn olaf, cofiwch y bu’n rhaid i chi adnabod tystiolaeth yn gynnar yn ystod cyfnod cynllunio eich prosiect. Gallai hyn roi syniadau pellach i chi. Os oes rhywun arall yn casglu ystadegau yn rheolaidd, mae’n bosibl y byddwch yn dymuno edrych arnynt eto (ond cofiwch y gallai ffactorau eraill effeithio ar y ffigurau hyn). Neu os ydych chi wedi gwneud arolwg gyda buddiolwyr lleol posibl, fe allech chi wneud arolwg eto.
3.5 Awgrymiadau at fynd i'r afael â’ch canlyniadau
Mae llawer o bobl yn cwyno bod casglu gwybodaeth yn amharu ar redeg prosiectau. Mae’n gofyn am amser ac ymdrech, ond cofiwch eich bod yn gwneud hyn i adrodd ar yr hyn mae'ch prosiect yn ei gyflawni, ac i'ch helpu i ystyried pa mor effeithiol ydyw, ac a allai brofi mwy o lwyddiant o wneud rhai newidiadau. Dyma rai awgrymiadau pellach (ac mae mwy ar ein gwefan);
- Yn aml iawn bydd y math o wybodaeth y byddwch yn ei chasglu ar gyfer monitro canlyniadau yn bethau fydd yn rhaid i chi eu casglu beth bynnag er mwyn rhedeg eich prosiect. Felly adeiladwch olrhain canlyniadau i'r gwaith y mae’ch prosiect yn ei wneud yn gyffredinol.
- Dylech gynnwys buddiolwyr ar hyd bob cam – ynghyd â llanw holiaduron eu hunain, gallant helpu i adnabod canlyniadau a dangosyddion canlyniadau, profi ffurflenni newydd, ac annog eraill i'w llanw. Mae’ch prosiect yn debyg o fod yn fwy effeithiol os yw’n rhoi cyfle i bobl y bwriada eu helpu leisio eu barn ar yr hyn yr ydych chi’n ei wneud.
- Byddwch yn greadigol. Nid oes yn rhaid i chi ddefnyddio’r enghreifftiau cyfyngedig a roddir yma. Mae llawer o brosiectau wedi defnyddio darlunio, chwarae rôl neu ddulliau eraill i gasglu gwybodaeth. Meddyliwch am eich buddiolwyr a’r hyn sy'n fwyaf ystyrlon iddynt hwy.
- Cofiwch y gall pobl a sefydliadau eraill eich helpu chi. Mae dalen ffeithiau “Ffynhonnell gefnogaeth” ar ein gwefan i roi rhai syniadau i chi.
Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn gofyn i chi am eich cynlluniau ar gyfer monitro cynnydd fel rhan o’ch cais. Golyga hyn y bydd yn rhaid i chi:
- esbonio yn eich ffurflen gais sut y byddwch yn casglu gwybodaeth
- adrodd i ba raddau yr ydych chi’n bodloni eich cerrig milltir a’ch canlyniadau yn rheolaidd, fel arfer bob blwyddyn.
dweud wrthym ynghylch unrhyw broblemau sydd gennych wrth fodloni eich canlyniadau, ac os yn angenrheidiol gweithio gyda ni i'w goresgyn neu i ddiwygio eich cynlluniau.
|