4. Dysgu o’ch canlyniadau
Os wnaethoch gasglu gwybodaeth eich canlyniadau gan ddefnyddio’r mathau o gwestiynau a ddangosir yn adran 3 ac yna cyfrifo'r canfyddiadau, byddwch yn gallu cyfrifo'r niferoedd sy'n cyflawni gwahanol ganlyniadau yn eich prosiect, megis:
- 54 o bobl ifanc wedi dechrau cymryd mwy o gyfrifoldeb.
- 26 o rieni yn dweud eu bod yn teimlo'n llai ar eu pennau eu hunain.
- 35 o deuluoedd wedi dechrau ailgylchu am y tro cyntaf.
Fe allech chi hefyd gyfrifo’r canran sy’n cyflawni pob canlyniad. Er enghraifft, o blith 72 o bobl yn y clwb ieuenctid, fe ddechreuodd 75 y cant gymryd fwy o gyfrifoldeb.
Byddwch hefyd yn canfod cyfran y buddiolwyr a arhosodd yr un peth neu a gafodd ganlyniadau negyddol. Cofiwch y gall aros yr un peth fod yn ganlyniad positif iawn ar gyfer rhai buddiolwyr a sefyllfaoedd.
Os ydych chi wedi defnyddio cwestiynau gyda graddfeydd, gallwch hefyd gyfrifo:
- y pwnt dechrau ar gyfartaledd, sydd hefyd yn dystiolaeth o angen
- y pwnt gorffen ar gyfartaledd, sef yr hyn a gyflawnwyd
- swm y newid ar gyfartaledd (canlyniad), sef y gwahaniaeth rhwng y ffigurau uchod.
Bydd sut yn union y bydd y wybodaeth hon yn edrych a faint o fanylion a fydd gennych yn dibynnu ar y monitro yr ydych chi wedi’i wneud. Gallwch gasglu llawer o wybodaeth canlyniadau defnyddiol o rai graddfeydd neu gwestiynau. Bydd gennych wybodaeth unigol, ond trwy adio’r holl ymatebion i bob cwestiwn ynghyd a chyfrifo’r cyfartaledd, weithiau bydd gennych grynodeb cyffredinol. Cofiwch, serch hynny, nad hynny fydd yr achos bob amser, felly dylech ystyried yr ymdriniaethau a’u profi cyn i chi ddechrau eu defnyddio.
Dyma enghraifft o’r hyn y gellir ei gyflawni o ddefnyddio holiadur syml ddwywaith:
Enghraifft: O blith 150 o aelodau pwyllgor rheoli a fynychodd hyfforddiant roedd:
- 120 wedi cynyddu eu gwybodaeth o’u rôl fe aelod pwyllgor rheoli (80 y cant).
- 102 wedi cynyddu eu gwybodaeth o godi arian (68 y cant).
- 69 wedi cynyddu eu gwybodaeth o gynllunio strategol (46 y cant).
Canlyniad | Sgôr dechrau ar gyfartaledd | Sgôr diwedd ar gyfartaledd | Newid (canlyniad) |
| Deall rôl aelod Pwyllgor Rheoli | 1.3 | 4.5 | 3.2 |
| Deall cynllunio strategol | 3.1 | 4.1 | 1.0 |
| Understand fundraising | 2.1 | 3.9 | 1.8 |
Fe allech chi hefyd gyfrifo gwybodaeth canlyniadau ar draws gwahanol fathau o fuddiolwyr cyhyd â’ch bod wedi casglu gwybodaeth berthnasol ar yr holiadur ynghylch unigolion. Felly fe allech chi fod yn gallu ateb cwestiynau megis:
- A yw pobl ifanc o dan 15 yn cyflawni gwell canlyniadau na'r rheini dros 15?
- A oes gan ddynion lefel uwch o angen cychwynnol na merched?
Bydd y Gronfa Loteri Fawr yn gofyn i chi adrodd ar gynnydd gyda’ch canlyniadau arfaethedig, ond rydym hefyd yn eich annog i ymgymryd â hunan werthuso er eich budd eich hunan. Gallwch wneud hyn hefyd fel yr amlinellir yn yr arweiniad hwn, neu fe allech gyflogi gwerthuswr allanol i’ch helpu i wneud hynny (ac i gefnogi’r ffordd yr ydych chi’n casglu gwybodaeth er mwyn adrodd ar eich canlyniadau wrthym ni). Credwn fod hunanwerthuso a dysgu o’r canfyddiadau yn helpu prosiectau a sefydliadau i ddatblygu a gwella, ac felly rydym yn hapus i ystyried ariannu’r costau o wneud hyn.
Y newyddion da yw mae’n debyg y bydd gorgyffwrdd mawr rhwng y wybodaeth yr ydych chi wedi’i chasglu i adrodd wrthym ni a’r hyn sydd ei hangen arnoch chi ar gyfer hunanwerthuso, er mae’n bosibl y byddwch eisiau casglu mwy o wybodaeth ar gyfer hunanwerthuso.
Bydd nodiadau arweiniad ar gyfer pob un o’r rhaglenni yn dweud wrthych a oes gennym unrhyw ofynion penodol neu gefnogaeth hunanwerthuso ar eich cyfer chi.
Mae dau brif ddefnydd i'r wybodaeth yr ydych chi wedi’i chasglu a’i dadansoddi. Un fydd er mwyn adrodd wrth eich cyllidwyr ynghylch cynnydd tuag at gyflawni eich canlyniadau. Y llall fydd i chi a’ch prosiect ystyried a dysgu o’ch canfyddiadau. Gelwir hyn yn hunanwerthuso. Mae hwn yn weithgaredd sy’n caniatáu i chi feddwl ynghylch sut y gallwch wella eich prosiect er mwyn sicrhau canlyniadau hyd yn oed yn well.
Mae’r enghreifftiau pellach ar y wefan yn dangos peth o’r wybodaeth a’r tueddiadau y gallwch eu hadnabod o ddadansoddi’r wybodaeth, a rhai casgliadau a chwestiynau pellach y gallant arwain atynt.
Er na fydd cyllidwyr o reidrwydd eisiau gweld canlyniadau eich hunanwerthuso, mae’n bosibl y byddwch yn gallu defnyddio’r canfyddiadau hynny os oes yn rhaid i chi esbonio pam nad yw’r cynnydd mor dda â’r disgwyl. Dyma reswm arall pam ei bod hi’n werth ystyried yr hyn sy’n rhaid i chi ei adrodd wrth eich cyllidwr a sut i wneud hynny'n rhan o hunanwerthusiad ehangach a fydd hefyd yn caniatáu chi i reoli ac adolygu eich perfformiad at eich dibenion eich hunan.
Mae hyn yn codi pwynt pwysig, mae llawer o’r hyn yr ydych chi wedi’i gasglu ac yn adrodd amdano wedi’i seilio ar ffigurau, felly er y gall fesur cynnydd, ni fydd yn esbonio pam fod eich prosiect wedi perfformio’n dda neu ddim cystal. Felly mae’n hanfodol edrych y tu hwn i’r ffigurau (ac yn enwedig y rhai annisgwyl) er mwyn i chi geisio deall yr hyn sydd wedi digwydd. Bydd hyn hefyd yn eich helpu i ganolbwyntio’n fwy ar wneud mwy o’r hyn sy’n gweithio a gwella neu wneud llai o’r hyn nad yw’n gweithio.
Os oes pryderon ynghylch sut yr ydych chi’n gwneud, mae bob amser yn werth trafod y rhain gyda’ch cyllidwr - ac yn ddelfrydol cyn y mae’n rhaid i chi adrodd amdanynt. Dylech ddangos eich bod wedi ystyried unrhyw broblemau, pam eu bod wedi codi, a’r hyn y gallwn ei wneud amdanynt. Weithiau fe fydd ffactorau allanol na fyddech chi wedi gallu eu rhagweld ac sydd y tu hwnt i’ch rheolaeth. Neu mae’n bosibl y gwelwch y bydd rhai agweddau ar eich gwaith yn annisgwyl yn profi’n fwy poblogaidd a llwyddiannus nac eraill. Fel arfer bydd cyllidwyr eisiau gweithio gyda chi i ddelio gyda’r annisgwyl ac fe allent fod yn barod i drafod newidiadau i lefelau'r canlyniadau a’r cerrig milltir y cytunwyd arnynt.
Rhai awgrymiadau pellach ar adrodd
- Yn aml, ac yn arbennig os ydych chi’n defnyddio ystadegau sy’n dod o’r tu allan i’ch prosiect, mae’n bosibl na fydd hi’n glir i ba raddau mae’ch prosiect wedi achosi’r newidiadau hynny ac i ba raddau y mae ffactorau eraill. Os yn bosibl, sicrhewch fod gennych rai mesurau yn eu lle sy’n perthyn i’ch prosiect yn unig. Mae’n debygol iawn eich bod wedi helpu i gyflawni newidiadau ehangach, ond peidiwch â gwneud honiadau sy’n rhy fawreddog.
- Gallai ffactorau allanol a newidiadau helpu neu lesteirio perfformiad eich prosiect - neu ddibynadwyedd eich canlyniadau a mesurau. Er enghraifft, gallai rhaglen newydd gan y llywodraeth newid y sail angen gyfan ac ystod y gwasanaethau sydd ar gael. Gweithiwch gyda’ch cyllidwr i adolygu eich cynlluniau os bydd hyn yn digwydd.
- Weithiau byddwch wedi gweithio gyda sefydliadau eraill i gyflawni canlyniadau. Os allwch chi, adroddwch ar hyn wrth gyllidwyr a rhowch dystiolaeth ynghylch sut mae cydweithio wedi arwain at ganlyniadau cryfach.
- Peidiwch â’i ystyried yn fethiant os oes yn rhaid i chi newid cynlluniau. Ni allwn ragweld bob amser beth fydd yn digwydd. Yn wir, os allwch adnabod newidiadau a all effeithio ar eich prosiect, edrychwch ar sut y gallwch ymateb iddynt er mwyn helpu i fodloni eich nod cyffredinol, ac yna lluniwch achos dros hynny i'ch cyllidwr, byddwch wedi dangos eich bod yn gallu ymateb yn hyblyg i amgylcheddau sy'n newid. Mae hyn yn sgil defnyddiol ar gyfer prosiectau, ac yn un y mae cyllidwyr yn debyg o ymateb yn gadarnhaol iddo. Gallai cadw manylion ynghylch sut yr ydych chi wedi dysgu ac ymateb yn y modd hwn eich helpu hefyd i lunio achos cryfach i gyllidwyr posibl i'ch prosiect yn y dyfodol.
Dylai’r ymdriniaethau yr ydym wedi’u trafod yn yr arweiniad hwn eich helpu i fodloni gofynion eich cyllidwyr yn effeithiol. Ond mae’r adran olaf yn dangos nad yw adrodd bob amser yn ddigon. Dylech sicrhau eich bod yn gallu neilltuo amser i ystyried yr hyn mae’r canfyddiadau yn eu dweud wrthych ac a oes angen i chi gymryd camau i wella eich prosiect neu a ydynt yn codi materion y dylech chi eu hymchwilio ymhellach.
Mae’r tabl isod yn rhoi rhai penderfyniadau a chamau gweithredu posibl a allai ddeillio o’r prosiectau enghreifftiol yr ydym wedi’u defnyddio yn yr arweiniad hwn.
Canfyddiad o olrhain canlyniad | Camau gweithredu posibl |
| Pryderon teuluoedd ynghylch y dyfodol yn cynyddu ychydig. | Gofynnwch i rieni beth yw’r rheswm dros hyn. A yw’r ffordd yr ydych chi’n cyflwyno gwybodaeth wrthynt yn cynyddu neu’n gostwng y pryder hwn? A allech chi newid hyn? A yw eu pryderon yn realistig, ac os felly, a all eich prosiect ymateb? Neu a ydych chi wedi adnabod anghenion pellach? |
| Rhieni plant awtistig mewn cysylltiad gyda’r prosiect yn teimlo'n llai ar eu pennau eu hunain. | Parhau â phrif waith eich prosiect ac ystyried allgymorth ar gyfer teuluoedd nad ydynt yn cysylltu â’r prosiect – a fydd yn rhaid i chi lunio achos am arian i wneud hynny? |
| Pobl ifanc yn cysylltu â’r prosiect. | Continue your main work. Ask young people what has encouraged and enabled them to engage. Share your findings with others and think about how to build further on your success. |
Amserwch eich hunanwerthusiad a’i adolygiad at pan fyddwch yn dechrau cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd y wybodaeth a fydd gennych yn fwy perthnasol a byddwch mewn gwell sefyllfa i wneud penderfyniadau gwybodus am y dyfodol.
Rhannwch eich dysgDefnyddiwch wybodaeth eich canlyniadau i dynnu sylw at eich llwyddiant. Gallech ddosbarthu crynodeb o’ch canlyniadau a dysg allweddol i brosiectau a sefydliadau eraill yr ydych mewn cysylltiad â hwy, sicrhewch ei fod ar gael i’ch buddiolwyr, a defnyddiwch ef i wneud cais am arian i barhau i ddatblygu eich prosiect: mae ariannu canlyniadau yn cynnig mwy na dim ond gwaith papur i chi.
Eisiau gwybod mwyMae’r Gronfa Loteri Fawr eisiau cefnogi ymgeiswyr wrth iddynt wneud ceisiadau llwyddiannus i ni – ac i gyllidwyr eraill. Dim ond rhai o brif agweddau ein hymdriniaeth gyffredinol y mae'r arweiniad hwn yn ei amlinellu. I gael gwybod mwy, ymwelwch â’r adran “Esbonio’r gwahaniaeth a ddaw yn sgil eich prosiect” ar ein gwefan yn www.cronfaloterifawr.org.uk.
| 1. Cynllunio eich prosiect: deall yr angen | 2. Bod yn glir ynghylch eich nodau a’ch canlyniadau |
| 3. Mesur cynnydd | 4. Dysgu o'ch canlyniadau |