Mae tair rhan i’r gwahaniaeth yr ydych chi eisiau ei wneud:
- eich nod cyffredinol, diben cyffredinol eich prosiect
- eich canlyniadau arfaethedig, y pethau penodol yr ydych chi eisiau eu newid erbyn diwedd y prosiect
- eich tasgau neu weithgareddau, yr hyn y byddwch yn ei wneud i gyflawni’r gwahaniaeth hwnnw.
Ffordd ddefnyddiol o feddwl am y rhain a’u hamlinellu yw defnyddio Triongl Cynllunio CES. Fe all eich helpu i drafod a chofnodi'r hyn y dymunwch ei newid a sut y byddwch yn gwneud hynny, ac yna bydd yn caniatáu i chi brofi pa mor realistig yw eich cynlluniau. Mae model cyffredinol o’r triongl ac enghraifft gyflawn yn ymddangos ar y ddwy dudalen nesaf. Nodwch fod tair lefel y triongl yn cyd-fynd â’r tair lefel a amlinellir uchod. Dyma sut y gallwch lanw’r gwahanol lefelau:
1. Rhowch eich nod cyffredinol ar frig y triongl
Mae’r nod cyffredinol yn crynhoi’r gwahaniaeth y dymunwch ei wneud. Mae’n helpu i ganolbwyntio popeth yr ydych chi’n ei wneud. Dylai eich nod amlinellu’n glir beth yw’r angen neu’r broblem, a pha wahaniaeth y dymunwch ei wneud yn gyffredinol. Dylai’r anghenion a’r rhesymau yr ydych chi wedi’u henwi yn yr adran flaenorol eich helpu i wneud hyn.
Dewiswch nod syml a’i eirio’n ofalus. Dylai’r nod fod yn rhywbeth y gallwch ei gyflawni neu o leiaf ei ddylanwadu yn gryf yn ystod eich prosiect.
Cofiwch y bydd eich nod hefyd yn crynhoi sut y byddwch yn esbonio pam fod eich prosiect yn bodoli a pham y dylid ei ariannu.
Wrth ymgeisio i’r Gronfa Loteri Fawr, dylech gynnwys eich nod yn eich crynodeb prosiect.
2. Rhowch eich canlyniadau arfaethedig yn lefel ganol y triongl
Beth sy’n rhaid ei newid er mwyn i’ch prosiect gyflawni ei nod cyffredinol? Pa wahaniaethau y bydd eich prosiect yn eu hwyluso i’ch buddiolwyr? Yr atebion i'r cwestiynau hyn yw’ch canlyniadau prosiect arfaethedig. Gallai rhai o’r canlyniadau hyn ddigwydd yn gyflym, tra gallai eraill gymryd yn hwy a dibynnu ar fodloni canlyniadau eraill ond rhaid iddynt fod yn newidiadau a fydd yn digwydd erbyn diwedd eich prosiect.
Cofiwch ddefnyddio geiriau newid wrth ddisgrifio eich canlyniadau arfaethedig, megis: mwy, gwell, llai, amgen. Serch hynny, weithiau gallai eich canlyniadau gynnwys cadw sefyllfa yn sefydlog neu atal pethau rhag gwaethygu.
Dylech hefyd sicrhau bod eich canlyniadau arfaethedig yn cyfeirio at newidiadau y tu hwnt i waith eich prosiect er enghraifft, yn hytrach na dweud bod pobl ifanc yn cyfrannu at benderfyniadau ynghylch rhedeg y prosiect, dywedwch fod pobl ifanc yn fwy hyderus ac yn gallu mynegi eu barnau.
Cofiwch beidio â chynnig gormod o ganlyniadau arfaethedig neu rhai sy’n rhy fanwl. Ystyriwch eich grwpio ynghyd neu tynnwch sylw at y rhai pwysicaf. Sylwch yn ddiweddarach y bydd yn rhaid i chi feddwl am faint o newid y dymunwch ei wneud ac adnabod ffyrdd o fesur cynnydd. Serch hynny, am y tro, mae’n fwy defnyddiol meddwl ynghylch y math o newid.
Fe all hi fod yn anodd meddwl yn nhermau canlyniadau arfaethedig. Os bydd hyn yn digwydd, dechreuwch trwy edrych ar ba weithgareddau y bwriadwch eu gwneud a gofynnwch i’ch hunan, pam. (Pa newidiadau y bydd y gweithgareddau hynny yn arwain atynt?)
Triongl Cynllunio CES (wedi’i addasu)
Triongl wedi’i lanw ar gyfer prosiect ieuenctid
Bydd y Gronfa Loteri Fawr yn gofyn i chi adnabod hyd at chwe chanlyniad fel rhan o’ch cais. Fel arfer ni fyddwn yn dweud wrthych beth y dylent fod, oherwydd rydym eisiau i chi ddweud wrthym sut a pham y byddwch yn rhedeg eich prosiect. Cofiwch, er hynny, y bydd yn rhaid i chi hefyd esbonio sut y mae eich canlyniadau prosiect arfaethedig yn cyd-fynd â'ch canlyniadau rhaglen eich hunan. Bydd yn rhaid i chi hefyd ddweud wrthym ynghylch lefel y newid y dymunwch ei weld, Faint? Gosod canlyniadau CAMPUS yn adran 2.1.
3. Amlinellwch yr hyn y bwriadwch ei WNEUD yn haenen waelod y triongl
Yr hyn y bwriadwch ei wneud er mwyn cyflwyno eich canlyniadau arfaethedig a mynd i'r afael â’r angen? Mae’r rhain yn dasgau, gwasanaethau neu weithgareddau. Ymhlith yr enghreifftiau y mae:
- cynnal grwpiau, cyrsiau neu ddosbarthiadau
- cynhyrchu a dosbarthu gwybodaeth
- adeiladu canolfan gymunedol.
Enghraifft: Gweithgareddau prosiect ailgylchu cymunedol:
- digwyddiadau cymunedol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd
- sgyrsiau yn y ganolfan gymunedol
- sefydlu pwyntiau casglu rhwydd.
Sicrhewch eich bod yn defnyddio geiriau gweithredu i ddisgrifio’r hyn y bwriadwch ei wneud, megis: darparu, rhedeg, trefnu, cynhyrchu a hyrwyddo.
Wrth ymgeisio i’r Gronfa Loteri Fawr:
- rhestrwch ac esboniwch brif weithgareddau eich prosiect, mae’n bosibl mai dull cyflwyno fydd enw hwn
- crybwyllwch y prif weithgareddau fel rhan o'ch crynodeb prosiect os ydynt yn helpu i egluro'r hyn y bwriada eich prosiect ei wneud a sut fydd yn cyflawni hynny.
Ar ôl i chi lanw’r triongl, gwiriwch y canlynol:
- A ydych chi wedi defnyddio geiriau newid ar y top a'r canol a geiriau gwneud ar waelod y triongl?
- A yw canol y triongl yn disgrifio'r hyn sy'n newid i'ch buddiolwyr (neu ar gyfer sefydliadau, y gymuned neu'r amgylchedd)?
- A yw gwaelod y triongl yn disgrifio beth fydd staff neu wirfoddolwyr yn ei wneud?
Yn awr gallwch edrych ar y triongl cyfan i wirio fod cynlluniau eich prosiect yn realistig:
- Edrychwch ar bob un o’ch canlyniadau arfaethedig yn y lefel ganol. A fydd y gweithgareddau yr ydych chi wedi’u rhestr ar y gwaelod yn eich helpu mewn gwirionedd i gyflawni un neu’n fwy o’ch canlyniadau arfaethedig?
Edrychwch ar y gweithgareddau yn awr. A yw pob un yn cysylltu’n uniongyrchol ag un neu’n fwy o’r canlyniadau arfaethedig? Os na, pam fo’r gweithgaredd wedi’i gynnwys? Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi ystyried a yw’r gweithgaredd yn bwysig mewn gwirionedd. Mae’n bosibl y bydd y gweithgaredd yn eich helpu i gyflawni newid arall. Os yw hyn yn wir mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi gynnwys canlyniad arall. Mae’n bosibl y bydd o help gwneud hyn os ydych chi'n rhifo'r canlyniadau a rhoi'r rhifau yn erbyn pob gweithgaredd.
2.1 Faint? Gosod canlyniadau CAMPUS
Os ydych chi wedi defnyddio triongl fel y disgrifir uchod, bellach bydd gennych syniad da ynghylch pam eich bod chi eisiau rhedeg eich prosiect, pa wahaniaeth y dymunwch ei wneud a sut y byddwch yn ei gyflawni.
Ond bydd yn rhaid i chi feddwl am raddfa eich prosiect hefyd, faint o newid, ar gyfer faint o bobl, a pha bryd y byddwch wedi cyflawni beth. Bydd hyn yn eich helpu i gynllunio eich prosiect ymhellach, a bydd hefyd yn eich helpu i esbonio wrth gyllidwyr faint y credwch chi y byddwch yn gallu ei gyflawni.
Pan fydd y Gronfa Loteri Fawr neu gyllidwyr eraill yn ystyried eich cais, bydd yn rhaid i ni ddadansoddi yn gyflym ac yn glir pa newidiadau y dymunwch eu gwneud a sut ac erbyn pryd y byddwch yn eu cyflawni. Er mwyn ein helpu i wneud hyn, gofynnwn i chi seilio eich canlyniadau ar CAMPUS sef, cyraeddadwy, amserol, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol, synhwyrol. Mae hynny’n golygu y bydd yn rhaid i’ch canlyniadau prosiect arfaethedig gynnwys gwybodaeth megis dyddiadau a rhifau, ynghyd â beth a phwy.
Gallai canlyniadau CAMPUS edrych fel yr isod:
- 100 o bobl ifanc yn Dungannon yn deall prosesau gwleidyddol yn well erbyn diwedd yr ail flwyddyn.
- 200 yn fwy o gartrefi ar Ystâd Cullingworth yn ailgylchu’n rheolaidd erbyn diwedd y prosiect.
- 15 o grwpiau lleol sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect yn adrodd ar fwy o lwyddiant wrth ddenu cyllid erbyn diwedd yr ail flwyddyn.
- 25 o deuluoedd lleol gyda phlant awtistig yn adrodd ar lai o bwysau o ganlyniad i gyfleoedd seibiant (diwedd yr ail flwyddyn).
Fe allai fod yn anodd iawn amcangyfrif y rhifau y dylech anelu atynt, yn enwedig os ydych chi’n dechrau prosiect newydd ac arloesol ac yn ceisio bod yn glir ynghylch canlyniadau. Ceisiwch fod mor realistig â phosibl a seiliwch y rhifau ar unrhyw wybodaeth sydd gennych chi, megis:
- eich profiad neu brofiad prosiectau tebyg, eich gallu (amser, pobl, arian ac adnoddau eraill) neu
- graddfa'r angen y dymunwch ei fodloni.
Fe all hi fod yn demtasiwn gosod ffigurau uchel wrth i chi ymgeisio am arian. Mae’n bosibl y byddwch yn ceisio creu argraff ar gyllidwyr gyda graddfa eich prosiect. Ond rhaid i chi gofio y bydd cyllidwyr yn gofyn i chi pa mor bell yr ydych chi wedi gwneud cynnydd tuag at fodloni canlyniadau wrth i amser fynd ymlaen. Os nad allwch eu bodloni, mae’n bosibl y byddwch yn gweld eich prosiect yn gweithio y tu hwnt i'w allu, yn gostwng ansawdd ac yn siomi pobl a oedd yn awyddus i fod yn gysylltiedig neu i elwa.
Y peth gorau yw bod yn realistig ac yn onest gyda'r cyllidwyr a'r bobl eraill sy'n gysylltiedig â'ch prosiect.
Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn pryderu’n fawr y dylai ymgeiswyr fod yn realistig wrth gynllunio prosiect. Ni ddylai hyn eich atal rhag bod yn uchelgeisiol wrth i chi gynllunio ac amlinellu eich canlyniadau CAMPUS fel rhan o’ch cais. Mae’n bosibl y bydd ein staff yn gallu trafod hyn gyda chi yn ystod eich asesiad. Ond os ydych chi'n ansicr ynghylch pa lefelau i awgrymu, ceisiwch ddysgu mwy cyn i chi gyflwyno eich cais, oherwydd byddwn yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei chynnwys fel rhan o unrhyw gytundeb grant.
2.2 Cysylltu eich canlyniadau arfaethedig gyda rhaglen eich cyllidwr
Rhaid i chi sicrhau y bydd eich cyllidwr posibl yn deall sut y bydd eich canlyniadau arfaethedig yn helpu i gyfrannu tuag at eu blaenoriaethau neu ganlyniadau eu hunain.
Os nad ydych chi'n siwr os ydynt, siaradwch â'r cyllidwr cyn cyflwyno eich cais. Mae’n bosibl y byddant yn gallu rhoi cyngor pellach i chi, gan gynnwys a yw'n werth ymgeisio i raglen benodol.
Enghraifft: Cysylltu canlyniadau prosiect â chanlyniadau rhaglen
Mae prosiect yn anelu at gynnwys mwy o deuluoedd mewn cynllun ailgylchu. Mae canlyniadau rhaglen y cyllidwr yn cynnwys:
- gwell amgylcheddau lleol sy’n hygyrch i bawb ac yn berthnasol i anghenion pobl
- gwell synnwyr o berchnogaeth gymunedol ar yr amgylchedd lleol
- gwell cynaladwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd y prosiect yn helpu i fodloni’r cyntaf trwy ostwng swm yr ysbwriel yn yr ardal, yr ail trwy godi ymwybyddiaeth yn lleol a chynnwys preswylwyr wrth redeg gweithgareddau prosiect, a’r trydydd trwy gynyddu lefelau ailgylchu yn yr ardal.
Bydd yn rhaid i chi ddisgrifio sut mae’ch canlyniadau arfaethedig yn mynd i'r afael â'r anghenion yr ydych chi wedi'u hadnabod ac yn helpu i gyflawni canlyniadau rhaglen y Gronfa Loteri Fawr. Mae canlyniadau rhaglen yn ymddangos yn y nodiadau arweiniad perthnasol. Cofiwch nad ydym yn disgwyl i chi ysgrifennu eich canlyniadau eich hunan mewn ymateb uniongyrchol i'n rhai ni, ond mae gennym ddiddordeb yn sut y credwch y bydd eich prosiect cyfan yn ein helpu wrth gyflawni canlyniadau ein rhaglen.
|