Deddf yr iaith Gymraeg
Ymdrin â’r Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal yng Nghymru
Sefydlodd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yr egwyddor y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth ymgymryd â busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Mae’r Ddeddf hefyd yn darparu ar gyfer paratoi a chymeradwyo Cynlluniau Iaith Gymraeg. Sefydlwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg i helpu cyrff cyhoeddus i ddatblygu Cynlluniau Iaith Gymraeg.
Yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg, rydym wedi datblygu Cynllun Iaith Gymraeg, sy'n amlinellu sut y byddwn yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal.
Mae’r cynllun yn caniatáu i bobl ddelio â ni yn eu hiaith o’u dewis. Mae’n perthyn i bob agwedd ar ein gwaith yng Nghymru gan gynnwys cyfathrebu, polisïau, gweithrediadau, adnoddau dynol, caffael a gwerthuso. Rydym hefyd yn disgwyl i ymgeiswyr sy’n darparu gwasanaeth yng Nghymru i ddangos sut y byddant yn adlewyrchu cyfansoddiad ieithyddol y cymunedau maent yn gweithio o'u mewn. Rydym yn cwrdd yn rheolaidd gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg i adrodd ar gynnydd y cynllun.
Cyswllt
Am fwy o wybodaeth neu gyngor ar y Cynllun Iaith Gymraeg cysylltwch â:
Sian Jones
Swyddog Iaith Gymraeg
01686 611 712
sian.jones@cronfaloterifawr.org.uk