Gweledigaeth a gwerthoedd

Filter this website by UK country or region

Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i wella cymunedau a bywyd y rhai mwyaf anghenus.

Er mwyn cyflawni hyn, mae gennym saith egwyddor sydd yn wraidd i’n holl waith:

  1. Tegwch – yn rhoi cyfartaledd ac amrywiaeth yn ganolog i’n holl waith
  2. Mynediad hawdd – byddwn yn sicrhau mynediad haws at ein harian ac yn rhoi cymorth i ymgeiswyr grant posib a rhai sy’n derbyn grantiau
  3. Ffocws strategol- gweithio mewn partneriaeth ac ymuno â strategaethau sy’n bodoli eisoes, datblygu rhaglenni sy’n manylu ar eu canlyniadau a’r gwahaniaeth y gallant ei wneud i gymunedau
  4. Cynnwys pobl - cynnwys cymunedau lleol yn ein gwaith a gwneud yn siwr fod y Cronfa Loteri Fawr yn gorff y mae’r cyhoedd yn gwybod amdano ac sy’n bwysig iddynt
  5. Arloesi – byddwn yn adeiladu sylfaen gref o dystiolaeth ar gyfer rhaglenni’r dyfodol, yn rhannu’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu ac yn ystyried dulliau newydd o ddyrannu grantiau
  6. Galluogi - gweithio â chymunedau, partneriaid ac arianwyr eraill i gyflawni newid parhaus
  7. Ychwanegol at y Llywodraeth - sicrhau fod arian y Cronfa Loteri Fawr yn ychwanegol at wariant y llywodraeth a'i fod yn ychwanegu gwerth

Lawr lwythwch y cyhoeddiad Gweledigaeth a Gwerthoedd llawn.

Yn ôl i'r brig