


Mae gweithwyr y Gronfa Loteri Fawr yn mwynhau telerau ac amodau gwych gyda phecyn buddion cystadleuol a pholisi gweithio hyblyg
Yn unol â’n cenhadaeth a gwerthoedd, fel cyflogwr rydym yn ymrwymedig i amrywiaeth a chyfle cyfartal. Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn Fuddsoddwr mewn Pobl. Rydym eisiau creu amgylchedd gwaith positif a gwerthfawr, wedi’i gefnogi gan ein pedwar gwerth mewnol:
Cewch ymuno â chynllun pensiwn hael. Pe bai’n well gennych ymuno â phensiwn cyfranddeiliaid, byddwn yn gwneud cyfraniad o hyd at 12.5 y cant o’r cyflog, gan ddibynnu ar eich oed, ynghyd â chyfraniad cyfatebol ychwanegol o hyd at 3 y cant arall.
Mae gennym ystod eang o ddewisiadau gweithio hyblyg ffurfiol ac anffurfiol er mwyn galluogi i dimau ac unigolion reoli cydbwysedd gwaith-bywyd, wrth sicrhau bod y sefydliad yn gallu gweithio’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys:
Y gwyliau blynyddol yw 25 diwrnod y flwyddyn wrth ymuno â’r Gronfa Loteri Fawr, gan godi gan un diwrnod am bob blwyddyn cyflogaeth hyd at gyfanswm o 30 diwrnod. Rhoddir tri diwrnod ychwanegol o wyliau bob blwyddyn – fel arfer dros y Nadolig. Rydym hefyd yn rhoi wyth diwrnod o wyliau cyhoeddus i staff sy’n gweithio yn ein swyddfeydd yn Lloegr.
Bydd staff sy’n gymwys am dâl mamolaeth statudol yn derbyn tâl llawn am 22 wythnos gyntaf eu habsenoldeb mamolaeth.
Bydd staff sy’n gymwys ar gyfer tâl tadolaeth statudol yn derbyn 10 diwrnod ar gyflog llawn.
Bydd gan staff sydd wedi gweithio gyda ni am flwyddyn hawl i un wythnos o absenoldeb i rieni ar gyflog llawn bob blwyddyn os oes ganddynt un plentyn neu fwy o dan 8 oed. Mae hyn yn ychwanegol at eu hawl gwyliau blynyddol.
Rydym yn cynnig cynllun aberth cyflog am dalebau gofal plant i alluogi i staff elwa o fanteision treth hael er mwyn talu am gostau gofal plant yn y modd hwn.
Mae staff sydd wedi gweithio i ni am fwy na mis yn gymwys ar gyfer benthyciad prynu beic a thocyn tymor yn rhydd rhag llog.
Gall staff sydd wedi gweithio i’r Gronfa Loteri Fawr am ddwy flynedd ofyn am doriad gyrfa ddi-dâl am hyd at 50 wythnos bob pum mlynedd.
Gall staff gymryd hyd at 18 diwrnod o absenoldeb cyflogedig y flwyddyn er mwyn ymgymryd â dyletswyddau cyhoeddus.
Yr wythnos waith safonol ar gyfer staff llawn amser yw 37 awr, gydag isafswm o 30 munud o amser cinio di-dâl yn ychwanegol.
Yr oed ymddeol arferol yn y Gronfa Loteri Fawr yw 65. Ar gais yr unigolyn, ac ar ddisgresiwn y rheolwyr, gall staff barhau i weithio ar gontract blynyddol hyd at 70 oed. Gall staff sy’n aelodau o’r cynllun pensiwn cyflog terfynol ddewis ymddeol ar unrhyw oed o 60 ymlaen.
Ynghyd â dyfarniad cyflog blynyddol, mae’r holl staff yn derbyn cynnydd dilyniant blynyddol o hyd at bwynt targed uchaf o 80 y cant o gyfanswm yr ystod gyflog ar gyfer eu gradd. Mae’r gyfradd ddatblygiad yn dibynnu ar leoliad cyflog yr aelod staff yn yr ystod gyflog, yn berthynol i'r ddwy garreg filltir ar gyfer pob ystod - 25 a 50 y cant.
Mae pob aelod o staff sy’n ymuno â’r Gronfa Loteri Fawr ar brawf o chwe mis. Bydd staff ar gyfnod prawf yn derbyn dyfarniad sylfaenol a thâl datblygiad; y ddau ar gyfradd o’u hamser yn y sefydliad ar 1 Ebrill. Telir y rhain unwaith y byddant wedi cwblhau eu cyfnod prawf yn llwyddiannus.
Mae cynllun nawdd corfforaethol y Gronfa Loteri Fawr yn cefnogi staff sydd wedi gweithio i ni am flwyddyn i astudio am gymwysterau sy’n briodol i’w swydd a’u datblygiad proffesiynol. Mae’r gefnogaeth a gynigir yn cynnwys talu ffioedd cwrs yn llawn neu’n rhannol a hyd at 12 diwrnod o absenoldeb astudio cyflogedig. Ymhlith y cymwysterau cymwys y mae:
Gall staff newydd sy’n ymuno â’r Gronfa Loteri Fawr sydd eisoes yn astudio am gymwysterau sy’n bodloni ein hamcanion corfforaethol ymgeisio am arian.
Bydd yr holl staff yn rhan o Medicash wrth ymuno â’r Gronfa Loteri Fawr. Mae Medicash yn gynllun gofal iechyd rhad sy’n cynnig ystod o fuddion gofal iechyd.
Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn cynnig cynllun buddion disgownt sy’n cynnig ystod eang o ddisgowntiau gyda masnachwyr stryd fawr arweiniol a siopau lleol - ac mae hynny yn helpu staff i arbed arian ar siopa, gwibdeithiau, gwyliau a llawer yn fwy.