Filter this website by UK country or region

Arweiniad arfer da ar gyfer sefydliadau bach a chanolig y sector gwirfoddol a chymunedol.

Adran 1: Sefyllfa’r Gronfa Loteri Fawr – ein hymdriniaeth tuag at gydraddoldeb

Adran 2: Ymgeisio i’r Gronfa Loteri Fawr: meddwl am gydraddoldeb o’r cychwyn cyntaf

Adran 3: Nawr eich bod wedi ennill y grant: cydraddoldeb ar waith

Cyflwyniad

Mae cydraddoldeb o bwys i’r Gronfa Loteri Fawr. Rydym eisiau defnyddio arian y loteri er mwyn cyflwyno newidiadau i gymunedau trwy ariannu pobl, prosiectau a rhaglenni gyda phwyslais penodol ar anghenion cymunedol.

Mae’r arweiniad hwn yn rhan o’n gyriant i hyrwyddo cydraddoldeb ac uchafu cyfleoedd er mwyn i bobl gymryd rhan yn y prosiectau yr ydym yn eu hariannu.

Trwy roi cydraddoldeb wrth galon cynllunio a gweithredu prosiect, mae sefydliadau yn fwy tebygol o gyflawni gwell canlyniadau.

Am yr arweiniad hwn

Mae’r arweiniad hwn wedi’i gynllunio i’ch helpu chi i ddisgrifio a meddwl am eich arfer beunyddiol ar gydraddoldeb. Mae wedi’i anelu’n benodol at sefydliadau bach a chanolig gwirfoddol a chymunedol.

Bydd yn eich helpu i adnabod yr hyn yr ydych chi eisoes yn ei wneud yn dda yn eich ymdriniaeth tuag at gydraddoldeb a sut y gallech chi wella ar hynny hefyd. Mae’n rhoi cyngor ar sut i gynnwys cydraddoldeb wrth gynllunio prosiectau newydd ac mae’n esbonio ein hegwyddorion cydraddoldeb a pham ei bod yn bwysig talu sylw iddynt os ydych chi’n ymgeisio am grant oddi wrthym ni. Disgwyliwn i chi ddangos ymrwymiad i gydraddoldeb sy’n gymesur â natur a maint eich prosiect a sefydliad.

Yn olaf, mae’r arweiniad yn esbonio sut y disgwyliwn i’ch sefydliad weithredu egwyddorion cydraddoldeb unwaith y bydd gennych grant. Ceir ymarferion a chynghorion ymarferol, ynghyd â chamgymeriadau cyffredin y mae ymgeiswyr grantiau yn eu gwneud, ac enghreifftiau o arfer da o geisiadau blaenorol.

Materion Cydraddoldeb This is a practical guide. It is designed to help you think about and describe your everyday practice on equality. It is particularly aimed at small to medium sized voluntary ...
- 277KB
PDF

Rydym wedi paratoi ffurflen adborth cryno er mwyn ein helpu i wella ein harweiniad Materion Cydraddoldeb a byddem yn gwerthfawrogi eich barn.  Bydd eich adborth yn ddienw.

Arweiniad arfer da ar gyfer sefydliadau  bach a chanolig y sector gwirfoddol a chymunedol.

Cyflwyniad

  • Adran 1: Y Gronfa Loteri Fawr: ein hymdriniaeth tuag at gydraddoldeb
  • Adran 2: Ymgeisio i’r Gronfa Loteri Fawr: meddwl am gydraddoldeb o’r cychwyn cyntaf
  • Adran 3: Gan eich bod wedi ennill y grant: cydraddoldeb ar waith

Introduction

Mae cydraddoldeb o bwys i’r Gronfa Loteri Fawr. Rydym eisiau defnyddio arian y Loteri er mwyn cyflwyno newidiadau i gymunedau drwy ariannu pobl, prosiectau a rhaglenni, gyda phwyslais penodol ar fynd i’r afael ag angen. Mae’r arweiniad hwn yn rhan o’n gyriant i hyrwyddo cydraddoldeb ac uchafu cyfleoedd er mwyn i bobl gymryd rhan mewn prosiectau yr ydym yn eu hariannu.

Wrth roi cydraddoldeb wrth galon cynllunio a gweithredu’r prosiect, mae sefydliadau’n fwy tebygol o gyflawni canlyniadau gwell.

Ynghylch yr arweiniad hwn

Mae hwn yn arweiniad ymarferol. Fe’i cynlluniwyd i’ch helpu i feddwl ynghylch eich arfer dyddiol ar gydraddoldeb a’i ddisgrifio. Mae wedi’i anelu’n benodol at sefydliadau bach neu ganolig y sector gwirfoddol neu gymunedol, pa un a ydynt yn gwneud cais i’r Gronfa Loteri Fawr am arian ai peidio.

Nod yr arweiniad hwn yw’ch helpu i adnabod yr hyn yr ydych eisoes yn ei wneud yn dda yn eich ymdriniaeth tuag at faterion cydraddoldeb, a’ch helpu i adnabod sut y gallwch wella ar hynny. Serch hynny, yn y pendraw, eich dewis chi yw faint yr ydych chi eisiau ystyried materion cydraddoldeb.

Nod yr arweiniad yw’ch helpu mewn tair ffordd:

1. Mae’n rhoi help ymarferol ar sut i gynnwys cydraddoldeb wrth gynllunio prosiectau newydd.

2. Mae’n esbonio egwyddorion cydraddoldeb y Gronfa Loteri Fawr a pham ei bod yn bwysig talu sylw i’r rhain os ydych chi’n ymgeisio am grant y Gronfa Loteri Fawr. Yn gyffredinol byddem yn disgwyl i chi ddangos ymrwymiad tuag at gydraddoldeb, sy’n gyfatebol i natur a maint eich prosiect a sefydliad.

3. Mae’n esbonio sut y mae’r Gronfa Loteri Fawr yn disgwyl i’ch sefydliad weithredu cydraddoldeb ar ôl i chi dderbyn grant.

Ar hyd y ffordd, byddwn yn darparu ymarferion ac awgrymiadau ymarferol. Byddwn hefyd yn edrych ar rai o’r camgymeriadau cyffredin y mae ymgeiswyr grant yn eu gwneud, a byddwn yn darparu enghreifftiau o arfer da o geisiadau blaenorol i’r Gronfa Loteri Fawr.

Materion Cydraddoldeb This is a practical guide. It is designed to help you think about and describe your everyday practice on equality. It is particularly aimed at small to medium sized voluntary ...
- 277KB

Yn ôl i'r brig