Rydym wedi datblygu’r egwyddorion cydraddoldeb a ganlyn, a disgwyliwn i bawb yr ydym yn gweithio gyda hwy i gadw at yr egwyddorion hyn:
Mae hygyrchedd yn ymwneud â darparu gwasanaethau y gall pobl eu defnyddio’n weddol rwydd, heb dreulio gormod o amser na gwario gormod o arian ac sy’n sensitif i wahanol ddiwylliannau'r bobl sydd yn eu defnyddio.
Mae gan bobl wahanol anghenion, credoau, gwerthoedd a galluoedd a rhaid parchu a hyrwyddo’r gwahaniaethau hynny. Gall cael wyneb amrywiol cyhoeddus ein helpu i feithrin ymddiriedaeth a hyder ymhlith yr amryw gymunedau yr ydym yn ceisio eu hariannu, ac mae gweithlu amrywiol yn cynhyrchu cymysgedd gyfoethocach o syniadau a thalentau. Rydym hefyd yn credu ein bod yn fwyaf effeithlon ac effeithiol pan fo'n strwythurau gwneud penderfyniadau yn adlewyrchu barnau amrywiol y gymdeithas.
Rhaid datblygu ein polisïau, prosesau a rhaglenni newydd ar sail angen gwirioneddol. Golyga hyn y dylid cynnwys y bobl a fydd yn cael eu heffeithio ganddynt wrth eu datblygu. Gwyddom fod grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli’n draddodiadol, felly mae’n rhaid i ni weithio gyda’r grwpiau hynny i sefydlu strwythurau a darparu rôl fwy gweithredol ar eu cyfer wrth lunio'r gwaith yr ydym yn ei wneud. Yn y modd hwn gallwn annog cyfranogiad, didwylledd a gonestrwydd.
Rydym yn cydnabod bod rhai grwpiau yn gyffredin yn profi mynediad gwael at gyflogaeth, â llai o gyfleoedd hyfforddi ac wedi’u tangynrychioli yn y gweithlu, yn enwedig ar lefel uwch. Yn ychwanegol, gwyddom nad oes gan yr holl grwpiau'r un mynediad at wasanaethau a gallai eu profiadau o dderbyn gwasanaethau fod yn wael. Credwn er mwyn rhoi llwyfan cyfartal i bawb mae’n bosibl y byddwn angen trin pobl yn wahanol er mwyn eu helpu i gael yr un cyfle i gymryd rhan mewn cyflogaeth a chyfleoedd gwasanaeth.
Mae cymuned gydlynol yn un lle fo pobl yn teimlo’u bod yn perthyn. Lle fo’u bywydau yn cael eu gwerthfawrogi, a lle fo pobl gyda chyfleoedd bywyd tebyg yn datblygu perthnasau positif a chryf gyda phobl sydd o gefndiroedd gwahanol.
Rydym yn ariannu mentrau sy’n ymdrin ag achosion anfantais ac allgau, ac yn targedu ein harian ar brosiectau sy’n hyrwyddo cynhwysiant grwpiau sydd fwyaf wrth risg. Mae ein dealltwriaeth o’r hyn yw ‘anfantais’ ac “allgau” yn ystyried ffactorau megis profiad pobl o wahaniaethu.
Mae ein
Gweler ein Cynllun Cydraddoldeb Hil ac Anabledd amgaeedig Joint (Race, Disability and Gender) Equality Scheme December 2010 - 398KB yn tynnu sylw at ein hymrwymiad at sicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth galon ein polisïau a chyflwyno gwasanaeth. Mae hefyd yn dangos sut yr ydym wedi parhau i adeiladu ar ein llwyddiannau ac mae’n amlinellu cyfres o gamau a gynlluniwyd i gyflwyno canlyniadau y gellir eu harddangos.
Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth fynd i'r afael â’n hymrwymiadau a chasglu a dadansoddi gwybodaeth berthnasol, sydd wedi dylanwadu ar ôl hynny ar ein gwaith sicrwydd cydraddoldeb. Mae mwy ynghylch ein llwyddiannau yn ein hadroddiad cynnydd blynyddol cyntaf.