Skip to content
Cronfa Loteri Fawr / Big Lottery Fund

Search form

  

Chwiliad uwch

Llinell Gynghori Fawr:
01686 611 700

 

Cwestiynau a'i gofynnir amlaf

1. Beth yw cyfrifon cwsg?

2. Beth fydd yn digwydd i arian mewn cyfrifon cwsg?

3. Pam fod y Gronfa Loteri Fawr yn gysylltiedig?

4. Pa rôl fydd y Gronfa Loteri Fawr yn ei chwarae?

5. Faint o arian sydd ar gael?

6. Pa bryd fydd yr arian ar gael?

7. A fydd y Llywodraeth yn defnyddio’r arian i roi hwb i'w ariannu ei hun?

8. A yw Llywodraeth Cynulliad Cymru eisoes wedi penderfynu ar beth y bydd yr arian yn cael ei wario?

9. Beth yw’r blaenoriaethau ariannu arfaethedig?

10. Sut allaf i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad?

11. Faint o amser sydd gennyf i ymateb i'r ymgynghoriad?

1. Beth yw cyfrifon cwsg?
Mae cyfrifon cwsg yn gyfrifon banc a chymdeithas adeiladu nad yw cwsmeriaid wedi eu defnyddio am o leiaf 15 mlynedd.

2. Beth fydd yn digwydd i arian mewn cyfrifon cwsg?
Cyflwynodd y Trysorlys Fesur i'r Senedd ym mis Tachwedd 2007. Mae’r mesur yn amlinellu cynllun a fydd yn ailddosbarthu’r arian hyn nad yw wedi’i hawlio i gymunedau ar draws y DU.

3. Pam fod y Gronfa Loteri Fawr yn gysylltiedig?
Adnabuwyd y Gronfa Loteri Fawr fel y sefydliad mwyaf addas i gyflwyno’r gwaith hwn ar lefel y DU ond bydd yn gweithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig i adnabod blaenoriaethau ym mhob gwlad.

4. Pa rôl fydd y Gronfa Loteri Fawr yn ei chwarae?
Oherwydd bod gan y Gronfa Loteri Fawr yr isadeiledd, y gallu a’r arbenigedd eisoes i drin arian ar y raddfa hon, mae wedi’i dewis gan Lywodraeth y DU fel y sefydliad a fydd yn rhedeg y cynllun. Gofynnodd  Llywodraeth Cynulliad Cymru i'r Gronfa Loteri Fawr ymgynghori gyda budd-ddeiliaid ar sut y dylai arian cyfrifon cwsg gael ei wario yng Nghymru.

5. Faint o arian sydd ar gael?
Mae'n aneglur ar hyn o bryd faint o arian sydd ar gael o gyfrifon cwsg.  Cyflwynwyd amcangyfrifon diwydiannol i Bwyllgor Dethol y Trysorlys gan Gymdeithas Bancwyr Prydain (BBA) a Chymdeithas y Cymdeithasau Adeiladu (BSA) yn 2007, oedd yn awgrymu gallai tua £400-500m  fod mewn cyfrifon cwsg yn y DU. Bydd yr arian hwn yn cael ei drosglwyddo i Gronfa Hawlio’n Ôl, a fydd yn gyfrifol am reoli’r risg o hawlio’n ôl, pan fydd perchnogion wedi eu huno a’u hasedau.

Trosglwyddir gweddill yr arian i’r Gronfa Loteri Fawr a’i rannu rhwng gwledydd y DU. Mae'n anodd amcangyfrif ar hyn o bryd faint o arian fydd ar gael i bob gwlad gan nad ydym yn gwybod faint o arian fydd yn mynd i’r gronfa hawlio’n ôl na faint o arian fydd angen ar gyfer ail uno, ond rydym yn disgwyl i swm sylweddol o arian gael ei fuddsoddi yng Nghymru.

6. Pa bryd fydd yr arian ar gael?
Bydd y cynllun yn cael ei lansio yn ystod 2010.

7. A fydd y Llywodraeth yn defnyddio’r arian i roi hwb i'w ariannu ei hun?
Yng Nghymru, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn penderfynu sut y bydd arian cyfrifon cwsg yn cael ei wario. Rhaid gwario’r arian ar bethau sy’n ychwanegol at yr hyn mae’r Llywodraeth eisoes yn ei ddarparu.

8. A yw Llywodraeth Cynulliad Cymru eisoes wedi penderfynu ar beth y bydd yr arian yn cael ei wario?
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi adnabod blaenoriaethau gwario sy’n rhannu i ddau faes buddsoddi. Maent wedi gofyn i'r Gronfa Loteri Fawr gasglu barnau ar y blaenoriaethau arfaethedig a sut i gyflwyno’r fenter.

9. Beth yw’r blaenoriaethau ariannu arfaethedig?
Y ddau faes buddsoddi a ddewiswyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yw:

  • Cefnogi pobl ifanc i gyflawni eu llawn botensial gan weithio trwy’r trydydd sector i hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol
  • Taclo newid hinsawdd a hyrwyddo datblygiad cynaliadwy ehangach drwy weithgaredd penodol yn y gymuned.

10. Sut allaf i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad?
Mae’r ddogfen ymgynghori ar gael ar wefan y Gronfa Loteri Fawr. Gallwch ei llenwi yn electronig a’i hanfon at cyfrifoncwsgcymru@cronfaloterifawr.org.uk.  Os ydych chi’n dymuno copi papur, cysylltwch â Betty Smith ar 01686 611702.

Bydd y Gronfa Loteri Fawr hefyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar draws Cymru yn ystod y cyfnod ymgynghori. Cyhoeddir manylion y digwyddiadau ar wefan y Gronfa Loteri Fawr a gwefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.

11. Faint o amser sydd gennyf i ymateb i'r ymgynghoriad?
Cynhelir yr ymgynghoriad am 14 wythnos o Ddydd Gwener 8 Awst 2008. Dylai eich ymateb gyrraedd erbyn 5pm ar 14 Tachwedd 2008.

Yn ôl i'r brig

Geographical region navigation

Cronfa Loteri Fawr yn:

Cymru

English