Ymgynghoriad Cyfrifon Cwsg

Filter this website by UK country or region

Mae’r gronfa cyfrifon cwsg, a nodwyd gan Drysorlys y DU, yn cynnwys cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu nad ydynt wedi eu defnyddio gan gwsmeriaid am o leiaf 15 mlynedd. Mae’r Llywodraeth wedi bod yn gweithio i ganiatáu i’r arian gael ei ail fuddsoddi mewn cymunedau. Mae'n aneglur ar hyn o bryd faint o arian sydd ar gael o gyfrifon cwsg, ond rydym yn disgwyl i swm sylweddol o arian gael ei fuddsoddi yn ystod bywyd y gronfa, ac rydym angen eich cymorth chi i benderfynu sut ac ymhle dylid ei wario.

Mae’r ddogfen ymgynghorol, sydd ar y wefan yma, yn amlinellu rhai o’r blaenoriaethau mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, wedi eu nodi ar gyfer y gronfa.

Nodwyd mai Cronfa Loteri Fawr (CLF) yw’r sefydliad mwyaf addas i gyflawni’r gwaith. Yng Nghymru mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gofyn i CLF ymgynghori gyda budd-ddeiliaid allweddol a phartïon perthnasol i gasglu syniadau ar y blaenoriaethau a argymhellwyd, a’r ffordd orau i gyflawni’r fenter hon.

Bydd cyfnod yr ymgynghoriad yn rhedeg am 14 wythnos o'r 8fed Awst 2008 ac felly mae digon o amser gennych i gyfrannu eich barn, un ai trwy ymateb i'r ddogfen ymgynghori ei hun, neu drwy fynychu un o'r digwyddiadau y bydd y Gronfa Loteri Fawr yn eu trefnu ledled y wlad ym mis Medi a Hydref. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu un o'r digwyddiadau cysylltwch â Betty Sue Smith am fwy o fanylion cyfrifoncwsgcymru@cronfaloterifawr.org.uk neu ffoniwch: 01686 611 702.

Bydd yr ymatebion yn cael eu casglu a’u dadansoddi gan CLF a’u cyflwyno i Lywodraeth Cynulliad Cymru i’w hystyried yng Ngwanwyn 2009. Cyhoeddir y blaenoriaethau gwario a’r peirianwaith ar gyfer gweithredu’r gronfa cyfrifon cwsg a gytunwyd, yn haf 2009.

Darllen Gweithredu cynllun cyfrifon cwsg yng Nghymru: ymgynghoriad This consultation document outlines some of the priorities we, as Welsh Assembly Government, have identified for the fund. This is based on evidence we have of the areas of ne...
- 2,826KB

Gweld y Cwestiynau a'i gofynnir amlaf

Yn ôl i'r brig