Aelodau pwyllgor Cymru

Filter this website by UK country or region

Huw Vaughan Thomas

Huw Vaughan Thomas

Cadeirydd Cymru

Mae gennym gyfle euraidd yng Nghymru i estyn allan a chefnogi pobl o oedrannau a galluoedd amrywiol a helpu’r rhai sy’n wynebu materion arbennig neu anfanteision mewn cymdeithas

Mae Hugh Vaughan Thomas wedi bod yn Gyfarwyddwr ar Taro Consultancy Ltd, cwmni wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru, sy’n arbenigo mewn gwaith polisi sefydliadol, llywodraethol ac economaidd yn y sector cyhoeddus, er Mehefin 2001. Ar hyn o bryd mae'n gynrychiolydd y defnyddiwr ar y Cyngor Cymhorthion Clyw ac yn aelod annibynnol o'r Bwrdd Parôl. Yn ddiweddar bu’n gwasanaethu fel Aelod o’r Comisiwn ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Treuliodd ei yrfa gynnar yn y gwasanaeth sifil a llywodraeth leol. Mae’n gyn Brif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, cyn Brif Weithredwr Cyngor Sir Gwynedd, a chyn Gyfarwyddwr Cymru'r Comisiwn Gwasanaethau Gweithlu ac Adran Gyflogaeth. Mae ei benodiadau gwirfoddol a chyhoeddus blaenorol, ymhlith eraill, yn cynnwys bod yn aelod o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Aelod o Gyngor Prince’s Trust, Cymru, aelod o Bwyllgor Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, ymddiriedolwr Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw ac aelod lleyg Cyngor Llywodraethu Cymdeithas y Cyfreithwyr.