Gwybodaeth am Gymru  

Filter this website by UK country or region

Cyflwynir arian trwy raglenni sydd wedi’u cynllunio a’u datblygu i adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau lleol. Gwneir penderfyniadau ar y grantiau a ddyfernir ym mhob rhaglen gan y pwyllgorau rhaglen sy’n cael eu recriwtio yng Nghymru.

Mae ein rhaglenni ariannu yn bodloni’r themâu, y canlyniadau a’r blaenoriaethau a amlinellir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Fe wnaethom eu datblygu ar ôl ymgynghori gyda’r sectorau gwirfoddol a chyhoeddus.

Yn tanategu ein gwaith y mae ymrwymiad i’n gwerthoedd, gydag egwyddorion sy’n dylanwadu ar ein hymdriniaeth tuag at ariannu. Rydym eisiau rhoi  gwasanaeth o’r radd flaenaf i chi, ein cwsmeriaid, a’i gwneud yn hawdd i chi ganfod sut i gael mynediad at arian y loteri.

Mae Pwyllgor Cymru wedi’i recriwtio ar gyfer strategaeth, polisi, cynllunio a rheoli rhaglenni yng Nghymru. Er mwyn eu cefnogi mae gennym dîm rheoli ar gyfer Cymru sy’n cynnwys tair uned fusnes:

  • Rhaglenni a Datblygiad
  • Polisi a Materion Allanol
  • Cynllunio a Chefnogaeth, wedi’i arwain gan Gyfarwyddwr Cymru

Yn ôl i'r brig