Gwraig 1
Gweledigaeth y Gronfa Loteri Fawr yw helpu’r cymunedau a’r bobl fwyaf anghenus felly rydym yn ceisio cyfeirio ein holl arian i'r ardaloedd lle fo pobl angen arian y loteri fwyaf mewn gwirionedd. Ac rydym yn ariannu’r hyn mae pobl eisiau ei wneud, yr hyn maen nhw’n teimlo a fydd yn rhoi gwell synnwyr o les iddynt a theimlad o berthyn i'w cymunedau
Gwraig 2
Mae’r arian gan y Gronfa Loteri Fawr wedi ein galluogi ni i gynnal ystod helaeth o raglenni ar gyfer ein pobl ifanc, a’r rhai gorfodol fyddai pethau fel gwneud cyrsiau ymwybyddiaeth cyffuriau ac alcohol, cyrsiau rhywioldeb, cyrsiau cyfrifiadurol, cyrsiau meithrin gallu, a hefyd yr ochr hwyliog megis dosbarthiadau coginio, megis cystadleuaeth bwl, a’r ddrama.
Gwraig 3
Wel mae llawer o ddatblygiad personol wedi bod, o fewn y prosiect hefyd, wyddoch chi, dod i adnabod pobl newydd a gallu agor a siarad â phobl nad ydych chi wedi cwrdd â hwy o’r blaen, gan na fyddwn i wedi gwneud hynny o’r blaen, roeddwn i’n arfer bod ychydig yn swil ac yn fy nghragen, fyddech chi ddim yn meddwl hynny’n awr, yn bendant rwy’n fwy hyderus.
Dyn 1
Y rhan cyffrous i mi yw gwybod fod pobl yn dod trwodd a fydd â diddordeb, nid yn unig yn y clwb hwn, ond y gymuned hon hefyd, a’u bod yn mynd i ofalu a datblygu'r diddordeb hwnnw a sicrhau dyfodol eu teuluoedd, y clwb a'n cymuned ar gyfer y dyfodol hyd y gellir ei ragweld yn yr hirdymor.
Gwraig 4
Mi wnaeth fy un ffrind fy nghyflwyno i, i’r Bharatiya Ashram sydd ar agor yma, ac rwy’n mynd i mewn, ac yn gweld pobl sy’n perthyn i fy ngwlad, maent yn siarad yr un iaith ac rwy’n gofyn ynghylch popeth, daeth rhywun a thrafod help yn y cartref, budd-daliadau pensiwn, os ydych chi angen help rydych chi’n ffonio’r rhif hwn a’r rhif hwn fel hyn. A hefyd mae fideo, teledu a chyfrifiadur yn cael eu darparu.
Gwraig 5
Dydych chi ddim yn clywed am lawer o’r cyfleusterau hyn yma yn Dundee ta beth, ac mae llawer o bobl yn talu am eu sesiynau tiwtorial tra bod y rhain ar gyfer y gymuned, felly mae ar gael i bawb, gallwch alw i mewn ac ymuno pa bryd bynnag yr ydych chi eisiau.
Dyn 2
Credaf ei fod yn cael effaith fawr iawn, ac mae pobl yn ymdrechu, credaf ei fod yn ddefnyddiol iawn, wyddoch chi, pobl sydd efallai’n ofnus yn yr ysgol, gofyn i athrawon ddod yma, felly mae’n sesiwn un i un, mae’n gyfeillgar iawn ac mae yn help mewn gwirionedd.
Gwraig 6
Mae’n golygu llawer oherwydd yn y ffug arholiadau mi gefais farc gwael iawn ond rwyf wedi gwella arno trwy ddod yma.
Gwraig 7
Fy nghysylltiad â’r prosiect oedd fy mod yn gysylltiedig â’r calonnau a’r meddyliau a oedd yn ceisio hyrwyddo calonnau iach ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu a phroblemau iechyd meddwl.
Dyn 3
Ariannwyd y prosiect yn wreiddiol i gael tua 800 o bobl o fewn y flwyddyn gyntaf, a dweud y gwir mae dros 4000 o bobl wedi defnyddio’r cyfleuster, yn bennaf gan nad oes dim byd tebyg i hyn o fewn Gogledd Cymru.
Dyn 4
Cefais drawiad ar y galon ychydig dros flwyddyn yn ôl ac ar ôl gadael yr ysbyty dywedwyd wrthyf am yr uned adsefydlu sy’n gweithredu yma, roedd y rhaglen yn cynnwys rhyw faint o weithgaredd corfforol er mwyn eich cael yn ôl i siâp corfforol, a hefyd i adfer eich hyder.
Dyn 5
Fe wnaeth helpu trawstoriad mawr o bobl, a phobl na fyddent fel arfer yn cael y cyfle i fynd ar feiciau. Credaf fod y budd iechyd yn wych a hefyd y gallu i bobl ddod a chymdeithasu.
Dyn 4
Mae gan y prosiect pwer pedalau werth aruthrol i mi, ac nid dim ond y fi, mae nifer fawr o bobl wedi profi hyn, mae llawer ohonynt wedi cael eu ffitrwydd yn ôl ac wedi dychwelyd i'r gwaith.
Gwraig 8
Roedd hwn yn dir diffaith yn perthyn i’r adran addysg, ac roedd pobl yn ei ddefnyddio i gerdded trwodd, ac yn dympio pob mathau o bethau.
Dyn 6
Dechreuodd y gwaith caled bryd hynny oherwydd roedd yn rhaid i ni ddod o hyd i'r arian, i ailddatblygu’r safle, felly pan ddaeth yr arian hwnnw, roedd e'n fendith, yn ateb i'n holl weddïau.
Gwraig 9
Rydych chi’n gweld rhai plant, sydd wedi newid yn gyfan gwbl, ac mae ganddynt ffocws, mae gennym blant sy’n byw ar gyfer y clwb garddio, sy’n byw er mwyn dod draw a gweld beth sy’n digwydd.
Plentyn
Rwyf wedi dysgu i beidio â niweidio planhigion gan eu bod yn bethau byw, ac y dylech chi eu parchu gan eu bod yn wych ac yn hyfryd ac yn eich cadw’n fyw, felly maen nhw’n eich helpu chi mewn gwirionedd.
Gwraig 10
Ac roedd derbyn arian gan y Gronfa Loteri Fawr yn dda iawn i ni, ar gyfer y 5 mlynedd nesaf, bellach gallwn osod y sylfeini i ddod yn hunan gynaliadwy ac wrth i'r arian yr ydym wedi gofyn amdano ddod i ben, rydym am gynhyrchu ein harian ein hunain a thalu ein ffordd. Sef yr hyn y byddwn yn ei wneud.
Gwraig 11
Mae cael arian gan y Gronfa Loteri Fawr yn wych, oherwydd mae’n golygu y gallwch chi ddatblygu’r prosiect o ddifrif.
Dyn 7
Mae wedi caniatáu i ni dyfu, a chredaf fod hynny’n hanfodol oherwydd eich dymuniad cyson yw ehangu.
Dyn 8
Mae wedi rhoi’r sicrwydd i ni edrych ymhellach na blwyddyn ymlaen, sef yr hyn yr oeddem yn ei wneud am nifer o flynyddoedd.
Dyn 9
Heb y Gronfa Loteri Fawr ni fyddai gennym ryw lawer. Yn bendant ni fyddai gennym lawer.